Ewch i’r prif gynnwys

Cynhadledd Polisïau Arloesedd Rhanbarthol

21 Tachwedd 2016

Prifysgol Caerdydd yn cynnal cynhadledd allweddol ynghylch arloesedd rhanbarthol, datblygiad rhanbarthol a pholisi arloesedd.

Roedd y Gynhadledd Polisïau Arloesedd Rhanbarthol yn cynnwys trafodaeth ar rôl dinasoedd a rhanbarthau mewn trafodaethau arloesedd; rôl arloesedd yn hyrwyddo twf arloesedd; dosbarthiad gofodol arloesedd, a swyddogaeth polisïau rhanbarthol wrth ysgogi a harneisio arloesedd.

Wrth sôn am y digwyddiad, meddai’r Athro Kevin Morgan o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio: "Ers dros ddegawd mae’r Gynhadledd Polisïau Arloesedd Rhanbarthol wedi bod yn ddyddiad hanfodol yn nyddiaduron ymchwilwyr, llunwyr polisïau ac ymarferwyr sydd â diddordeb ym maes arloesedd rhanbarthol, datblygiad rhanbarthol a pholisïau arloesedd. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu parhau’r traddodiad hwn ac wedi croesawu cynifer o gynrychiolwyr i Gaerdydd, prifddinas Cymru, a hefyd un o'r ddau ddinas-ranbarth newydd yng Nghymru."

Roedd y cynrychiolwyr yn cynnwys wyth deg rhyngwladol ac ugain o’r DU, a glywodd anerchiadau a sesiynau cyfochrog ar themâu wedi’u trefnu o amgylch pwnc canolog arloesedd rhanbarthol, datblygiad rhanbarthol a pholisïau arloesedd. Rhoddwyd y prif anerchiadau gan: yr Athro Cysylltiol Michaela Trippl o Brifysgol Vienna, yr Athro Philip Cooke o Goleg Prifysgol Bergen, yr Athro Cysylltiol Jiri Blazek o Brifysgol Charles University yn y Weriniaeth Siec, a’r Athro David Wolfe o Brifysgol Toronto.

Cafodd y cyfranogwyr eu hannog i gyflwyno papurau i'w hystyried, cyflwynwyd dros 70 yn ystod y gynhadledd ar bynciau mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys: dulliau newydd o drosglwyddo gwybodaeth a thechnoleg, Arloesedd traws-ffiniol a thrawswladoll, Llywodraethu ac arloesedd rhanbarthol a rôl Prifysgolion mewn arloesedd rhanbarthol.

Gwahoddwyd myfyrwyr i fynychu diwrnod doethur cyn y gynhadledd. Rhoddodd hyn gyfle i fyfyrwyr doethuriaeth PhD gyflwyno eu doethuriaeth i fyfyrwyr ac academyddion blaenllaw i gael trafodaeth ac arweiniad.

Cynhaliwyd cinio’r Gynhadledd yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ar noson 3 Tachwedd gydag araith ar ôl cinio gan Adam Price, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Gellir gweld areithiau gwadd gan yr Athro Cyswllt Michaela Trippl, yr Athro Philip Cooke a’r Athro David Wolfe ar sianel YouTube Cyfres Darlithoedd Cyhoeddus Arloesedd ac Ymgysylltu. Mae Storify gyda negeseuon trydar, ffotograffau a syniadau o'r Gynhadledd ar gael yma.

Cynhaliwyd 11eg Gynhadledd Polisïau Arloesedd Rhanbarthol ym Mhrifysgol Caerdydd ar 3 a 4 Tachwedd 2016.

Rhannu’r stori hon