Ewch i’r prif gynnwys

Peiriannydd Prifysgol Caerdydd ymhlith yr 50 o fenywod mwyaf blaenllaw'r DU ym maes peirianneg

23 Mehefin 2016

Yr Athro Karen Holford
Yr Athro Karen Holford FREng, FLSW, CEng FIMechE

Mae’r Athro Karen Holford yw Dirprwy Is-Ganghellor y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg y Brifysgol, wedi'i henwi heddiw ar y rhestr gyntaf o 50 o'r menywod mwyaf blaenllaw ym maes peirianneg.

Lluniwyd y rhestr gan y Daily Telegraph mewn cydweithrediad â Chymdeithas Peirianneg y Menywod (WES). Heddiw hefyd yw Diwrnod Cenedlaethol Menywod mewn Peirianneg.

Cafodd y 50 a ddaeth i'r brig eu dewis gan banel nodedig o feirniaid ymhlith bron 900 o enwebiadau, ac maent yn cynrychioli menywod mwyaf dylanwadol y DU ym maes peirianneg. Mae'r Athro Holford ymhlith wyth yn unig ar y rhestr sy'n gweithio mewn prifysgolion.

Dywedodd yr Athro Holford: "Mae'n anrhydedd cael fy enwi ar yr un rhestr â rhai o fy arwresau ym maes peirianneg. Fodd bynnag, mae hefyd yn gydnabyddiaeth o'r bobl sydd wedi dylanwadu ar fy ngyrfa - o'r rheini fu'n gysylltiedig â phrentisiaeth fy ngradd yn Rolls-Royce a Chaerdydd, fy ngwaith peirianneg yn AB Electronics, a'r amgylchedd hynod gefnogol ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Rwyf bob amser wedi teimlo'n rhan o dîm yma, ac rwyf yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi fy helpu a fy nghefnogi mewn sawl rôl."

Dechreuodd gyrfa'r Athro Holford yn Rolls-Royce lle cyfrannodd at amrywiaeth o brosiectau technegol. Roedd y rhain yn cynnwys datblygu'r injanau Adour a Pegasus. Wedi hynny, yng nghwmni AB Electronic, hi oedd yn gyfrifol am ddatblygu cynnyrch electronig modurol ar gyfer Jaguar Rover, a buan iawn y cafodd ei dyrchafu'n uwch-beiriannydd.

Ers symud i'r byd academaidd chwarter canrif yn ôl, mae wedi helpu i ddatblygu enw da rhyngwladol a blaenllaw yr ymchwil peirianneg acwstig a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd ac sydd bellach yn gartref i'r cyfleuster peirianyddol acwstig arbrofol gorau yn Ewrop.

Yn sgîl ei hymchwil i allyriadau acwstig, mae technoleg wedi'i datblygu sy'n gallu monitro diogelwch pontydd a strwythurau eraill yn llawer gwell. Erbyn hyn, mae'n defnyddio'r un technegau er mwyn canfod diffygion mewn awyrennau, gan gynnig y posibilrwydd o chwyldroi dyluniadau ac arwain at greu awyrennau ysgafnach.

Eleni, cyd-ysgrifennodd yr adroddiad Menywod Talentog mewn Cymru Lwyddiannus ar gyfer Llywodraeth Cymru. Roedd yr adroddiad yn dadansoddi pwysigrwydd cael rhagor o fenywod mewn gyrfaoedd ym meysydd gwyddoniaeth a pheirianneg, a sut y gellir cyflawni hynny.

Meddai Julie James AC, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth: "Mae Karen yn llawn haeddu'r anrhydedd hon - mae'n esiampl ragorol i bob darpar beiriannydd.

"Mae diffyg cynrychiolaeth menywod mewn gwyddoniaeth a pheirianneg yn broblem ddifrifol yng Nghymru a'r DU yn gyffredinol, ac mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cynyddu nifer y menywod yn y sector gwyddoniaeth."

Yn ôl yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru: "Mae Karen yn un o'r rheini sy'n chwalu'r hen ystrydebau. Mae wedi dilyn gyrfa hynod lwyddiannus fel un o beirianwyr mwyaf rhagorol y DU, ac mae'n ysbrydoliaeth i fenywod ifanc ym mhob man."

Mae'r rhestr yn cynnwys uwch-beirianwyr fel y Fonesig Ann Dowling OM DBE, Llywydd yr Academi Frenhinol Peirianneg a'r Fonesig Judith Hackitt DBE, cyn-Gadeirydd Iechyd a Diogelwch Gweithredol ac sydd bellach yn Gadeirydd EEF, Sefydliad y Gweithgynhyrchwyr.

Meddai Allan Cook CBE, Cadeirydd Atkins, oedd yn un o'r beirniaid: "Cafodd safon, ansawdd a nifer y cyflwyniadau gryn argraff arna i. Drwy ddarllen drwy'r cofnodion, cefais fy nghyffroi'n fawr gan ehangder y sgiliau sydd gennym ym maes peirianneg."

Rhannu’r stori hon