Ewch i’r prif gynnwys

Cystadleuaeth Prifysgolion Cymru 2015

2 Chwefror 2015

Welsh Varsity 2015

Mae'r tocynnau ar gyfer Cystadleuaeth Prifysgolion Cymru 2015, y digwyddiad chwaraeon mwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru, ar werth nawr.

Cynhelir y digwyddiad am y 19eg tro eleni, a bydd dros 30 o glybiau chwaraeon o brifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am Darian Cystadleuaeth Prifysgolion Cymru, gyda thimau rygbi dynion y prifysgolion yn brwydro am y cwpan.

Eleni, cynhelir y gystadleuaeth ryng-golegol yn Stadiwm Liberty Abertawe ar ddydd Mercher 22 Ebrill, y tro cyntaf mewn pum mlynedd i'r twrnamaint gael ei gynnal yno.

Dywedodd Bryn Griffiths, Is-lywydd Undeb Chwaraeon ac Athletau Prifysgol Caerdydd: "Cystadleuaeth 2015 yw uchafbwynt y flwyddyn i dîm Caerdydd ac rwy'n siŵr y bydd ein timau yn awyddus mynd â'r frwydr at Abertawe ar ôl bod mor llwyddiannus ar ein tomen ein hun dros y pedair blynedd ddiwethaf."

"Gyda phennaeth rygbi newydd yn ei le, byddwn ni'n gwneud pob ymdrech i ennill y cwpan a pharhau i ddominyddu'r gystadleuaeth yn gyffredinol. Bydd Stadiwm Liberty o dan ei sang a'r awyrgylch, heb os, yn anhygoel, hyd yn oed o gymharu â blynyddoedd blaenorol."

Mae Cystadleuaeth Prifysgolion Cymru wedi tyfu yn aruthrol dros y pum mlynedd ddiwethaf, gan ddenu torfeydd o dros 20,000 o fyfyrwyr i gefnogi eu prifysgolion. Enillodd tîm rygbi Prifysgol Abertawe'r cwpan ym mis Ebrill 2014 am yr eildro yn olynol, gan guro Caerdydd 19-15, er mai myfyrwyr Prifysgol Caerdydd enillodd Darian Cystadleuaeth Prifysgolion Cymru unwaith eto.

Prynu tocynnau ar gyfer Cystadleuaeth Prifysgolion Cymru 2015 (Welsh Varsity)

Rhannu’r stori hon