Ewch i’r prif gynnwys

Mae papur newydd yn helpu ni i ddeall sut mae problemau emosiynol yn ystod plentyndod yn datblygu dros amser

25 Mawrth 2024

Mae problemau emosiynol megis gorbryder ac iselder yn gyffredin, ac maent yn aml yn dechrau yn ystod plentyndod cynnar. Gallai deall sut mae plant yn datblygu problemau emosiynol mewn gwahanol ffyrdd ein helpu i nodi pwy sydd fwyaf mewn perygl o brofi anawsterau hirhoedlog.

Mae papur o'r enw Childhood correlates and young adult outcomes of trajectories of emotional problems from childhood to adolescence newydd gael ei gyhoeddi. Mae'n taflu goleuni ar y ffordd gymhleth y mae anawsterau emosiynol yn datblygu ymhlith pobl ifanc Mae'r astudiaeth hon, dan arweiniad Dr Foteini Tseliou o Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, yn cynnig cipolygon hanfodol i sut mae problemau emosiynol yn esblygu o blentyndod trwy lencyndod.

Mae'r astudiaeth, a oedd yn cynnwys dros 8,000 o blant a anwyd yn gynnar yn y 1990au, yn tynnu ar ddata helaeth a gasglwyd trwy Astudiaeth Hydredol Rhieni a Phlant Avon (ALSPAC). Fe wnaeth ymchwilwyr trin a thrafod holiaduron a gwblhawyd gan rieni ar ran plant rhwng pedair a dwy ar bymtheg oed. Roedd yr holiaduron yn canolbwyntio ar symptomau sy’n gysylltiedig â phroblemau emosiynol megis pryderon, ofnau, nerfusrwydd, anhapusrwydd, a chwynion corfforol.

Dangosodd prif ganfyddiadau’r ymchwil fod pedwar patrwm gwahanol o broblemau emosiynol y gellir eu gweld yn ystod plentyndod a glasoed, sef:

  1. Symptomau sefydlog isel: Ni ddangosodd mwyafrif y plant (67%) lawer o symptomau emosiynol trwy gydol y cyfnod astudio.
  1. Symptomau sy'n lleihau: Dechreuodd rhai unigolion (18%) gyda phroblemau uwch yn ystod plentyndod, a oedd wedi lleihau dros amser.
  1. Symptomau sy’n cynyddu yn ystod llencyndod: Profodd tua 9% o'r rhai a gymerodd ran symptomau isel yn ystod plentyndod ond fe ddatblygwyd mwy o anawsterau yn ystod eu harddegau.
  1. Symptomau uchel parhaus: Roedd grŵp bach (6%) yn profi problemau emosiynol uchel a pharhaus yn ystod plentyndod a thrwy lencyndod.

Ar ben hynny, dangosodd yr astudiaeth fod goblygiadau sylweddol i les hirdymor unigolion yn seiliedig ar sut mae eu hanawsterau emosiynol yn datblygu.

"Canfuwyd bod y rhai â phroblemau a oedd yn cynyddu yn ystod llencyndod neu broblemau parhaus o’u plentyndod mewn mwy o berygl o brofi symptomau iselder, cyrhaeddiad addysgol gwael ac yn fwy tebygol o hunan-niweidio pan oeddent yn oedolion ifanc. Ar y llaw arall, nid oedd y plant a brofodd broblemau emosiynol a oedd yn lleihau dros amser yn dangos risg uwch ar gyfer problemau iechyd meddwl neu broblemau swyddogaethol pan oeddent yn oedolion ifanc."
Foteini Tseliou Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Nododd yr ymchwil hefyd nifer o ffactorau sy'n gysylltiedig â phroblemau emosiynol parhaus, gan gynnwys anawsterau cwsg yn ystod plentyndod, anniddigrwydd, problemau gydag ymddygiad a phroblemau niwroddatblygiadol, yn ogystal ag adfyd teuluol.

Gan ystyried y canfyddiadau hyn, mae'r astudiaeth yn pwysleisio bod problemau emosiynol yn ystod plentyndod yn gyffredin, ond i lawer o blant, maent yn gwella gydag amser, heb unrhyw risg uwch o ganlyniadau gwael i oedolion. Mae angen cymorth wedi'i darged ar y rhai sy’n profi problemau emosiynol parhaus neu broblemau sy'n dechrau yn ystod llencyndod i atal problemau iechyd meddwl parhaol ac anawsterau eraill yn ystod oedolaeth. Mae nodi a chefnogi plant sydd â phroblemau emosiynol parhaus neu broblemau sy’n dechrau yn ystod llencyndod yn hollbwysig er mwyn atal canlyniadau gwael yn yr hirdymor.

Gorffennodd Dr Tseliou trwy ddweud: Mae'r astudiaeth hon yn gwella ein dealltwriaeth o anawsterau emosiynol yn ystod plentyndod, ac mae hefyd yn tanlinellu'r angen brys am ymyriadau wedi'u teilwra i gefnogi unigolion sy’n agored i niwed drwy gydol eu datblygiad.

Cyhoeddir y papur "Childhood correlates and young adult outcomes of trajectories of emotional problems from childhood to adolescence" ar-lein yn Psychological Medicine gan Wasg Prifysgol Caergrawnt.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn chwilio am bobl ifanc sydd wedi profi iselder yn y gorffennol, neu sydd â symptomau ysgafn ar hyn o bryd ac sy'n byw gyda rhiant sydd wedi cael diagnosis o iselder i gymryd rhan yn astudiaeth Sgiliau ar gyfer WelLbeing Pobl Ifanc.