Ewch i’r prif gynnwys

Nid yw’r Bil ar Gam-drin domestig ‘yn mynd yn ddigon pell’

23 Medi 2014

Dr Emma Renold

Bydd academydd blaenllaw Prifysgol Caerdydd yn dadlau yr wythnos hon y bydd Bil Llywodraeth Cymru ar Drais Domestig a Thrais Rhywiol, sy'n seiliedig ar ryw, ac a gynlluniwyd i wella trefniadau ar gyfer atal cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn methu os na fydd yn rhoi addysg, hawliau plant a phrofiadau plant a phobl ifanc eu hunain yn ganolog iddo.

Bydd Emma Renold, Athro mewn Astudiaethau Plentyndod yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol, yn defnyddio briffio ACau i ddadlau, os na fydd newid deddfwriaethol a fydd yn sicrhau bod pob plentyn ysgol a phobl ifanc yng Nghymru yn cael addysg gynhwysfawr i roi sylw i brofiadau dyddiol o aflonyddu rhywiol rhyngbersonol, y bydd y cylch o drais sy'n seiliedig ar ryw a thrais rhywiol mewn diwylliannau cyfoedion plant, yn gorchfygu.

"Er fy mod yn croesawu nod allweddol y Bil i wella trefniadau ar gyfer atal trais sy'n seiliedig ar ryw a thrais yn y cartref, rwy'n pryderu bod y cynigion i sicrhau bod addysg sy'n mynd i'r afael â thrais rhyng-bersonol a pherthnasoedd diogel, drwy ddull ysgol gyfan orfodol, yn cael ei gyflwyno i bob plentyn a pherson ifanc, yn neilltuol yn absennol", meddai'r Athro Renold.

"Mae mwy o frys a phryder hyd yn oed am yr absenoldeb hwn yng ngoleuni ein canfyddiadau ymchwil diweddar a ganfu fod plant sy'n tyfu i fyny yng Nghymru, cyn iddynt gyrraedd eu harddegau (10-12 oed), yn adrodd am ddiwylliannau perthynas bachgen a merch lle mae ffurfiau o wrthdaro ar sail rhyw, gorfodaeth a

rheolaeth yn cael eu gweld gan blant fel elfen anochel o berthnasau pobl ifanc a hynny fel man cyffredin.

"Mae atal, addysgeg a pholisi yn y maes hwn yn sylfaenol i fynd i'r afael â'r realiti o ddiwylliannau perthynas cynnar plant yn 10, 11 a 12 oed. Yn wir, mae'n hanfodol nad yw addysg a pholisi ataliol yn unig yn ystyried trais ar sail rhyw ac aflonyddu fel rhywbeth sydd ond yn effeithio ar 'berthynas plant yn y dyfodol' mewn llencyndod a thu hwnt.

"Mae'n hanfodol fod y '3 P' yn cael eu cynnwys yn y Bil hwn os yw'r ddeddfwriaeth am ddarparu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei obeithio ac yn ei fwriadu.  Heb newid deddfwriaethol, bydd profiadau'r plant o orfodaeth, rheolaeth ac aflonyddu yn eu perthnasoedd diwylliannol cyn iddynt gyrraedd eu harddegau yn aros yn guddiedig a byddant yn anochel yn parhau."

Bydd yr Athro Renold yn tynnu ar ganfyddiadau ei hastudiaeth 'Boys Speak Out: A Qualitative Study of Children's Gender and Sexual Cultures (age 10-12)',  sef yr astudiaeth gyntaf o'i math.   Mae'n manylu yn eu geiriau eu hunain, farn a phrofiadau bechgyn a merched, cyn iddynt gyrraedd eu harddegau, yn tyfu i fyny mewn cymdeithas rywiaethol, ac yn mynd i'r afael â diffyg profiadau pobl ifanc eu hunain mewn pryder cyhoeddus a dadleuon cyfryngol sy'n amgylchynu rhywiaeth ac aflonyddu.

Yr Athro Emma Renold yn arwain y Grŵp Ymchwil Rhyw a Rhywioldeb yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.

Cynhaliwyd y briffio ddydd Mawrth 23 Medi yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rhannu’r stori hon