Ewch i’r prif gynnwys

Amgyffred amser

7 Tachwedd 2012

clocks

Gall y ffordd y mae pobl yn profi amser gael ei heffeithio gan y ffordd y maen nhw'n amgyffred achos ac effaith, yn ôl gwaith ymchwil newydd gan y Brifysgol.

Bu Dr Marc Buehner o'r Ysgol Seicoleg yn archwilio'r ffordd y mae cred achosol - sef deall bod un peth yn arwain at beth arall (er enghraifft fflicio switsh a golau'n dod ymlaen) - yn gallu effeithio ar yr amgyffrediad o amser.

Fel rhan o'r gwaith ymchwil, gofynnwyd i gyfranogwyr ragfynegi pryd y byddai golau'n fflachio. Mewn un rhan o'r astudiaeth, rhagflaenwyd y fflach darged gan olau signal; mewn dwy ran bellach, roedd naill ai'r cyfranogwyr yn pwyso botwm i wneud i'r golau fflachio, neu roedd peiriant ar wahân yn pwyso botwm i wneud i'r golau fflachio.

Dangosodd y canlyniadau bod rhagfynegiadau yn y grŵp cyntaf ynghylch pryd fyddai'r golau'n fflachio yn sylweddol hwyrach na'r rhai yn y ddau grŵp arall, er bod y cyfnod rhyngddynt yn union yr un fath. Yn y grwpiau hyn, roedd y cysylltiad achosol a ffurfiwyd ym meddyliau'r cyfranogwyr wedi newid eu hamgyffrediad a'u cynllunio gweithredol – roedd amser yn ymddangos yn fyrrach rhwng yr achos (gwasgu'r botwm eu hunain neu beiriant yn gwneud hynny) a'r effaith (y fflach o olau).

Wrth siarad am y canlyniadau, dywedodd Dr Buehner: "Gallwn ddangos bod amgyffrediadau yn ddarostyngedig i wyriadau systematig yn dibynnu ar gredoau achosol pobl - os yw pobl yn credu eu bod nhw, neu rywun neu rywbeth arall, mewn rheolaeth, mae amser yn ymddangos fel petai'n treiglo'n gyflymach. Mewn cyferbyniad, roedd dim ond gwybod pryd y bydd rhywbeth yn digwydd, yn absenoldeb achosiaeth, ddim yn newid yr amgyffrediad o amser."

Mae Dr Buehner yn credu y gall y canfyddiadau hyn fod â goblygiadau ymarferol i beirianwyr defnyddioldeb a dylunwyr rhyngwyneb.

Ariannwyd y gwaith ymchwil gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol a'r Gymdeithas Seicoleg Arbrofol ac mae wedi'i gyhoeddi yn y cylchgrawn Psychological Science.

Rhannu’r stori hon