Ewch i’r prif gynnwys

Baich o Ymwrthedd i Wrthfiotigau mewn Babanod Newydd-anedig o Gymdeithasau Datblygol (BARNARDS)

Mae'r astudiaeth hon yn ymchwilio i ffynonellau pathogenau sy'n arwain at sepsis mewn babanod newydd-anedig mewn gwledydd datblygol a ffynonellau posibl o ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Cyflwyniad

"Gweithio i sicrhau nad yw'r annychmygol yn dod yn anochel"

Mae ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR) bellach yn cael ei gydnabod fel un o'r bygythiadau byd-eang mwyaf difrifol i iechyd dynol yn yr 21ain ganrif. Mae tystiolaeth o fomentwm gwleidyddol trwy gymeradwyaeth i ddatganiadau gan lywodraethau'r DU a'r Unol Daleithiau, WHO a CDC yn disgrifio argyfwng byd-eang a thrychineb arfaethedig o symud i oes ôl-wrthfiotigau.

Mae gwledydd datblygol yn ysgwyddo 99% o farwolaethau newyddenedigol ledled y byd (WHO) gyda heintiau fel tetanws, niwmonia a sepsis yn gweithredu fel prif achosion marwolaeth newyddenedigol. Mae mwy o ymwrthedd i wrthfiotigau mewn bacteria, gan gynnwys pathogenau MDR, yn ei gwneud hi'n anoddach trin heintiau, gydag ymwrthedd yn codi yn erbyn y triniaethau a ddefnyddir pan fetha popeth arall.

Roedd cam cyntaf BARNARDS (2015-2018; a ariannwyd gan y Bill & Melinda Gates Foundation) a sefydlwyd ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymchwilio i bwysigrwydd bacteria Gram-negyddol (GNB) ag Ymwrthedd Aml-Gyffur (MDR), yn enwedig Enterobacteriaceae, mewn sepsis newyddenedigol mewn 4 gwlad yn Affrica a 3 yn Ne-ddwyrain Asia.

Mae'r prif ganfyddiadau ar gyfer yr astudiaethau hyn i'w gweld yn Nature Microbiology, Lancet Global Health a Lancet Infectious Diseases. Fodd bynnag, yn ystod yr astudiaethau hyn, daeth i’r amlwg fod nifer cyfartal o feithriniadau gwaed yn bositif ar gyfer bacteria Gram-bositif, sy'n ffurfio ffocws cam II BARNARD (2021-2026; a ariannwyd gan Ineos Oxford Institute) ym Mhrifysgol Caerdydd, tra bod gwaith parhaus ar sepsis bacteriol Gram-negatif wedi symud i Brifysgol Rhydychen.

Nodau

Nod cam II BARNARDS (Baich o Ymwrthedd i Wrthfiotigau mewn Babanod Newydd-anedig o Gymdeithasau Datblygol) yw ehangu ymchwiliadau ar effeithiau ymwrthedd i wrthfiotigau ar forbidrwydd a marwolaethau newyddenedigol mewn gwledydd incwm isel-canolig (LMICau), gan gynnwys nifer fwy o ysbytai mewn mwy o LMICau, a nodi atebion posibl i leihau'r effaith mewn sepsis newyddenedigol.

Bydd tîm Prifysgol Caerdydd yn arwain pob ymchwiliad am arunigion bacteria Gram-bositif a ddarganfuwyd yn llif gwaed babanod newydd-anedig o'r ysbytai sy'n recriwtio o ysbytai sy'n cymryd rhan yn Affrica a De-ddwyrain Asia. Byddwn yn edrych am ffactorau cyfryngu gwenwyndra pwysig ac yn archwilio mam y baban newydd-anedig a'u hamgylchedd fel ffynonellau posibl o'r haint hefyd.

Datblygwyd rhwydwaith o ganolfannau newyddenedigol mewn gwledydd incwm isel-canolig drwy gydweithio â gwyddonwyr/clinigwyr newyddenedigol blaenllaw o safleoedd astudio. Gyda cham II BARNARDS, bydd mwy o ysbytai yn cymryd rhan dros bob gwlad ac mae sawl ysbyty yn Nigeria, Pacistan a Bangladesh eisoes yn cymryd rhan.

