Cadw ein gwyddonwyr gorau
19 Hydref 2012
Mae arbenigedd ymchwil un o wyddonwyr mwyaf addawol ac uchel ei barch y Brifysgol wedi'i sicrhau diolch i wobr ariannu fawreddog.
Mae'r Athro Jim Murray o'r Ysgol Biowyddorau yn un o 19 o wyddonwyr i ennill y wobr fawreddog Teilyngdod mewn Ymchwil y Gymdeithas Frenhinol/Wolfson.
Ariennir y cynllun ar y cyd gan Sefydliad Wolfson a'r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, ond fe'i penderfynir gan y Gymdeithas Frenhinol, ac mae'n rhoi cymorth ariannol i brifysgolion er mwyn eu helpu i ddenu a chadw'r gwyddonwyr gorau.
"Mae sicrhau Gwobr Teilyngdod mewn Ymchwil y Gymdeithas Frenhinol/Wolfson yn golygu ein bod yn gallu cadw gwyddonydd – sef yr Athro Jim Murray – sydd eisoes wedi cael llwyddiant eithriadol yn ei faes gyda'r potensial ar gyfer rhagoriaeth bellach," yn ôl yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan.
"Mae ein huchelgais i fod yn brifysgol sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, sy'n rhagorol o ran ymchwil ac sy'n eithriadol o ran addysg yn golygu bod angen i ni benodi a chadw'r bobl orau oll. Rwy'n falch iawn bod y Wobr hon yn golygu ein bod yn gallu sicrhau talent yr Athro Murray ar gyfer y dyfodol," ychwanegodd.
Yr Athro Murray yw un o wyddonwyr arweiniol y DU o ran datblygiad cellog planhigion a biotechnoleg folecwlar.
Yn gynharach eleni, cyflwynodd Vince Cable 'Wobr Arloeswr Masnachol y Flwyddyn' y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol i'r Athro Murray am ei gyfraniad at ddyfeisio dull cyflym a hawdd ei ddefnyddio o ddatgelu DNA gyda golau.
Gallai'r dechnoleg hon gael ei defnyddio mewn sawl ffordd bwysig, gan gynnwys profion sensitif am organebau heintus a allai arwain at welliannau dramatig mewn gofal iechyd yn y byd datblygedig a'r byd sy'n datblygu.
Mae'r dechnoleg, o'r enw "prawf bioymoleuedd mewn amser real", yn dangos arwyddion o bresenoldeb dilyniannau DNA penodol, gan ddefnyddio fersiwn o'r ensym lwsifferas, sydd hefyd yn cynhyrchu golau mewn pryfed tân. Mae'r prawf mor syml fel y gallai gael ei ddefnyddio yn unrhyw le ac fe all roi canlyniadau o fewn munudau, yn dibynnu ar nifer y mathau o facteria neu firysau y profir amdanynt.
Meddai'r Athro Ole Petersen FRS, Cyfarwyddwr yr Ysgol Biowyddorau, "Rwy'n falch iawn bod y Gymdeithas Frenhinol, academi wyddoniaeth genedlaethol y DU, wedi dewis Jim Murray fel un o'r 19 o ddeiliaid newydd Gwobr Teilyngdod mewn Ymchwil y Gymdeithas Frenhinol/Wolfson.
"Mae'r gwobrau hyn ymhlith y mwyaf mawreddog yn y byd academaidd. Bydd y gydnabyddiaeth a'r cyllid y mae'n eu haeddu'n fawr yn caniatáu i waith hollbwysig Jim Murray ar ddealltwriaeth amlraddfa o gellraniad mewn twf a datblygiad planhigion i barhau ac ymestyn yn Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd."