Ewch i’r prif gynnwys

Cwmni o Ganada yn caffael cwmni allgynhyrchu peirianneg o Gaerdydd, sef Mesuro

28 Ionawr 2015

Mesuro logo on piece of equipment

Cafodd cwmni peirianneg yng Nghymru a ddeilliodd o ymchwil arloesol Prifysgol Cymru i ficrodonau ei brynu gan gwmni o Montreal, sef Focus Microwaves Inc.

Mae Mesuro ar flaen y gad o ran datblygu offer amledd radio a mesur dyfeisiadau ar gyfer y diwydiant lled-ddargludyddion.

Bydd cael ei gaffael gan Focus Microwaves Inc, sy'n cynhyrchu offer profi microdonau a werthir ledled y byd, yn dod ag ystod o gynhyrchion mesur a modelu soffistigedig o dan adain y cwmni o Quebec.

Cafodd technoleg Mesuro ei datblygu o ganlyniad i dros ddegawd o ymchwil yn Sefydliad Peirianneg Amledd Uchel a Chyfathrebu clodfawr Prifysgol Caerdydd, a sefydlwyd gan Yr Athro Paul Tasker ym 1997.

Mae gan y Sefydliad enw da yn rhyngwladol ym meysydd systemau mesur aflinol, nodweddu dyfeisiadau a dylunio cylchedau, ac mae'n gweithio gyda llawer o gwmnïau blaenllaw ym maes cyfathrebiadau RF er mwyn mynd i'r afael â heriau technegol arwyddocaol drwy ymchwil sylfaenol.

Wrth groesawu'r caffaeliad, dywedodd Dr Christos Tsironis, sef llywydd a sylfaenydd Focus Microwaves: "Rydym wrth ein bodd i gaffael MESURO, a fydd yn ein galluogi i rannu'r un dechnoleg a nodau o ran datblygu cynhyrchion a'r un dyheadau i wasanaethau cwsmeriaid y ddau gwmni yn llawn.

"O ganlyniad i'r caffaeliad, mae holl weithwyr MESURO yn gydweithwyr llawn i weithwyr Focus. Disgwylir i gyfuniad y ddau gwmni a'u technolegau cyflenwol greu llawer o atebion mesur, modelu ac optimeiddio newydd gan ddefnyddio technegau ffynhonnell/tynnu baich a thechnolegau uwch eraill."

Cafodd Mesuro ei greu trwy gronfa prawf o gysyniad y Brifysgol ei hun (Cronfa Partneriaeth Caerdydd) a ddarparodd y buddsoddiad cychwynnol i sefydlu yr hyn a ddaeth yn gwmni allgynhyrchu i Fusion IP gyda buddsoddiad ar y cyd gan Gyllid Cymru a Sefydliad ERA.

Rhannu’r stori hon