Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid sylweddol gan yr UE ar gyfer prosiect cynaeafu ynni

3 Awst 2017

European flags

Bydd consortiwm sy'n cynnwys academyddion o Brifysgol Caerdydd yn datblygu ffasâd cynaeafu ynni i'w osod ar adeiladau sydd eisoes yn bodoli fel rhan o brosiect Horizon 2020 gwerth €6m.

Mae consortiwm rhyngwladol o ymchwilwyr o ledled Ewrop, gan gynnwys academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi cael €6m gan y Comisiwn Ewropeaidd i ddatblygu ffasâd cynaeafu ynni cenhedlaeth newydd i'w osod ar adeiladau presennol.

Nod 'PLUG-N-HARVEST', sy'n brosiect pedair blynedd, fydd creu ffasâd ynni effeithlon i adeiladau sy'n gallu cynaeafu ynni solar a'i droi naill ai'n drydan neu wres, i'w ddefnyddio yn yr adeilad ei hun neu adeiladau cyfagos.

Drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, rydym yn gobeithio y bydd y dechnoleg yn helpu i leihau ein dibyniaeth ar adnoddau ynni traddodiadol fel glo a nwy, ac yn helpu i leihau biliau ynni.

Mae ymchwilwyr o Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cael €399,085 fel rhan o'r prosiect, a byddant yn gweithio ar amrywiaeth o dasgau ymchwil gan gynnwys optimeiddio a gwerthuso, a modelu gwahanol ffyrdd o osod y ffasâd er mwyn darganfod y ffordd fwyaf effeithiol o'i ddefnyddio mewn gwahanol hinsoddau ledled Ewrop.

Unwaith i'r ffasâd gael ei ddatblygu, bydd yn cael ei brofi mewn pedwar cynllun gwahanol ar sawl adeilad, yn yr Almaen, Sbaen, Groeg a'r DU.

Bydd prosiect Horizon 2020 yn dod â 13 o bartneriaid yng Ngroeg, yr Almaen, Sbaen, Romania a'r DU, gan gynnwys prifysgolion, partneriaid ym myd diwydiant, ac awdurdodau lleol – gan gynnwys Cyngor Dinas Caerdydd.

Dr Meddai Hu Du, Prif Ymchwilydd ym Mhrifysgol Caerdydd a Chymrawd Ymchwil Sêr Cymru: "Bydd Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan sylweddol o ran gwella datblygiad modiwl PLUG-N-HARVEST a'i roi ar waith.

"Bydd y prosiect yn mynd i'r afael â'r her o integreiddio technolegau cynaeafu ynni i adeiladau sydd eisoes yn bodoli, ac yn cynnig platfform ardderchog ar gyfer gwella ein perthynas â phartneriaid sydd ymhlith y gorau yn y byd ym maes diwydiant."

Mae gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd hanes o wneud ymchwil sy'n arwain y byd ynglŷn â datblygu dulliau carbon isel o gynhyrchu ynni, a thechnolegau ac arferion storio, dosbarthu a defnyddio, ynghyd â chynnig cyngor a dadansoddi polisïau.

Rhannu’r stori hon