Ewch i’r prif gynnwys

Urddas: Hanes Dwy Ward

12 Tachwedd 2012

Fiona Phillips

Mae un o Gymrodorion er Anrhydedd y Brifysgol, y newyddiadurwraig Fiona Phillips, wedi lansio yn swyddogol ffilm ag ergydion caled sy'n portreadu safonau ac arferion gofal gwael wrth roi gofal acíwt i bobl hŷn mewn ysbytai.

Mae Dignity: A Tale of Two Wards yn ffilm addysgol newydd wedi'i datblygu gan dîm o Ganolfan y Brifysgol ar gyfer Agweddau Economaidd a Chymdeithasol ar Enomeg.

Mae'r newyddiadurwraig deledu adnabyddus wedi rhannu ei phrofiad personol ei hun o ofalu am yr henoed ar ôl iddi golli ei rhieni i glefyd Alzheimer.

Dywedodd Fiona Phillips: "Cafwyd nifer o adroddiadau yn ddiweddar a oedd yn peri pryder ynglŷn â gofal diurddas i bobl hŷn, er gwaethaf canllawiau a chodau niferus sy'n mynnu gofal urddasol.

"Mae'n amlwg fod yna fwlch rhwng dyheadau o'r fath a'r hyn sy'n digwydd, a rhaid gwneud mwy i helpu staff rheng flaen sy'n darparu gofal ymarferol ac yn rhyngweithio â chleifion hŷn a'u teuluoedd, oherwydd nhw sy'n dylanwadu fwyaf ar brofiad y claf o fod mewn ysbyty.

"Dyna pam rwy'n falch o lansio'r DVD hwn oherwydd mae'n siarad yn uniongyrchol â'r staff hynny ac yn eu helpu i fyfyrio ynglŷn â'u gweithredoedd. Hefyd, mae'n dangos beth yw gofal personol ac urddasol dros bobl hŷn ac yn cyferbynnu hynny mewn ffordd realistig ac ymarferol â gofal nad yw'n cyrraedd y safon ofynnol."

Mae'r DVD yn defnyddio enghreifftiau trawiadol o ofal da a gwael a welwyd yn ystod darn allweddol o ymchwil a arweiniodd at yr adroddiad Dignity in Practice gan y tîm.

"Dangosodd ein hymchwil fod yna rai safonau rhagorol ac ofnadwy o ofal ysbyty i bobl hŷn mewn wardiau GIG acíwt yng Nghymru a Lloegr," meddai Dr Win Tadd, Yr Ysgol Feddygaeth, a fu'n arwain yr ymchwil.

"Yr hyn a ganfuwyd gennym oedd safonau amrywiol. Roedden nhw'n cynnwys wardiau wedi'u cynllunio'n wael a oedd yn anhygyrch a dryslyd, staff wedi digalonni a heb fawr o hyfforddiant ar gyfer gofalu am bobl hŷn, ac yn aml roedd cleifion yn cael eu symud er mwyn hwyluso blaenoriaethau clinigol.

"Ar ôl gweld sut, yng nghanol ffrwst ward brysur, mae'n anodd i staff oedi er mwyn myfyrio ynglŷn â'r hyn y maen nhw ac eraill yn ei wneud, datblygodd tîm Caerdydd y DVD er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r modd y mae pob rhyngweithiad yn llesol neu'n niweidiol i brofiad pobl hŷn o ofal urddasol.

"Gobeithiwn y bydd ail-greu ein canfyddiadau wrth ddefnyddio drama i bortreadu dwy ochr y stori yn help i newid agwedd gweithwyr gofal iechyd a'u ffordd o weithio er mwyn gwella'r gofal i bobl hŷn," ychwanegodd.

Ariannwyd y ffilm gan Sefydliad Cyflenwi Gwasanaeth y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR-SDO) a'i rheoli gan yr Adran Iechyd a Comic Relief o dan fenter PANICOA, a chafodd ei hanelu at weithwyr gofal iechyd ledled Cymru a Lloegr.