Ewch i’r prif gynnwys

Noson lwyddiannus i groesawu glas fyfyrwyr

11 Hydref 2017

Noson Pitsa a Pheint
Noson Pitsa a Pheint ar gyfer lasfyfyrwyr Cymraeg.

Ar nos Fawrth y 3ydd o Hydref, cynhaliwyd noson gymdeithasol yn 29 Park Place i fyfyrwyr Cymraeg Caerdydd. Yn bennaf, prif bwrpas y noson oedd croesawu myfyrwyr y flwyddyn gyntaf i Gaerdydd a rhoi fwy o wybodaeth iddynt am y cyfleodd di-ri sydd ar gael yn y Gymraeg, yn academaidd ac yn allgyrsiol.

Ymysg rhai o siaradwyr gwadd y noson, roedd Sian Morgan Lloyd (darlithydd y Coleg Cymraeg yn yr Ysgol Newyddiaduraeth), Liam Ketcher ag Aled Russell (cyd-sefydlwyr Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd), Elliw Iwan (swyddog cangen y Coleg Cymraeg), Sara Vaughan (swyddog cyswllt ysgolion a cholegau), Osian Morgan (Llywydd UMCC) a phwyllgorau y Gym Gym a Chymdeithas Iolo.

Dywedodd Elliw Iwan, un o brif drefnwyr y noson, "Mae’r cyfleoedd yma i chi yn y Gymraeg. Defnyddiwch nhw, dathlwch nhw, ymfalchïwch ynddyn nhw."

Cyfleoedd Cymraeg

Roedd rhai o’r cyfleoedd a soniwyd amdanynt yn cynnwys cyfle i fod yn llysgenhadon i’r Brifysgol ac i’r Coleg Cymraeg, cyfle i gyfrannu i gyfryngau myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, cyfle i ennill cymhwyster sgiliau Iaith a chyfle i astudio modiwlau megis Newyddiaduraeth yn y Gymraeg. Bu hefyd digon o gyfle i’r myfyrwyr ofyn cwestiynau a thrafod gydag aelodau o staff a myfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn.

Ychwanegodd Sara Vaughan, swyddog cyswllt ysgolion a cholegau, "Pleser o’r mwyaf oedd croesawu gymaint o fyfyrwyr brwdfrydig i’r digwyddiad newydd sbon yma. Dyma obeithio i ni fedru meithrin perthynas gryfach gyda siaradwyr Cymraeg y Brifysgol er mwyn hyrwyddo Cymreictod ein Prifysgol.”

Pwysleisiodd fod manteision lu i fod yn lysgennad o wneud cysylltiadau, ennyn profiadau amrywiol, datblygu sgiliau siarad cyhoeddus yn ogystal â chael gweithio o gwmpas oriau eich hun ac ennill cyflog hael.

Ategodd Aled Russell, un o olygyddion y Taf-od a chydlynydd y Gymraeg gyda Xpress Radio at lwyddiant y noson drwy ddweud,

"Roedd y noson yn un lwyddiannus. Roedd llawer o ddiddordeb ar ddiwedd y noson, pobol yn awyddus i ysgrifennu ac i gyfrannu i’r cyfryngau myfyrwyr Cymraeg, ac roedd hynny’n beth da. Mae’n braf gweld fod ein hymdrech i sefydlu platfformau cyfryngol Cymraeg yn cael eu gwerthfawrogi ac yn sbarduno diddordeb newydd."

Ond nid gwrando a thrafod oedd yr unig beth ar yr agenda, wrth gwrs, roedd yna bitsa a pheint yn y fargen.

"Roedd y ffaith ein bod wedi gorfod archebu mwy o fwyd a diod hanner ffordd trwy’r noson yn dyst i lwyddiant y digwyddiad! Braint oedd cael cwrdd a myfyrwyr o bron bob ysgol academaidd o fewn y Brifysgol. Diolch i ddatblygiadau UMCC, Cymdeithas Iolo, y Gym Gym, y Coleg Cymraeg, Cyfryngau Caerdydd a mwy, mae’n gyfnod cyffrous iawn i fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd."

Ac mae addewidion yn barod am noson tebyg adeg Nadolig.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am fod yn un o lysgenhadon y Brifysgol, cysylltwch â Sara Vaughan ac i gael gwybodaeth am fod yn lysgenad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gael ar wefan y Coleg. Gallwch gofrestru i ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith.

Rhannu’r stori hon

Gall staff neu fyfyrwyr mewn sefydliad addysg uwch yng Nghymru ymuno â'r Coleg.