Ewch i’r prif gynnwys

Sbectolau

Y clinig llygaid ar ein safle
Y clinig llygaid ar ein safle

Mae gennym ddewis mawr o fframiau ffasiynol am brisiau cystadleuol.

Yn ogystal, rydym yn cynnig amrediad o lensys arbennig i gwrdd â'ch anghenion penodol:

  • Mae atalwyr uwchfioled yn gwarchod eich llygaid oddi wrth effeithiau diangen ymbelydredd UF.
  • Mae lensys amryffocal yn eich helpu i ddarllen heb yr angen am lensys deuffocal amlwg.
  • Mae lensys indecs uchel yn gwneud eich sbectolau'n deneuach ac yn ysgafnach.
  • Mae haenau sy'n gwrthsefyll crafiadau yn helpu i warchod eich lensys.
  • Mae lensys gyda haen wrth-adlewyrchu yn gwneud eich lensys yn llai amlwg ac yn helpu i gael.gwared ag adlewyrchiadau diangen gyda'r nos.
  • Mae lensys ffotocromig yn troi eich sbectol i sbectol haul pan mae'r haul allan.

 Yn ogystal, gallwn gyflenwi sbectolau diogelwch, gwydrau nofio sydd wedi'u cywiro'n optegol a sbectolau ar gyfer chwaraeon.