Ewch i’r prif gynnwys

Partneriaid ym Maleisia yn croesawu Pennaeth Ysgol newydd i Kuala Lumpur

16 Mawrth 2023

The iconic Petronus Twin Towers in the evening, taken from KL Suira park
The iconic Petronus Twin Towers in the evening, taken from KL Suira park

Ym mis Mawrth eleni, ymwelodd yr Athro Warren Barr, Pennaeth Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, â Kuala Lumpur, Malaysia unwaith yn rhagor, i gwrdd ag adrannau'r Gyfraith yn sefydliadau’n partneriaid yn Malaysia ac i archwilio posibiliadau gyda darpar bartneriaid newydd. Roedd taith yr Athro Barr yn dilyn ymweliad llwyddiannus ym mis Tachwedd 2022, ac mae’n tanlinellu pwysigrwydd ein myfyrwyr rhyngwladol.

Cyfarfod â Staff Cyfadran y Gyfraith, Cyfadran y Gyfraith, Universiti Kebangsaan Malaysia (UKM)

Yn gyntaf, trefnwyd cyfarfod â chydweithwyr o Brifysgol Genedlaethol Malaysia (UKM), ynghylch trefniadau cydweithredol posibl rhwng adran y gyfraith Caerdydd a Chyfadran y Gyfraith UKM. Roedd hyn yn arbennig o gyffrous, gan mai hwn fyddai ein trefniant cydweithio cyntaf gyda Phrifysgol gyhoeddus i addysgu'r gyfraith.

Faculty staff at UKM, with Prof Jady (Dean) presenting Professor Barr with a small gift
Faculty staff at UKM, with Prof Jady (Dean) presenting Professor Barr with a small gift

Ffair Recriwtio Prifysgol HELP y DU a Darlith Wadd

Es i wedyn i ffair recriwtio Prifysgol HELP, oedd yn gweld diddordeb cyson yn y gyfraith a phynciau eraill i’w hastudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Rhoddais hefyd ddarlith wadd i fyfyrwyr Blwyddyn 1 y gyfraith ar bwnc ymchwil yn ymwneud â defnyddio elusennau ffug wrth ariannu terfysgaeth.

Darlith BAC Cyfraith Tir

Ar ail ddiwrnod fy nhaith, roeddwn yn ôl yng Ngholeg Asia Brickfield (BAC), yn darlithio i fyfyrwyr Blwyddyn 2 mewn Cyfraith Tir. Y pwnc oedd trosolwg o feddiant llwyr-gyfyngedig. Dyma oedd fy mhrofiad addysgu cyntaf yn BAC yn cynrychioli Caerdydd, a’m sesiwn addysgu wyneb yn wyneb gyntaf yno ers mis Hydref 2019. Roedd yn wych bod yn ôl, ac roedd myfyrwyr, fel y cofiaf, yn frwdfrydig ac yn bleser i'w haddysgu.

Teaching at Brickfield’s College Asia College (BAC)
Teaching at Brickfield’s College Asia College (BAC)

Cyfarfod Briffio a Chyfarfod Ysgol y Gyfraith Taylor

Mae bob amser yn bleser ymweld â champws hyfryd Taylor ar lan y llyn, ac roedd dau reswm gennyf dros yr ymweliad hwn. Yn gyntaf, rhoddais sgwrs bynciol, gan amlygu pam y dylai myfyrwyr Taylor ddewis Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth fel eu partner Trosglwyddo yn y DU. Cynhaliwyd hyn ar-lein, gan fod hyn y tu allan i amser tymor y myfyrwyr. Roeddwn hefyd yn Taylor's, i gwrdd a thrafod gyda Dr Harmahinder Singh, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Taylor, am gydweithrediadau ymchwil posibl rhwng Caerdydd a staff Taylor, yn ogystal ag am faterion addysg drawswladol.

