Ewch i’r prif gynnwys

Cwmni deilliol o Gaerdydd yn sicrhau £2.1m i ddatblygu Ultravision

30 Mawrth 2015

Surgeons in scrubs around operating table

Mae cwmni a ddechreuodd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi sicrhau £2.1m i hybu ymhellach fasnacheiddio ei brif gynnyrch.

Fe wnaeth Alesi Surgical ddatblygu UltravisionTM, sy'n trafod y mwg sy'n cael ei greu yn ystod llawdriniaeth twll clo yn yr abdomen, o'r cam cysyniadol i ddyfais â marc CE, gyda chefnogaeth IP Group a Chyllid Cymru.

Ffurfiwyd y cwmni, sef Asalus Medical Instruments Limited yn flaenorol, yn 2009. Deilliodd o Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Cymru, ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dyfarnwyd marc CE i Ultravision yn 2014, ac ers hynny, mae'r cwmni wedi penodi dosbarthwyr mewn 25 o wledydd. Mae'r buddsoddiad newydd yn darparu cyfalaf i hybu mabwysiadu Ultravision, sydd eisoes wedi cael ei dreialu ar draws sbectrwm o'r gweithdrefnau laparosgopig mwyaf cyffredin mewn llawdriniaeth gastroberfeddol, gynaecolegol, wrolegol, a'r colon a'r rhefr. 

Mae Ultravision yn defnyddio dyddodiad electrostatig, sef dull wedi'i brofi o glirio anwedd a gronynnau mewn lleoliadau diwydiannol, nad oedd wedi cael ei ddefnyddio at ddibenion llawfeddygol yn flaenorol. Y llynedd, dyfarnwyd Gwobr fawreddog Cutler i'r cynnyrch, a roddir gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon ar gyfer arloesiadau mewn technoleg lawfeddygol. 

"Rydym wedi datblygu dyfais syml, lawrydd nad yw'n ymwthiol yn yr ystafell law-drin ac sy'n cyflwyno datrysiad effeithiol iawn i fater mwg llawfeddygol. Roedd y timau llawfeddygol a oedd yn rhan o dreialon Ultravision yn hynod gadarnhaol, ac roedd y mwyafrif helaeth eisiau parhau i'w ddefnyddio ar ôl i'r treial ddod i ben," meddai Dr Dominic Griffiths, Rheolwr Gyfrwyddwr Alesi Surgical. 

Dywedodd Dr Peter Grant, Pennaeth Gofal Iechyd yn IP Group plc, "Rydym ni wedi cefnogi Alesi Surgical ers ei ddechreuad, yn uniongyrchol a thrwy ein cytundeb cyd-fuddsoddi gyda Fusion IP plc, sydd bellach yn rhan o'r grŵp. Dros y cyfnod hwnnw, rydym ni wedi bod yn falch o'r cynnydd y mae Alesi Surgical wedi'i wneud wrth i Ultravision ennill momentwm a chael y sylw a'r gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu gan y gymuned lawfeddygol. Bydd y rownd nesaf o gyllid yn caniatáu i'r tîm yn Alesi Surgical gryfhau ei weithgareddau gwerthu a marchnata ymhellach wrth iddo geisio cyflwyno'r cynnyrch i'r farchnad."

Rhannu’r stori hon