Ewch i’r prif gynnwys

Menywod@Caerdydd – Cyfoedion yn cydnabod academyddion y gyfraith mewn arddangosfa ffotograffiaeth

27 Mawrth 2017

Cathy Cobley ac Ambreena Manji yn arddangosfa ffotograffiaeth Menywod@Caerdydd.
Cathy Cobley ac Ambreena Manji yn arddangosfa ffotograffiaeth Menywod@Caerdydd.

Mae dwy academydd y Gyfraith wedi’u dewis fel testunau ar gyfer arddangosfa ffotograffiaeth fydd yn dangos amrywiaeth o fenywod nodedig sy’n cyfrannu at fywyd Prifysgol Caerdydd.

Darlithwyr y Gyfraith Ambreena Manji a Cathy Cobley yw dwy o’r 12 yn unig o fenywod sydd wedi’u dewis i fod yn rhan o arddangosfa ffotograffiaeth Menywod@Caerdydd a gyhoeddwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni ar 8 Mawrth 2017.

Nod yr arddangosfa ffotograffiaeth yw dathlu aelodau rhagorol o staff benywaidd, yn y gwasanaethau proffesiynol ac academia, sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd y Brifysgol.

Gofynnwyd i staff enwebu aelod priodol o staff benywaidd cyfredol neu sydd wedi ymddeol a lluniwyd rhestr fer gan banel dyfarnu er mwyn cael pleidlais derfynol.

Mae pob aelod o staff a ddewiswyd gan y pwyllgor bellach wedi cael tynnu eu llun, yn barod ar gyfer lansio’r fenter yn ffurfiol.

Enwebwyd Ambreena a Cathy gan eu cymheiriaid am nifer o resymau. Roedd enwebiad Cathy, sy'n uwch-ddarlithydd, yn nodi bod "ei chyfraniad at Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd a chymuned ehangach y gyfraith yng Nghymru wedi bod yn aruthrol." Fe’i disgrifiwyd fel “enghraifft nid yn unig o gydweithiwr nodedig ond mae hi hefyd yn dyst i’r cyfleoedd y gall y Brifysgol eu cynnig” a nodwyd bod Athro’r Gyfraith, Ambreena yn ymgorffori “ymrwymiad y Brifysgol i amrywiaeth, dinasyddiaeth fyd-eang, gonestrwydd deallusol ac ysbrydoliaeth.” Roedd y rhai a’i henwebodd yn gobeithio y byddai eu cydnabyddiaeth i’w gwaith yn “ysbrydoli eraill”.

Wrth sôn am ei rhan yn y fenter, dywedodd Ambreena “Er bod y portreadau’n dangos menywod unigol, yr hyn sy’n bwysig yw ein hymarfer ffeministaidd cyfunol fel menywod yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth. Mae’n fraint cael gweithio gyda menywod yr wyf i’n edmygu eu hymrwymiad i ysgolheictod rhagorol a’u haddysg gyfreithiol. Rwyf i’n dysgu ganddyn nhw bob dydd.”

Ychwanegodd Cathy ei bod yn ei deimlo’n “anrhydedd i gael fy enwebu i gymryd rhan yn y fenter Menywod@Caerdydd.” Dywedodd “Ers ymuno a’r brifysgol dros 30 mlynedd yn ôl fel myfyriwr israddedig rwyf i wedi cael fy nysgu gan, ac yna wedi gweithio gyda, nifer o gydweithwyr anhygoel ac rwyf i wedi gweld y cyfraniad eithriadol mae fy nghydweithwyr benywaidd wedi’i wneud i sicrhau profiad  myfyriwr heb ei ail yng Nghaerdydd. Yn anffodus yn aml does neb yn sylwi ar gyfraniad o’r fath, a dyna pam fod menter Menywod@Caerdydd yn gam mor gadarnhaol. Ar ôl astudio fy ngradd gychwynnol fel myfyriwr aeddfed gyda phlant ifanc, rwyf i bob amser wedi bod yn ymwybodol iawn o’r heriau sy’n wynebu llawer o’n myfyrwyr wrth ddilyn addysg prifysgol ac rwyf i bob amser wedi ceisio cynnwys hyn yn fy ngwaith fel tiwtor derbyn. Rwy’n gobeithio fy mod wedi gweithredu fel model rôl cadarnhaol dros y blynyddoedd - mae’n sicr wedi bod yn brofiad gwych i feithrin a chefnogi cynifer o fyfyrwyr drwy eu hastudiaethau a’u gwylio’n ffynnu fel unigolion.”

Caiff arddangosfa ffotograffiaeth Menywod@Caerdydd ei lansio’n swyddogol ym mis Ebrill gydag arddangosfa yn Oriel VJ, Prif Adeilad. Yn dilyn hyn, bydd yr arddangosfa i’w gweld mewn amrywiol leoliadau ar draws y campws.

Rhannu’r stori hon