Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr yn ‘Troi’n Goch’ ar gyfer Mis y Galon

6 February 2015

University researchers wearing red coats in lab

Bydd ymchwilwyr y Brifysgol yn creu newid lliwgar y mis hwn wrth iddynt gyfnewid eu cotiau labordy gwyn am ddillad coch llachar i gefnogi ymgyrch Sefydliad Prydeinig y Galon,'Wear it' Beat it'.

Mae un gwyddonydd, sy'n gefnogwr brwd o rygbi Lloegr, wedi cytuno i wisgo coch i Gymru am y diwrnod er mwyn cefnogi'r ymgyrch.

Mae mis Chwefror yn Fis y Galon ac, ar 6 Chwefror, bydd Sefydliad Prydeinig y Galon yn gofyn i'r genedl ymuno â'r frwydr a dangos eu cefnogaeth drwy wisgo coch a chynnal digwyddiad i ariannu ymchwil i'r galon sy'n achub bywydau.

Ar hyn o bryd, mae clefyd y galon a chlefyd cardiofasgwlaidd yn lladd y nifer fwyaf o bobl yng Nghymru. Diolch i gefnogaeth gan Sefydliad Prydeinig y Galon, mae ymchwil y Brifysgol i'r clefydau hyn ar y blaen ar hyn o bryd. Ei nod yw deall achosion ystod o glefydau cardiofasgwlaidd a etifeddir ac a gaffaelir a defnyddio'r wybodaeth hon i wella triniaeth i bobl sydd â'r cyflyrau hyn.

Dywedodd yr Athro Alan Williams:" Er 2007, mae Sefydliad Prydeinig y Galon wedi darparu mwy na £10m tuag at ymchwil gardiofasgwlaidd. Defnyddiwyd yr arian i ariannu ymchwil arloesol.

"Mae gwaith fy ngrŵp yn canolbwyntio ar ddeall sut y caiff rhythm arferol y galon ei reoli, sut y caiff y rhythm hwn ei aflonyddu yn achos clefyd y galon, ac ar gyfrannu at ddatblygu therapïau newydd a gwell ar gyfer pobl sydd â chyflyrau'r galon a fydd yn arwain at well ansawdd bywyd."

Pobl fel Dawn Bell, 44, a aned â chyflwr ar ei chalon. Pan oedd yn blentyn, roedd rhaid iddi gael llawdriniaeth ar y galon. Cafodd Dawn ataliad y galon ddwy flynedd yn ôl yn dilyn diagnosis cynharach o fethiant y galon pan oedd yn 33 oed. Gall ei chalon fynd i rythm peryglus unrhyw bryd. Mae ymchwil gan yr Athro Williams a'i dîm yn canolbwyntio ar sut y cynhelir rhythm arferol y galon yn y celloedd unigol sy'n rhan o'r galon. Trwy astudio'r prosesau dan sylw, mae'r Athro Williams yn gobeithio dyfeisio triniaethau newydd ar gyfer problemau gyda rhythm y galon er mwyn atal pobl rhag cael ataliadau ar y galon a allant fod yn farwol, yn debyg i sefyllfa Dawn.

Mae mwy na 90 o wyddonwyr a chlinigwyr yn cynnal ymchwil gardiofasgwlaidd yn sefydliad Ymchwil i'r Galon Cymru. Mae rhywfaint o'r ymchwil hon yn golygu ymchwilio i effaith llid ar glefyd y galon a chlefyd  cardiofasgwlaidd fel yr esbonia'r Athro Valerie O'Donnell:

"Ym Mhrifysgol Caerdydd rydym yn ymchwilio i lid (ymateb y corff i haint a thrawma) a'r rôl a chwaraeir gan lipidau (brasterau) actif a gaiff eu rhyddhau fel ymateb i anafiadau a heintiau mewn clefyd cardiofasgwlaidd. Er 2007, rydym wedi darganfod llawer o lipidau newydd sy'n ysgogi ceulo'r gwaed ac yn actifadu celloedd gwyn, ac rydym bellach yn ymchwilio i sut mae'r rhain yn cyfranogi mewn clefyd cardiofasgwlaidd.  Mae llid yn achos pwysig clefyd fasgwlaidd, thrombosis, trawiad ar y galon a strôc. 

"Mae ein hymchwil yn cwmpasu gwyddoniaeth sylfaenol ac astudiaethau clinigol ill dau.  Wrth weithio mewn partneriaeth uniongyrchol gyda chydweithwyr yn y GIG yn Ysbyty Athrofaol Cymru, rydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol o ran ein gwybodaeth am y maes hwn ac yn y pen draw yn gwella triniaeth i bobl sydd â chlefyd y galon a chlefyd cylchrediad y gwaed.

"Sicrheir bod ein hymchwil yn bosibl gan gefnogaeth hael gan Sefydliad Prydeinig y Galon, sy'n caniatáu i ni ganolbwyntio'n uniongyrchol ar bontio'r bwlch rhwng y gwyddonydd a'r clinigwr rheng flaen."

Bydd un allan o bedwar o bobl yng Nghymru yn colli eu bywydau bob blwyddyn oherwydd clefyd y galon a chlefyd cylchrediad y gwaed.

Mae'n gyfrifol am bron 160,000 o farwolaethau yn y DU bob blwyddyn, sy'n gyfartaledd o 440 bob dydd. Ar hyn o bryd, mae 7 miliwn o bobl yn y DU yn byw gyda chlefyd cylchrediad y gwaed.

Dywedodd Delyth Lloyd, o Sefydliad Prydain y Gwaed: "Mae 'Wear it. Beat it' yn gyfle gwych i bawb ddod at ei gilydd yn ystod Mis y Galon i frwydro yn erbyn clefyd y galon a chlefyd cylchrediad y gwaed.

Mae ein gweithgarwch i godi arian yn helpu i gefnogi ymchwil o'r radd flaenaf, yn debyg i'r gwaith sy'n cael ei wneud yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Byth pob punt a gaiff ei chodi'n gwneud gwahaniaeth enfawr i'r miliynau o bobl sy'n byw gyda'r cyflyrau hyn."

Rhannu’r stori hon