Mae gwaith ar y gweill i ehangu'r rhwydwaith hwn i ysbytai yn yr Aifft, Rwanda, Burundi, Mozambique a Sierra Leonne. Bydd canolfannau clinigol ar y safleoedd hyn yn casglu data cleifion perthnasol a samplau gan famau sydd wedi cytuno i gymryd rhan yn yr astudiaeth yn ogystal â samplau o fabanod newydd-anedig sy'n dangos arwyddion o haint ac yn prosesu sbesimenau microbiolegol yn lleol.

I ddechrau, anfonir samplau at Ineos Oxford Institute lle byddant yn cael eu gwahanu i facteria Gram-negatif (yr ymchwilir iddynt ym Mhrifysgol Rhydychen) a bacteria Gram-bositif (a fydd i gyd yn cael eu hanfon i Brifysgol Caerdydd i'w nodweddu'n llawn). Yma byddwn yn pennu'r tueddiad gwrthficrobaidd yn erbyn ystod eang o wrthfiotigau, yn perfformio dilyniannu genom cyfan darlleniad hir (Nanopore) a darlleniad byr (Illumina) ar bob arunigyn a dderbynnir.

Yna bydd straeniau cynrychioliadol yn cael eu profi am wenwyndra, y gallu i "roi" eu genynnau ymwrthedd i facteria eraill wedi’u cyd-meithrin, a bydd swabiau o fam y baban newydd-anedig ac amgylchoedd yr ysbyty ar adeg yr haint yn cael eu harchwilio i weld a ellir adnabod y ffynhonnell o facteria gwenwynig neu facteria ag ymwrthedd aml-gyffur.

Bydd dadansoddiad sy'n ymestyn ar draws y rhwydwaith cydweithredol cyfan yn cael ei berfformio i nodi atebion posibl i wella gwaith canfod ac argymell newidiadau i therapïau llinell gyntaf ar raddfeydd cenedlaethol a rhanbarthol mewn ymdrech i wella goroesiad a thriniaeth heintiau newyddenedigol ymledol yn y LMIC.

Crynodeb o'r nodau:

  • Canfod patrymau ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn bacteria Gram-bositif o sepsis newyddenedigol mewn gwledydd datblygol
  • Adnabod ffynonellau o ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn babanod newydd-anedig
  • Gallai canlyniadau'r astudiaeth hon arwain at astudiaethau ymyriadol sy'n gysylltiedig â thriniaeth i sicrhau bod sepsis yn cael ei drin â gwrthfiotigau ac arferion Atal a Rheoli Heintiau priodol.

Prosiectau

Arweinir grŵp cam II BARNARDS gan Ineos Oxford Institute, gyda'r holl ymchwiliadau Gram-bositif yn cael eu harwain gan Brifysgol Caerdydd, ac mewn cysylltiad â phartneriaid ymchwil rhyngwladol yn Nigeria, Pacistan a Bangladesh (a gobeithio hefyd yn fuan gyda'r Aifft, Rwanda, Burundi, Mozambique a Sierra Leonne.

Partneriaid y prosiect

Nigeria

Pum safle ysbyty – manylion i ddod yn fuan!

Pacistan

Pum safle ysbyty – manylion i ddod yn fuan!

Bangladesh

Pum safle ysbyty – manylion i ddod yn fuan!

Rwanda

Rydym yn gobeithio y gall dau safle a oedd yn rhan o gam cyntaf BARNARDS ymuno a chydlynu safle ychwanegol yn Burundi hefyd.

Yr Aifft

Un safle wedi’i nodi ar hyn o bryd, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i'w hychwanegu fel un o'r cyfranogwyr.

Mozambique

Mae cydweithredwyr a safleoedd clinigol yn gobeithio ymuno - mae ffynonellau cyllid yn cael eu ceisio’n weithredol.

Sierra Leonne

Mae cydweithredwyr a safleoedd clinigol yn gobeithio ymuno - mae ffynonellau cyllid yn cael eu ceisio’n weithredol.

Cwrdd â’r tîm

Arweinydd Prifysgol Caerdydd

Staff academaidd

Picture of Ian Boostrom

Mr Ian Boostrom

Rheolwr Labordy, Ymchwil Microbioleg Meddygol

Email
Boostrom@caerdydd.ac.uk

Lluniau