Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol yn derbyn clod am gymorth clwb gwaith cartref

5 Rhagfyr 2012

University praised for homework club support

Canmolodd Comisiynydd Plant Cymru waith myfyrwyr y Brifysgol yn cefnogi clwb gwaith cartref mewn cymuned leol.

Sefydlwyd y clwb gan Gymunedau'n Gyntaf Adamsdown a Chymdeithas Affricanaidd Adamsdown, ac mae myfyrwyr y Brifysgol yn cefnogi ac yn annog plant gyda'u gwaith cartref, eu paratoadau ar gyfer arholiadau a gweithgareddau dysgu eraill.

Ei nod yw codi cyrhaeddiad a chyflawniad gyda myfyrwyr mewn ysgolion a cholegau canol dinas, yn enwedig plant o deuluoedd sydd ag ychydig neu ddim hanes o fynd i brifysgol.

Mae'r clwb, sy'n cael ei gynnal yng Nghanolfan Adnoddau Adamsdown, bellach yn cael ei ddefnyddio fel enghraifft y dylai sefydliadau addysg uwch eraill ei addasu, er mwyn lliniaru tlodi plant.

Gan ysgrifennu yn Strategaeth Tlodi Plant 2012 a Thu Hwnt, mae Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, yn rhoi ymrwymiad i ysgrifennu at Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru i amlygu'r gwaith mae Prifysgol Cymru wedi ei wneud yn cefnogi Clwb Gwaith Cartref Adamsdown yng Nghaerdydd ac "i ofyn iddynt ystyried creu partneriaethau tebyg fel rhan o'u gwaith ar fynd i'r afael â thlodi plant."

Dywedodd Ben Ford, myfyriwr Saesneg ac Athroniaeth ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n ymwneud â'r clwb gwaith cartref: "Gan fy mod yn dod o gefndir ehangu mynediad, mewn ysgol â dalgylch anodd ymhell o brifysgol, byddai cymorth allgyrsiol un i un wedi bod o gymorth mawr i annog plant dihyder i ddal ati yn academaidd a chyflawni eu potensial.

"Mae gwirfoddoli'n brofiad gwerth chweil, o ran gwneud gwahaniaeth i addysg plentyn drwy roi'r cymorth maent yn ei haeddu iddynt, a'u hannog ac ateb cwestiynau ynglŷn â mynychu prifysgol."

Dywedodd Sue West, Cydlynydd Cymunedau'n Gyntaf Adamsdown: "Mae'r Clwb wedi bod yn llwyddiant syfrdanol. Mae disgyblion wedi dweud eu bod yn mwynhau pynciau a oedd yn anodd iddynt (pynciau fel mathemateg a gwyddoniaeth), yn fwy yn awr ar ôl ymuno, ac maent yn cael gwell graddau ac wedi cynyddu eu dyheadau ar gyfer y dyfodol.

"Mae'r bartneriaeth gyda'r Brifysgol wedi bod yn allweddol i lwyddiant y Clwb, ac mae wedi datblygu erbyn hyn i'n galluogi i gynyddu ein gweithgareddau i gefnogi rhieni'r plant drwy ddysgu hefyd".

Rhannu’r stori hon