Ewch i’r prif gynnwys

The ethics of airbrushing

16 Hydref 2014

Mae myfyriwr o Brifysgol Caerdydd wedi ennill cystadleuaeth traethawd genedlaethol, yn trafod achos moesol busnesau sy'n defnyddio'r offeryn brwsh aer. 

Enillodd Babatunde Onabajo, sy'n fyfyriwr BSc Economeg yn Ysgol Busnes Caerdydd, yng nghategori Israddedig Cystadleuaeth Traethawd Myfyrwyr Sefydliad Moeseg Busnes (IBE) am ei draethawd – 'The Moral Case for ''Ban the Airbrush'' -  a archwiliodd ddefnydd cyffredin defnyddio brwsh aer mewn cylchgronau a gan gwmnïau manwerthu a'r dadleuon moesegol ynghylch ei ddefnyddio.

Ystyriodd y traethawd a yw'n foesegol newid golwg modelau yn ddirfawr drwy feddalwedd golygu ac a ddylid gorfodi cyfreithiau i wahardd y brwsh aer neu a ddylid gadael busnesau i reoli eu hunain. Ystyriodd hefyd ai cod moeseg gwirfoddol fyddai'r llwybr gorau ar gyfer y mudiad 'Ban the Airbrush' ac a ddylai hysbysebwyr a chylchgronau labelu pob delwedd a gafodd eu golygu'n graffigol.

Ysbrydolwyd Babatunde i ysgrifennu am ddefnyddio brwsh aer ar ôl i artist colur gyhoeddi delwedd ynghylch i ba raddau y gallai hi edrych fel rhywun hollol wahanol drwy ddefnyddio colur yn unig.

"Aeth cyhoeddi'r ddelwedd hon yn boblogaidd yn fyd-eang ar y we ac arweiniodd at gryn drafod ymhlith y gymuned ar-lein, er bod y ddelwedd hefyd yn gysylltiedig â'r arfer ehangach o ddefnyddio brwsh aer gan fusnesau. A finnau â meddwl sy'n mwynhau datrys penblethau moesegol, roeddwn i am ddarparu ateb ynglŷn ag a yw defnyddio brwsh aer yn foesegol, ac os felly, o dan ba amodau y caniateir hynny a phryd mae'n "mynd yn rhy bell," meddai Babatunde.

"Mae'n anrhydedd i mi fod yr IBE wedi dewis fy mhapur fel yr un buddugol. Rwy'n teimlo mwy o anrhydedd hyd yn oed, y bu sefydliad sydd â thanysgrifwyr corfforaethol o Barclays i Deloitte, yn ddigon caredig i ddarparu fforwm lle y gall pobl israddedig ac ôl-raddedigion fel ei gilydd drafod moeseg busnes a materion maent yn teimlo sydd angen eu datrys. Rwy'n gobeithio bod y fenter wedi ysbrydoli myfyrwyr o ysgolion busnes o gwmpas y wlad y dylai busnesau ymdrechu i gyrraedd nodau y tu hwnt i fwyafu elw yn unig. Rwyf hefyd yn gobeithio bod fy mhapur yn arwain o leiaf at arfarniad, os nad newid pendant, ar ran cwmnïau manwerthu a sefydliadau ynglŷn ag i ba raddau maent yn newid delweddau sy'n cyflwyno eu cynhyrchion graffigol," ychwanegodd.

Dywedodd tiwtor Babatunde yn Ysgol Busnes Caerdydd, Dr Michael Arghyrou: "Mae cyflawniad mawr Babatunde yn destun balchder mawr i gymuned gyfan yr Ysgol Busnes ac mae'n dyst i'r llymder academaidd a'r cymhelliant deallusol a welir yn ein rhaglenni israddedig. Mae'n gydnabyddiaeth haeddiannol o waith caled Babatunde. Rwy'n hyderus y caiff y rhagoriaeth bwysig hon ei dilyn gan gyflawniadau sylweddol eraill, i Babatunde yn ogystal ag i fyfyrwyr eraill ym Mhrifysgol Caerdydd."

Mae Sefydliad Moeseg Busnes yn elusen gofrestredig sy'n hyrwyddo safonau uchel o ran arfer busnes, yn seiliedig ar werthoedd moesegol. Nod y gystadleuaeth traethawd yw annog diddordeb myfyrwyr mewn moeseg busnes ac integreiddio trafodaethau ar gyfrifoldeb corfforaethol o gwricwla craidd ysgolion busnes. Barnwyd a sgoriwyd y traethodau yn seiliedig ar eu hamseroldeb, eglurder eu mynegiant, dadansoddi, defnydd damcaniaethau ac ymchwil a chymhwysedd i arfer.

Dyfarnwyd £1,000 i Babatunde, diolch i rodd gan Gordon Cook Foundation.

Darllenwch draethawd buddugol Babatunde yn www.ibe.org.uk

Rhannu’r stori hon