Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn cyhoeddi nawdd sylweddol i Tafwyl

5 Mawrth 2014

Tafwyl
Fel rhan o'i hymrwymiad parhaus i'r Gymraeg, mae Prifysgol Caerdydd wedi addo £22,000 i ŵyl flynyddol Tafwyl mewn prif gytundeb noddi tair blynedd. 
Bob blwyddyn, mae siaradwyr Cymraeg rhugl, dysgwyr ac aelodau o'r cyhoedd sydd â diddordeb yn yr iaith yn heidio i dir castell hanesyddol Caerdydd i ddathlu defnydd y ddinas o'r iaith lafar hynaf yn Ewrop mewn gŵyl sy'n para wythnos.

Fel noddwr swyddogol Tafwyl, bydd Prifysgol Caerdydd yn adeiladu ar ei chysylltiadau presennol â'r ŵyl a'i threfnwyr, Menter Caerdydd.  Caiff ymchwil a gynhaliwyd gan ei hacademyddion Cymraeg ei harddangos yn yr ŵyl, gyda'r bwriad o godi ymwybyddiaeth o weithgareddau'r Brifysgol a denu darpar fyfyrwyr.

Mynegodd Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Hywel Thomas, ei gefnogaeth i Tafwyl:

"Mae'n bleser gan Brifysgol Caerdydd gefnogi Tafwyl fel ei noddwr swyddogol.  Mae gan y Brifysgol ymrwymiad cryf i'r Gymraeg ac i'w chymunedau cyfagos.  Erbyn hyn, mae gennym fwy o fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith nag erioed o'r blaen a chredwn fod yr ŵyl yn fan cyfarfod gwych i selogion y Gymraeg o bob gallu ddod at ei gilydd i ddathlu cydwerthfawrogiad o'n hiaith sy'n tyfu ac yn esblygu o hyd.  Yn y blynyddoedd sydd i ddod, rwy'n gobeithio y bydd cyfraniad y Brifysgol at yr ŵyl yn helpu i'w gwneud yn ddigwyddiad yr un mor barhaol â'r Eisteddfod yng nghalendr diwylliannol Cymru."

Dywedodd Prif Weithredwr Menter Caerdydd, Sian Lewis:

"Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod Tafwyl yn tyfu ac ehangu diolch i'r gefnogaeth newydd gan Brifysgol Caerdydd.  Mae'r gefnogaeth gan y Brifysgol yn cynnig sicrwydd i'r ŵyl ac yn galluogi'r Fenter i gynllunio at ddyfodol llewyrchus i'r ŵyl.  Mae cael Prifysgol Caerdydd fel Prif Noddwr yn hwb enfawr a chyffrous ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio."

Yn Nhafwyl y llynedd, lansiodd Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol y Brifysgol Pobl Caerdydd, sef gwasanaeth newyddion a rhwydweithio digidol a ddatblygwyd gan y gymuned ac ar ei rhan.  Datblygwyd y gwasanaeth i ymateb i'r angen pwysig am gynnwys Cymraeg, sy'n apelio at gynulleidfa ifanc a digidol lythrennog yng Nghaerdydd.

Eleni, bydd yr ŵyl yn para o 11 i 18 Gorffennaf, pan gaiff digwyddiadau diwylliannol niferus eu cynnal mewn lleoliadau amrywiol ledled y ddinas, o Ganolfan Gelf Chapter a bar Porters, i'r Amgueddfa Genedlaethol a Chlwb Ifor Bach.  Daw'r wythnos i ben â ffair undydd, a ddenodd dros 12,000 o bobl yn 2013 ac y disgwylir iddi ddenu hyd yn oed mwy o ymwelwyr eleni.  Y llynedd, daeth dros 20% o'r gynulleidfa o'r tu hwnt i Gaerdydd.

Caiff Tafwyl ei chefnogi gan nifer o Lysgenhadon, sy'n dangos poblogrwydd cynyddol yr ŵyl, gan gynnwys Alex Jones (One Show), Rhys Patchell (Gleision Caerdydd), Matthew Rhys (Actor) a Huw Stephens (cyflwynydd BBC Radio 1).

Yn ôl data'r cyfrifiad diweddaraf, caiff ei amcangyfrif bod 11.1% o'r 348,000 o bobl yng Nghaerdydd yn siarad Cymraeg.

Rhannu’r stori hon