Professor Barr and Dr Harmahinder Singh
Professor Barr and Dr Harmahinder Singh
Meeting potential students at the Cardiff offer holder event
Meeting potential students at the Cardiff offer holder event

Digwyddiad i ddeiliaid cynnig Caerdydd

Digwyddiad olaf yr ail ddiwrnod oedd cymryd rhan mewn digwyddiad pwrpasol i ddeiliaid cynigion yng Ngwesty’r One World, Petaling Jaya.  Roedd hyn ar ffurf sgwrs, a gyflwynwyd ar y cyd gan Sian Keepin o Dîm Rhyngwladol y Brifysgol a minnau, ac a ddilynwyd gan sesiwn holi ac ateb fywiog gyda deiliaid cynigion Caerdydd a'u rhieni neu ffrindiau.

Cyfarfod Consortiwm BAC a Gweithdy Datblygu Staff

Ar Ddiwrnod 3, cefais y pleser o gadeirio 23ain cyfarfod Consortiwm Trosglwyddo Partneriaid y DU ar gampws PJ BAC. Roedd y materion a drafodwyd yn amrywiol, gan gynnwys cynlluniau addysg y BAC ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â diweddariadau allweddol gan holl aelodau'r Consortiwm.

Dilynwyd hyn gan weithdy Datblygu Staff y Consortiwm, wedi’i gadeirio unwaith yn rhagor gen i. Roedd y gweithdy, a oedd yn cynnwys cyflwynwyr o bartneriaid Consortiwm y DU, ac o staff BAC, yn ystyried 3 mater eang: (i) Gwahaniaethu rhwng llên-ladrad ac arfer academaidd gwael; (ii) paratoadau o safbwynt sgiliau cyfreithiol ar gyfer myfyrwyr; a (iii) llunio cwestiynau effeithiol ar gyfer asesiadau Lefel 4 a 5 y Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (FHEQ).

UK Transfer Consortium hard at work
UK Transfer Consortium hard at work
In conversation with prospective candidates
In conversation with prospective candidates

Ffair Addysg y DU BAC

Ddydd Sadwrn 18 Mawrth 2023, cynhaliodd BAC ei hail Ffair Recriwtio Addysg y DU. Roedd diddordeb anhygoel mewn rhaglenni cyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu Sian Keepin a minnau’n brysur o 10yb tan 6yh! Rhoddais i sgwrs bynciol hefyd yn y bore, gan amlygu pam y dylai myfyrwyr ddewis Caerdydd yn bartner Trosglwyddo yn y DU.

Ysgol Busnes Prifysgol Sunway

Roedd apwyntiad olaf y daith ddydd Llun 20 Mawrth 2023, sef cyfarfod â Dr Linus Andrews ynghylch trefniadau cydweithredol posibl rhwng Caerdydd a Sunway. Ar hyn o bryd nid oes gan Sunway Ysgol y Gyfraith, ond mae cryn dipyn o addysgu mewn pynciau sy'n ymwneud â chyfraith fasnachol fel rhan o'r hyn a gynigir gan ysgolion busnes.  

Myfyrdodau

Mae treulio amser ym Malaysia bob amser yn anhygoel, gan fod pobl mor gyfeillgar, ac, fel y bydd fy nghydweithwyr yng Nghaerdydd yn tystio, mae addysgu myfyrwyr Malaysia pan fyddant yn dod atom yn bleser pur. Roedd yn wych cael siarad am gydweithrediadau ymchwil posibl hefyd, ac edrychaf ymlaen at dyfu’r meysydd gwaith rydyn ni’n ymgymryd â nhw ynghyd â phartneriaid presennol a darpar bartneriaid newydd.

Roedd yn bleser cwrdd â ffrindiau, hen a newydd, yn ogystal â darpar fyfyrwyr.

Diolch, fel bob amser, i ffrindiau a chydweithwyr am eu croeso hyfryd ac am gynnal y digwyddiadau hyn.

Rhannu’r stori hon