Darlith Edward Lhuyd 2016
1 Tachwedd 2016
Nid gormod yw dweud i'r Ysgolhaig o gyfnod y Dadeni, William Salesbury, newid cwrs hanes Cymru.
Yn y llyfr Cymraeg cyntaf a gyhoeddodd, tua 1547, fe’i cawn yn datgan ei ‘faniffesto’ ar gyfer y Cymry. Ond beth sydd gan Salesbury a’i faniffesto i’w ddweud wrthym ni heddiw yn y Gymru gyfoes?
Bydd Yr Athro E. Wyn James yn cyflwyno Darlith Edward Lhuyd 2016, “Mynnwch ddysg yn eich iaith”: Maniffesto William Salesbury’, yn Siambr y Cyngor, Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd am 5.30 nos Fawrth, 15 Tachwedd 2016. Yr Athro M. Wynn Thomas sy'n Gadeirydd.
Trefnir Darlith Edward Lhuyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru Gallwch archebu eich tocynnau sydd am ddim drwy ymweld â thudalen digwyddiadau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.