Ewch i’r prif gynnwys

Cemegwyr y dyfodol

2 Rhagfyr 2016

Reckitt Benckiser - Logo

Bydd y cwmni y tu ôl i rai o'r brandiau iechyd, cartref a hylendid mwyaf adnabyddus y byd, gan gynnwys Dettol, Vanish, Durex, Nurofen ac Air Wick, yn cynnig cyngor gyrfaoedd i fyfyrwyr cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Gwener, 2 Rhagfyr.

Bydd prif gynrychiolwyr RB (Reckitt Benckiser yn flaenorol) yn rhoi syniad i fyfyrwyr o sut beth yw gweithio mewn cwmni rhyngwladol, ac yn esbonio proses RB ar gyfer datblygu a dyfeisio cynhyrchion. At hynny, bydd gweithdy ynglŷn â sut i wneud cyflwyniadau ac areithiau sy'n creu argraff, er mwyn helpu i wella sgiliau myfyrwyr wrth iddynt ddechrau meddwl am adael y brifysgol a datblygu eu gyrfaoedd.

Bydd myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o Gaerdydd, Caerfaddon a Bryste yn mynd i'r digwyddiad, sy'n cael ei gynnal gan Ysgol Cemeg y Brifysgol.

Bydd y digwyddiad yn cael ei agor gan Dr Sharon James, Uwch Is-Lywydd Ymchwil a Datblygu Byd-eang yn RB, sy'n wreiddiol o Gaerdydd.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Sharon: "Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â'r myfyrwyr a rhoi cyfle iddynt ddod i adnabod ein cwmni..."

"Yn aml, mae graddedigion yn gadael y brifysgol heb lawer o wybodaeth am y cyfleoedd gyrfaol helaeth sydd ar gael iddynt, yn enwedig ym maes ymchwil a datblygu. Gyda lwc, byddant yn gadael y sesiwn gyda sgiliau gwerthfawr newydd, a byddant wedi eu hysbrydoli ac yn teimlo'n gyffrous am eu dyfodol."

Dr Sharon James Uwch Is-Lywydd Ymchwil a Datblygu Byd-eang yn RB

Mae'r digwyddiad yn un o blith llawer a gynhelir yn y Brifysgol drwy gydol y flwyddyn, er mwyn rhoi cipolwg hynod werthfawr i fyfyrwyr ar fywyd ar ôl graddio, er mwyn eu paratoi ar gyfer y farchnad swyddi.

Mewn arolwg diweddar, rhoddodd Times Higher Education y Brifysgol ymhlith y sefydliadau gorau yn y DU ar gyfer paratoi graddedigion ar gyfer y gweithle. Roedd y Brifysgol yn gydradd 14eg yn y DU ar gyfer creu graddedigion sy'n barod ar gyfer byd gwaith, sy'n golygu bod y Brifysgol ymhlith y gorau yng Nghymru ar gyfer y categori hwn, ac yn un o'r gorau yn y DU y tu allan i Lundain.

Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Pennaeth yr Ysgol Cemeg: "Mae'n hynod bwysig i'n myfyrwyr gael syniad o fywyd ar ôl y brifysgol, ac mae digwyddiadau fel hwn yn ffordd berffaith o ddangos yr amrywiaeth eang o yrfaoedd sydd ar gael iddynt ar ôl graddio..."

"Rydym yn hynod ddiolchgar i RB am roi o'u hamser i gynnig rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a fydd yn sicr yn werthfawr dros ben i fyfyrwyr wrth iddynt edrych at y dyfodol."

Yr Athro Rudolf Allemann Pro Vice-Chancellor, International and Student Recruitment and Head of the College of Physical Sciences and Engineering

Mae RB ymhlith yr 20 cwmni uchaf ar Gyfnewidfa Stoc Llundain, a'i nod yw cynnig atebion arloesol i sicrhau bywydau mwy iach a chartrefi hapusach. Mae brandiau byd-eang RB yn arwain ei bortffolio iechyd, hylendid a chartrefi, ac mae’r rhain yn cynnwys Nurofen, Strepsils, Gaviscon, Durex, Dettol, Veet, Harpic, Finish a Vanish. Mae'r cwmni'n gweithredu mewn mwy na 60 o wledydd ac yn cyflogi 37,000 o staff.

Rhannu’r stori hon

Graduate advice and support is a dedicated service for our alumni and can really help improve your career prospects.