
Dr Angharad Naylor
Uwch-ddarlithydd
- nayloraw@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 9007
- 1.63, Adeilad John Percival , Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU
- Siarad Cymraeg
- Ar gael fel goruchwyliwr ôl-raddedig
Trosolwg
Rwy'n Uwch ddarlithydd ac yn Diwtor Personol Hŷn yn Ysgol y Gymraeg. Rwyf hefyd yn Bartner Academiadd, Cefnogi Dysgu Personol yn Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd.
Yn Ysgol y Gymraeg, rwy'n arwain modiwl C3660 Yr Ystafell Ddosbarth ar lefel 6 (blwyddyn 3), modiwl CY2205 Yr Iaith ar Waith ar lefel 5 (blwyddyn 2) ac yn cyfrannu at lawer o fodiwlau sy'n cynnwys agweddau ar iaith, diwylliant a llenyddiaeth.
Yn yr Academi Dysgu ac Addysgu rwy'n Bartner Academaidd sy'n arwain ac yn gweithio ar y prosiect Cefnogi Dysgu Personol. Mae'r prosiect hwn yn edrych ar ffyrdd i ddatblygu ac atgyfnerthu'r gefnogaeth sydd ar gael i staff a myfyrwyr trwy ystod o gyfleoedd a gweithagrwch gan gynnwys tiwtora personol.
Diddordebau ymchwil
- Addysgeg
- Addysgeg iaith
- Cynllunio a chreu cwricwlwm
- Dysgu ac addysgu'r Gymraeg fel ail iaith
- Cefnogi dysgu personol - tiwtora personol, mentora, cymunedau dysgu, datblygu profiadau myfyrwyr
Bywgraffiad
Anrhydeddau a Dyfarniadau
2022: Rhestr fer Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd, categori Hyrwyddwr Addysg Gymraeg
2019: Rhestr fer Gwobrau Darlithwyr Cysylltiol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, categori Hyrwyddwr Addysg Gymraeg
2017: Enwebiad Gwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd; categori Rhagoriaeth wrth ddatblygu profiadau myfyrwyr
2013 - presennol: enwebiadau ar gyfer Gwobraeu Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd; categori Tiwtor Personol; Hyrwyddwr Addysg Gymraeg, Aelod o Staff Ysbrydoledig; Arwr COVID-19; Aelod o Staff Mwyaf Cynorthwyol (cyrraedd y Rhestr Fer yn 2013, 2016, 2022)
Aelodaethau proffesiynol
Cymrawd yr Academi Addysg Uwch
Pwyllgorau ac adolygu
Haf 2022: Cymedrolydd ar ran y Coleg Cymraeg Cenedlaethol - mewn perthynas â chais Llywodraeth Cymru i’r Coleg gyflawni gwaith mewn perthynas â sgiliau iaith Gymraeg myfyrwyr ym maes Addysg Gychwynnol Athrawon.
2020 – presennol: Arholwr Allanol Prifysgol De Cymru: Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg; Modiwlau Eich Gyrfa(lefel 4, 5, 6)
2018 – presennol: Arholwr Allanol Prifysgol Bangor: Rhaglen y Cynllun Sabothol Cenedlaethol
2017 – presennol: Arholwr Allanol Prifysgol y Drindod Dewi Sant: Rhaglen y Cynllun Sabothol Cenedlaethol
Addysgu
Addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd
Rwy'n arwain modiwl CY3600 Yr Ystafell Ddosbarth (lefel 6) sy'n cynnig cyfleoedd i ystryied agweddau ar y cwriclwm, addysgeg, addysgeg iaith a chyd-destun dysgu ac addysgu'r Gymraeg yn benodol.
Rwy'n arwain CY2205 Yr Iaith ar Waith yn yr ail flwyddyn sy'n cynnig profiadau ymarferol i fyfyrwyr ystyried y defnydd o'r Gymraeg mewn cyd-destunau proffesiynol. Mae myfyrwyr yn cwblhau lleoliadau profiadau gwaith ar y modiwl hwn.
Rwyf hefyd yn arwain a dysgu (neu wedi arwain a dysgu) modiwlau ar yr iaith Gymraeg a modiwlau llenyddol. Mae'r modiwlau hyn yn cynnwys:
- Sgiliau Llafar (yn y Gymraeg)
- Sgiliau Astudio Llenyddiaeth
- Sgiliau Academaidd Uwch
- Y Gymraeg heddiw
- Y Gymraeg yn y Gymru gyfoes
- Iaith ac Ystyr
- Awdur, Testun a Darllenydd
- Blas ar Ymchwil
- Ymchwilio Estynedig
- Ymchwilio Estynedig Proffesiynol
- MA - Pwnc arbenigol 2 (llwybr ieithyddiaeth, gan ganolbwyntio'n benodol ar gynllunio cwricwlwm ac addysgeg iaith
Addysgu Blaenorol ym maes Cymraeg i Oedolion
Rwyf wedi addysgu ar y cyrsiau canlynol ar gyfer oedolion sy'n dysgu'r Gymraeg:
- Cynllun Sabothol Cenedlaethol ar gyfer hyfforddiant iaith Gymraeg
- Cymraeg i Oedolion
- Rheolwr Prosiect Cymraeg i Bawb (Prifysgol Caerdydd)