Ewch i’r prif gynnwys

Artist llyfrau enwog yn rhoi gwaith ei bywyd i archifau’r brifysgol

7 Mawrth 2024

Gwraig yn edrych ar bapur
Artist llyfrau Shirley Jones. Llun gan: Bronwen Frow-Jones

Mae un o artistiaid llyfrau enwocaf Cymru wedi rhoi gwaith ei bywyd i Brifysgol Caerdydd.

Mae casgliad Shirley Jones, sylfaenydd The Red Hen Press, bellach yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau'r sefydliad ac mae’n agored i bawb. Y rhodd hon, sy’n cynnwys 28 o lyfrau a wnaed rhwng 1975 a 2016, yw’r un fwyaf a gyflwynwyd i’r Brifysgol gan artist benywaidd o Gymru sy’n fyw, a hwn yw’r unig gasgliad cyflawn o’i gwaith.

Yn ogystal â gallu gweld y copïau caled, mae'r casgliad cyfan yn cael ei ddigideiddio a bydd ar gael i'w weld a'i lawrlwytho ar-lein yn rhad ac am ddim.

Yr artist a'r awdur medrus oedd yn gyfrifol am fwy neu lai’r holl waith oedd yn gysylltiedig a’i llyfrau – roedd hyn yn cynnwys y rhyddiaith a’r darluniau, argraffu a gwaith rhwymo’r llyfrau. Mae themâu Cymreig ac Eingl-Sacsonaidd, gan gynnwys tirweddau, mythau a byd natur, yn cael sylw amlwg.

Mae gwaith Jones wedi cael ei arddangos yn eang, gan gynnwys mewn arddangosfeydd adolygol unigol tri mis o hyd yn Amgueddfa Victoria ac Albert, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru a’r Oriel Gelf yng Nghaerdydd, ac Amgueddfa Casnewydd.

Dywedodd Jones, sy'n dathlu ei phen-blwydd yn 90 oed eleni: “Rwy'n falch iawn o roi'r rhodd hon i Brifysgol Caerdydd. A minnau’n gynfyfyriwr, fedra i ddim meddwl am le gwell ar ei chyfer. Mae llyfrau a diwylliant Cymreig wedi fy ysbrydoli drwy gydol fy mywyd, ac mae hyn yn ffordd o ddiolch am hynny.”

Gan gyfuno gwaith celf a thestun gwreiddiol, mae ei llyfrau wedi’u hargraffu â llaw a’u rhwymo’n fedrus, gan ddefnyddio papurau wedi’u gwneud â llaw a thechnegau argraffu sy’n dyddio’n ôl tair canrif. Mae rhai o'r llyfrau yn fwy na hanner metr o hyd.

Dywedodd ei mab Evan Jones: “Mae llyfrau a chelf wedi chwarae rhan mor bwysig trwy gydol bywyd mam. Dyna pam ei bod hi eisiau mynd i’r brifysgol – llenyddiaeth a chelf yw’r pethau sy’n ei gyrru.

“Mae gwneud yn siŵr bod modd i bawb weld ei gwaith wedi bod yn bwysig iawn iddi. Felly, mae'n wych y bydd ei chasgliad nawr yn cael ei gadw yn y Casgliadau Arbennig ac Archifau, gan ganiatáu i bobl weld y grefft anhygoel oedd yn gysylltiedig â chreu pob un o'i llyfrau. Mae’r ffaith bod y casgliad ar gael yn ddigidol ar-lein hefyd yn golygu y bydd cynulleidfaoedd ledled y byd yn dysgu am ei hetifeddiaeth.”

Cafodd Jones ei geni yng Nghwm Rhondda ym 1934. Roedd ei thad yn löwr di-waith, ac yn signalwr rheilffordd yn ddiweddarach. Astudiodd lenyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yno y cyfarfu Ken Jones, ac wedyn ei briodi. Cawson nhw dri o blant, ac maen nhw'n ymddangos mewn sawl un o'i llyfrau. Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Caerdydd, bu Jones yn addysgu Saesneg am saith mlynedd, ochr yn ochr â gwneud nifer o ddosbarthiadau celf amrywiol. Rhoddodd y gorau i addysgu o’r diwedd ym 1974, yn 40 oed, i astudio celf yn amser llawn am ddwy flynedd, gan wneud cyrsiau cerflunio a gwneud printiau yng Ngholeg Celf a Dylunio Croydon.

Wrth sôn am ei phroses gynhyrchu, dywedodd ei gŵr Ken Jones: “Mae pob darn wedi’i greu gyda’r testun a’r delweddau yn cydweithio mewn modd cyfannol. Roedd Shirley yn cael ei chyfareddu gan sut mae’r ddwy elfen yn rhyngweithio â’i gilydd, felly roedd llyfrau artistiaid yn faes addas iawn iddi weithio ynddo.

“Roedd llai na 50 copi o’i llyfrau’n cael eu cyhoeddi, a chymerodd yr awenau dros y broses gynhyrchu gyfan - gan ddewis ffontiau, y papur teipio a’r inc, a hyd yn oed eu rhwymo ar un adeg. Arweiniodd hyn at greu casgliad hardd a mynegiant unigryw o’i chreadigrwydd a’i hangerdd.”

Dywedodd Alan Vaughan Hughes, Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’r llyfrau eithriadol hyn yn dangos sut, hyd yn oed yn yr oes ddigidol, mae llyfrau’n bethau byw – ac mae eu symudiad, pwysau a’r gofal manwl a ddangosir yn y modd y cawson nhw eu creu yn dweud cyfrolau.

“Pleser pur yw pori drwyddyn nhw ac ymgolli ynddyn nhw. Mae rhodd Shirley yn golygu bydd artistiaid, ymchwilwyr a darllenwyr y dyfodol yn parhau i gael eu hysbrydoli gan harddwch llyfrau.

“Llwyddodd Shirley i feistroli yn ogystal â hyrwyddo’r gelfyddyd hon sydd wedi mynd bron yn angof – ac mae’n anrhydedd i ni dderbyn y rhodd hon gan The Red Hen Press, sy’n cwmpasu gwaith ei bywyd fel artist a rhwymwr llyfrau.”

Mae Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd ar agor i bawb drwy apwyntiad. Gellir mwynhau holl waith Shirley Jones ar-lein hefyd yng Nghasgliadau Arbennig Digidoly Brifysgol.

https://youtu.be/j2NwmAv0f1U

Rhannu’r stori hon