Ewch i’r prif gynnwys

Chwilio am fêl i drechu arch-fygiau

18 Hydref 2012

Honey needed for superbug fight
(o’r chwith) Yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru mae gwenynwraig yr Ardd, Lynda Christie; myfyriwr ar leoliad diwydiannol yn yr Ardd, Adelaide Griffiths; Yr Athro Les Baillie; Jenny Hawkins, sy’n astudio microbioleg yng Nghaerdydd; a Dr Natasha de Vere. Llun: James Davies

Mae tîm o ymchwilwyr Prifysgol wedi adnewyddu eu cais i wenynwyr yn y DG anfon eu mêl atynt mewn ymdrech i orchfygu arch-fygiau ysbyty fel MRSA.

Mae'r tîm, dan arweiniad yr Athro Les Baillie o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Cymru a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, yn ymchwilio i weld a allai mêl a'i wneuthurwr – y wenynen fach – fod yn dal y gyfrinach ar gyfer brwydro yn erbyn arch-fygiau ysbyty fel MRSA a Clostridium difficile.

Nod y prosiect, sy'n cael ei sbarduno gan briodoleddau mêl Manuka, yw darganfod pa blanhigion brodorol ym Mhrydain sydd â chyfansoddion tebyg trwy ddadansoddi samplau o fêl wedi'u casglu o bob cwr o'r DG.

"Mae'r canlyniadau cychwynnol wedi dangos fod gan sawl mêl o Gymru rinweddau gwrthfacterol ac rydym wrthi'n darganfod eu proffil DNA," meddai'r Athro Baillie o'r Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol.

"Er bod y canlyniadau cynnar yn addawol rydym yn dal i chwilio am samplau eraill o bob cwr o'r DG fel bod gennym well cyfle i gael hyd i gyfansoddion therapiwtig.

"Felly, rydym yn apelio ar wenynwyr o bob rhan o'r DG i anfon samplau atom ynghyd â rhestr, os oes modd, o'r planhigion y mae'r gwenyn yn ymweld â nhw.

Mae'r ymchwil yn cael ei ariannu gan y Gymdeithas Ficrobioleg Gymhwysol, Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru.

Dylai'r sawl sydd am gyfrannu at y prosiect anfon 200g o fêl at: Miss Jenny Hawkins, Ysgol Fferylliaeth Cymru, Adeilad Redwood, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd, CF10 3NB.

Cynhaliwyd y prosiect hwn yn rhannol drwy'r rhaglen Ysgoloriaeth Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS), sy'n rhaglen ymchwil a sgiliau lefel uwch gydweithredol a gefnogir gan Raglen Gydgyfeirio ESF Gorllewin Cymru a'r Cymoedd Llywodraeth Cymru.

Rhannu’r stori hon