Ewch i’r prif gynnwys

Brechiad diabetes math 1 yn bosibl “o fewn cenhedlaeth”

12 Mawrth 2015

Insulin

Gallai brechiad ar gyfer diabetes math 1 gael ei ddatblygu "o fewn cenhedlaeth", meddai gwyddonwyr, a gyhoeddodd heddiw dros £4.4 miliwn o fuddsoddiad newydd ar gyfer ymchwil a fydd yn helpu i wneud hyn yn realiti.

Bydd yr ymchwil yn cael ei harwain gan wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd, King's College, Llundain ac Imperial College, Llundain, a gallai greu'r brechiadau gweithredol cyntaf o fewn y 10 mlynedd nesaf.

Yn ogystal â helpu i oedi neu hyd yn oed atal diabetes math 1 ymhlith y bobl risg uchel hynny, bydd hwn yn gam pwysig hefyd at ddod o hyd i wellhad ar gyfer y cyflwr. Mae'n debygol y bydd y brechiad yn gweithio mewn cytgord â thriniaethau eraill sy'n lleihau niwed i gelloedd sy'n cynhyrchu inswlin yn y pancreas a achosir gan y system imiwnedd.

Byddai brechiad gyfan gwbl effeithiol ar gyfer diabetes math 1 yn naid arwyddocaol ymlaen mewn ymchwil diabetes. Bydd yr ymchwil yn cael ei lansio yng Nghynhadledd Broffesiynol flynyddol Diabetes UK yng nghanolfan ExCeL yn Llundain. Yn y gyntaf o bedair astudiaeth newydd, bydd yr Athro Mark Peakman yn King's College, Llundain yn arwain y treial cyntaf erioed yn y DU o frechiad prototeip gyda phlant a phobl ifanc sy'n byw â diabetes math 1 neu sydd â risg uchel o'i ddatblygu.

Ar yr un pryd, bydd yr Athro Colin Dayan o Ysgol Feddygaeth Caerdydd yn datblygu rhwydwaith ledled y DU i alluogi cynnal mwy o dreialon 'imiwno-therapi' math 1 mewn ysbytai yn y DU – a hyfforddi'r meddygon ifanc a'r ymchwilwyr a fydd yn eu harwain nhw.

Hefyd, bydd yr Athro Desmond Johnston o Imperial College, Llundain yn parhau â'r gwaith i amlygu pobl sydd newydd gael diagnosis o ddiabetes math 1, er mwyn i fwy o bobl â'r cyflwr gael cynnig cyfle pwysig i gymryd rhan mewn treialon clinigol.   

Bydd yr arian yn ariannu gwaith gan Dr Tim Tree hefyd, sydd wedi'i leoli yn King's College, Llundain, a fydd yn sefydlu rhwydwaith ledled y DU o labordai arbenigol i astudio effaith treialon imiwno-therapi, gan ymchwilio sut yn union y mae triniaethau gwahanol yn gweithio i reoli'r ymosodiad imiwnedd sy'n achosi diabetes math 1, a gweithio allan a yw'n bosibl rhagweld pwy fydd yn elwa fwyaf ar bob triniaeth.

Dywedodd yr Athro Dayan, "Mae'r cyllid hwn eisoes wedi arwain at gydweithrediad mentrus newydd rhwng gwyddonwyr diabetes y DU, a bydd yn rhoi hwb mawr i'r maes hwn wrth i ni weithio tuag at dreialon clinigol newydd a newid sylweddol yn ein gallu i atal colli inswlin mewn diabetes math 1.

"O fewn blwyddyn neu ddwy, byddwn yn gweld llawer mwy o blant ac oedolion yn cymryd rhan yn yr ymchwil hon. O fewn pedair blynedd, rydym yn disgwyl gweld canlyniadau o astudiaethau o fwy na chwe thriniaeth bosibl ac, o fewn deng mlynedd, rydym yn gobeithio gweld y therapïau brechu cyntaf yn cael eu rhoi i gleifion yn y clinig."

Dywedodd Dr Alasdair Rankin, Cyfarwyddwr Ymchwil Diabetes UK, "Mae'r ymchwil hon, sydd wedi bod yn bosibl diolch i gyllid gan Tesco a chymorth ychwanegol gan JDRF, yn hynod gyffrous gan fod ganddi'r potensial i drawsffurfio bywydau miloedd o bobl sy'n byw â diabetes math 1, yn ogystal â'n harwain ni at wellhad y dyhëir amdano.

"Heddiw, mae diabetes math 1 yn gyflwr na ellir ei osgoi, sy'n cael effaith enfawr ar fywydau mwy na 300,000 o bobl yn y DU. Mae rheoli diabetes yn ymdrech ddyddiol ac mae gormod o bobl yn datblygu cymhlethdodau iechyd dinistriol neu'n marw cyn eu hamser. Bydd yr astudiaethau hyn yn mynd â ni gam mawr ymlaen tuag at newid hynny – yn dod â ni'n agosach nag erioed at atal ac, yn y pen draw, gwella'r cyflwr.

"Ni fydd hyn yn hawdd nac yn digwydd dros nos. Bydd y brechiadau cyntaf, fwy na thebyg, yn helpu pobl i oedi cychwyniad diabetes math 1 yn hytrach na'i atal yn gyfan gwbl. Ond byddai hyd yn oed hyn yn helpu i leihau'r risg o gymhlethdodau difrifol, fel strôc, dallineb a thrawiadau ar y galon. Yn y tymor hwy, byddai brechiad gyfan gwbl effeithiol yn ddarganfyddiad meddygol enfawr, a gallai drawsffurfio bywydau pobl sy'n dioddef o ddiabetes math 1."

Caiff y gwaith ei ariannu gan Diabetes UK, gyda chymorth oddi wrth Tesco (dros £3.3 miliwn) a chyllid ar y cyd gan JDRF (dros £1 miliwn).

Rhannu’r stori hon