Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau lleoliad yn anrhydeddu rhagoriaeth myfyrwyr

25 Ebrill 2024

The Placement Awards winners 2024: Lewis, Will, and Gemma

Yn ddiweddar, cynhaliodd Ysgol Busnes Caerdydd y Gwobrau Lleoliadau Israddedig, gan dynnu sylw at gyflawniadau rhyfeddol ein myfyrwyr yn ystod eu lleoliadau.

Wedi'u cynnal ar 21 Mawrth 2024, roedd y gwobrau'n cydnabod cyfraniadau myfyrwyr lleoliad rhagorol i fusnesau yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang.

Opsiwn poblogaidd i nifer o’n myfyrwyr yn Ysgol Busnes Caerdydd yw lleoliadau gwaith, ac mae profiadau o’r fath yn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol, gan eu galluogi i ragori ar y rhelyw mewn marchnad swyddi gystadleuol ar ôl graddio.

Mae Ardal Cyfleoedd Ysgol Busnes Caerdydd yn cefnogi myfyrwyr i ddod o hyd i leoliadau a gwneud cais iddynt, yn ogystal â'u helpu drwy gydol eu taith leoliadau.

Roedd 20 o fyfyrwyr a oedd ar leoliad y llynedd (2022/23), ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau.

“Mae safon y gwaith mae ein myfyrwyr wedi'i gyflawni, mewn ystod eang o ddiwydiannau, tra ar leoliadau’n wirioneddol anhygoel ac rydyn ni mor falch o'u cyflawniadau."
Alex Hicks Placement Manager

... "Ffordd wych o ddathlu’r llwyddiannau hyn yw digwyddiad blynyddol y Gwobrau Lleoliadau, a hynny yng nghwmni cyd-weithwyr academaidd, partneriaid strategol, a myfyrwyr ar leoliad sydd wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr. Dyma estyn diolch arbennig i noddwyr hael y gwobrau; heb eu cefnogaeth, ni fyddai trefnu’r digwyddiad godidog hwn yn bosibl."

Llongyfarchiadau i'n henillwyr a'n myfyrwyr a gafodd eu cymeradwyo’n fawr:

Myfyriwr Lleoliad y Flwyddyn, a noddir gan Novus

  • Enillydd y wobr – Lewis Gibbins (Aldi)
  • Canmoliaeth uchel – Ollie Davies (Wincanton)
Lewis and Ollie with award sponsor, Novus.

Intern y Flwyddyn, a noddir gan Celsa UK

  • Enillydd Gwobr – Will Beaney (Sparta Capital Management)
  • Canmoliaeth uchel - Gracie Holliday (Rocialle Healthcare)
Will and Grace with award sponsor, Celsa UK

Cyfraniad Myfyrwyr i BBaCh, a noddir gan ICAEW

  • Enillydd Gwobr – Gemma Green (Darwin Gray)
  • Canmoliaeth uchel – Amber Dale (Ultra X)
Gemma and Amber with award sponsor, ICAEW.

"Llongyfarchiadau i'n myfyrwyr am eu henwebiadau a'u llwyddiannau yng Ngwobrau Lleoliadau Israddedigion eleni. Mae'n wirioneddol ysbrydoledig cydnabod llwyddiannau ein myfyrwyr ac iwerthfawrogi'r gwerth amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y maent wedi'i greu ar gyfer sefydliadau yn ystod eu lleoliadau."
Yr Athro Rachel Ashworth Deon Ysgol Busnes Caerdydd

Cwrdd ag enillwyr ein myfyrwyr

Lewis Gibbins

Dywedodd Lewis Gibbins, a enillodd wobr Myfyriwr Lleoliad y Flwyddyn:

"Roedd cael fy enwi'n Fyfyriwr Lleoliad y Flwyddyn yn wirioneddol werth chweil ac yn dyst i'm hamser gwych yn Aldi. Cefais y cyfle i gael effaith wirioneddol ar y busnes trwy amrywiol rolau mewn gweithrediadau yn y siop. Rôl amlwg i mi oedd cael y cyfrifoldeb i ddosbarthu stoc Nadolig i dros 80 o siopau yn rhanbarth Caerdydd.

Mae fy sgiliau rheoli amser, gwybodaeth am y diwydiant ac arweinyddiaeth i gyd wedi cael datblygiad sylweddol diolch i'm lleoliad, ac ni allwn ei argymell ddigon! Mae lleoliad nid yn unig yn gyfle i gymhwyso'ch gwybodaeth ond hefyd i dyfu, fel gweithiwr proffesiynol ac fel person."

Will Beaney

Dywedodd Will Beaney, enillydd Intern y Flwyddyn:

"Mae'n anrhydedd anhygoel cael cydnabyddiaeth gan Brifysgol Caerdydd fel Myfyriwr Intern y Flwyddyn. Rwy'n gwybod pa mor llwyddiannus oedd yr enwebeion eraill yn eu lleoliadau; mae ennill y wobr hon yn dod â balchder mawr i Sparta ac i minnau. Ar fy lleoliad, yr wyf yn gyfrifol am gysoni masnach Sparta, swyddi, arian parod, P & L, a mwy na 50 o gyfrifon arian cyfred ar draws 5 ceidwaid.

Ni allwn fod wedi dirnad cyn dechrau ar fy lleoliad faint o ddysgu oedd gen i o'm blaen. Mae cwblhau fy lleoliad yn Llundain wedi bod yn brofiad datblygiad personol aruthrol. Rwyf wedi cael fy herio'n barhaus, wedi gwneud ffrindiau gydol oes, ac wedi creu rhai o fy hoff atgofion. Rwyf wedi dysgu cymaint amdanaf fy hun ag a wnes am fy niwydiant; byddaf yn dychwelyd i Gaerdydd yn berson gwahanol iawn i'r un a adawodd ar gyfer lleoliad ar ddiwedd 2022."

Gemma Green

Dywedodd Gemma Green, enillydd Y Cyfraniad Gorau gan Fyfyriwr i Gyflogwyr Bach a Chanolig (BBaChau):

"Mae'n deimlad anhygoel cael fy nghydnabod am fy llwyddiannau a pha mor bell rydw i wedi dod ar fy nhaith ar leoliad. Mae'n deimlad gwych gwybod bod y gwaith a wnes i yn ystyrlon ac wedi cael effaith ar y cwmni.

Rwyf wedi dysgu cymaint ar leoliad, gan gynnwys sgiliau proffesiynol a sgiliau personol. Mae fy hyder wedi cynyddu yn ogystal â'm proffesiynoldeb. Byddwn bob amser yn argymell lleoliad i eraill, gan ei fod wedi fy ngalluogi i wella llawer o sgiliau sy'n berthnasol i brifysgolion, gwaith a bywyd bob dydd. Mae wedi fy ngalluogi i dyfu fel unigolyn ac wedi rhoi profiad amhrisiadwy i mi a fydd yn fy helpu i sicrhau swydd ar ôl i mi raddio."

Mae’r opsiwn ar gael i israddedigion Ysgol Busnes Caerdydd dreulio blwyddyn ar leoliad proffesiynol wrth astudio ar gyfer eu gradd. Mae Rheolaeth Busnes (BSc) hefyd yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr gwblhau lleoliad integredig yn semester gwanwyn eu hail flwyddyn.

Cysylltwch â'r Tîm Lleoliadau yn Ysgol Busnes Caerdydd i gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd rydyn ni'n eu cynnig.

Rhannu’r stori hon