Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn anelu at sicrhau dyfodol i newyddion lleol

8 Rhagfyr 2014

Caerdydd yn anelu at sicrhau dyfodol i newyddion lleol
Llun gan Rachel Howells

Bydd Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol y Brifysgol yn gweithio gyda gwasanaeth newyddion cymunedol y Port Talbot Magnet dros y pedair blynedd nesaf, wrth iddo anelu at ddod yn fwy cynaliadwy.

Collodd Port Talbot ran fawr o'i ddarpariaeth newyddion lleol dros nos pan gaeodd y papurau newyddion wythnosol traddodiadol, y Port Talbot Guardian a'r Neath Guardian, yn 2009.

Daeth grŵp o gyn newyddiadurwyr proffesiynol lleol ynghyd i fynd i'r afael â'r diffyg darpariaeth newyddion hwn, a sefydlu'r cwmni cyfryngau cydweithredol, y Port Talbot Magnet, gyda gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Hefyd, rhoddodd Ymddiriedolaeth Carnegie UK gefnogaeth i'r Port Talbot Magnet fel un o 'Bartneriaid Carnegie' yn y prosiect Newyddion Cymdogaethol, sef cystadleuaeth gwerth £50,000 a ddatblygwyd i wella'r gwaith o adrodd ar newyddion lleol. Cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth ei hadroddiad terfynol ar y prosiect ddydd Llun.

Derbyniodd y Port Talbot Magnet £10,000 drwy'r gystadleuaeth hon, a ddefnyddiwyd i lansio papur newyddion a argreffir bob tri mis.

Fodd bynnag, mae'r Port Talbot Magnet yn parhau i gael ei redeg gan grŵp bach o wirfoddolwyr a gweithwyr llawrydd sy'n cyflawni amrywiaeth o rolau: ysgrifennu, golygu, cadw cyfrifon a hyd yn oed dosbarthu papurau newyddion i leoliadau o amgylch y dref.

Erbyn hyn, gyda chymorth y Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol, mae'r Magnet yn ymdrechu i ddod yn fwy cynaliadwy.

Ei nod yw cynhyrchu papur newyddion sy'n cael ei argraffu'n fwy rheolaidd, gan hybu gwerthiant hysbysebion, a recriwtio gwirfoddolwyr o'r gymuned leol i helpu i redeg y gwasanaeth newyddion hanfodol hwn.

Cynhelir cyfarfod cyhoeddus ar 27 Ionawr y flwyddyn nesaf yn The Centre, Baglan, i drafod y cynlluniau ar gyfer y Port Talbot Magnet wrth iddo ddechrau ar y cam nesaf hwn yn ei ddatblygiad.

Rachel Howells yw un o gyfarwyddwyr sylfaen y Port Talbot Magnet ac mae'n gyn olygydd Big Issue Cymru.

Mae hefyd yn archwilio'r sector newyddion hyperleol yn ei doethuriaeth yn Ysgol Astudiaethau Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant y Brifysgol.

"Tyfodd y Magnet o'r saith newyddiadurwr a oedd eisiau sefydlu gwasanaeth newyddion cymunedol pwrpasol i Bort Talbot," meddai.

"Fe wnaeth y grant gan Ymddiriedolaeth Carnegie ein galluogi ni i sefydlu papur newyddion, wedi'i argraffu, ar gyfer Port Talbot yn unig, gan wasanaethau cynulleidfa lawer ehangach gan ein bod yn ei ddosbarthu o ddrws i ddrws.

"Ond, mae angen i ni barhau â'n gwaith i sicrhau dyfodol newyddion lleol ym Mhort Talbot. Dyna pam rydym yn llawn cyffro ynghylch gweithio gyda'r Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol.

"Rydym eisiau datblygu'r wefan, cyhoeddi'r papur newyddion yn fwy rheolaidd a chyrraedd mwy o bobl leol.

"Yn ogystal, rydym yn gobeithio y bydd ein gwasanaeth newyddion yn ategu ac yn ymestyn cyfryngau traddodiadol, trwy ychwanegu llais arall a, hefyd, trwy adrodd y storïau hynny ar lawr gwlad nad oes adnoddau gan y cyfryngau traddodiadol i roi sylw iddynt, gan wella'r cyfryngau i bawb.

"Bydd hyn yn waddol hynod bwysig i fuddsoddiad Ymddiriedolaeth Carnegie ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Ganolfan Newyddiaduriaeth Gymunedol fel y byddwn yn parhau ar drywydd cynaliadwyedd."

Meddai Douglas White, Pennaeth Eiriolaeth yn Ymddiriedolaeth Carnegie UK: "Bu'n bleser gweithio gyda Rachel a'r tîm dros y ddwy flynedd ddiwethaf a helpu'r Port Talbot Magnet i fynd ar drywydd cynaliadwyedd drwy'r papur newyddion wedi'i argraffu.

"Rydym yn falch iawn eu bod nawr yn gweithio gyda'r Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol i'w helpu i gyrraedd pen eu taith.

"Mae ein hadroddiad newydd yn dangos bod y Port Talbot Magnet a'n Partneriaid eraill yn Carnegie wedi cynnig gwerth da am arian yn gyfnewid am fuddsoddiad bychan, wedi canolbwyntio ar faterion lleol ac wedi dwyn eu cymunedau ynghyd.

"Ar sail eu profiadau, rydym wedi argymell pecyn o fesurau cymorth i helpu sefydliadau newyddion lleol ar draws y Deyrnas Unedig i dyfu a ffynnu."

Lansiodd y Brifysgol Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol academaidd gyntaf y Deyrnas Unedig y llynedd. Mae'n ymchwilio i'r sector hwn sy'n tyfu ac yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio, gwybodaeth a hyfforddiant i newyddiadurwyr cymunedol.

Fel un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd, nod y ganolfan yw sefydlu neu wella deg o wasanaethau newyddion cymunedol yng Nghymru, gan gynnwys y Port Talbot Magnet.

Mae prosiectau ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol yn gweithio gyda chymunedau ar faterion fel mynd i'r afael â thlodi, hybu'r economi a gwella iechyd, addysg a lles.

Rhannu’r stori hon