Ewch i’r prif gynnwys

Dr Diana Contreras Mojica yn cael ei ddewis i gymryd rhan yng Nghrwsibl GW4 2024 mawreddog.

26 Chwefror 2024

Mae Dr Diana Contreras Mojica, darlithydd mewn Gwyddorau Geo-ofodol yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, wedi cael ei ddewis i gymryd rhan yng Nghrwsibl GW4 2024. Bydd Dr Mojica yn dod â'i harbenigedd ym meysydd asesu bregusrwydd, rheoli dŵr ac ansicrwydd bwyd i dîm amlddisgyblaethol o arweinwyr ymchwil mewn amrywiol feysydd. Ymhlith y rhain mae seicoleg, y gyfraith, peirianneg, economeg, yn ogystal â'r gwyddorau biolegol, epidemioleg ac ymarfer clinigol. Mae gan y tîm cyfan nod cyffredin o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb iechyd.

Mae Crwsibl GW4 2024 yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau iechyd a lles cymhleth sydd wedi'u gwreiddio mewn gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol. Byddant hefyd yn darparu hyfforddiant ymarferol er mwyn meithrin arweinwyr ymchwil cydweithredol y dyfodol.

Mae canlyniadau iechyd cymdeithasol yn cael eu dylanwadu gan lu o ffactorau rhyngweithiol. Mae’r rhain yn amrywio o’r gallu i fanteisio ar gyfleoedd, profiadau bywyd ac effeithiau anfanteision economaidd-gymdeithasol. Nod carfan Crwsibl GW4 eleni yw ysgogi newid trawsnewidiol yn y rhanbarth. Mae gan y rhanbarth lefelau uchel o dlodi arfordirol a gwledig, sy’n gwaethygu canlyniadau iechyd negyddol i ddinasyddion.

Mae Crwsibl GW4 hefyd yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n cymryd rhan gystadlu am arian sbarduno ar gyfer prosiectau rhyngddisgyblaethol cydweithredol, lle gall ymchwilwyr ymroddedig ac sydd wedi’u grymuso, er enghraifft Dr Mojica, drosi eu syniadau yn gamau ystyrlon ym maes tegwch iechyd. O dan arweiniad Dr. Joanna Jenkinson MBE, cyfarwyddwr GW4, mae’r rhaglen Crwsibl wedi meithrin dros 200 o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac wedi dyfarnu dros £100,000 o arian sbarduno hyd yn hyn.

Dywedodd Dr Joanna Jenkinson MBE, Cyfarwyddwr GW4, yn ei datganiad bod y "rhaglen Crwsibl GW4 wedi mynd o nerth i nerth ac mae'n parhau i fod yn hollbwysig wrth helpu i wella gyrfaoedd arweinwyr ymchwil y dyfodol. Mae'n dangos gwerth dod ag ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa o ddisgyblaethau gwahanol iawn at ei gilydd er mwyn datblygu dulliau newydd o fynd i’r afael â heriau a chwestiynau ymchwil byd-eang."

"Hoffwn groesawu ein carfan newydd ac edrychaf ymlaen at glywed eu syniadau arloesol a dathlu eu llwyddiannau yn y dyfodol."

Drwy gydol y rhaglen, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn ymgymryd ag profiad dysgu hybrid, gan gynnwys labordai preswyl wyneb yn wyneb a dosbarthiadau meistr ar-lein gyda siaradwyr arbenigol. Bydd y garfan yn datblygu sgiliau a chyfnewid gwybodaeth, yn ogystal â manteisio ar gyfleoedd i rwydweithio er mwyn gwella eu gwelededd ymhlith arweinwyr y sector o fewn GW4 a thu hwnt.

Wedi'i ffurfio gan sefydliadau sydd yn ddwys o ran ymchwil, sef Prifysgol Caerfaddon, Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerwysg a Phrifysgol Caerdydd, mae’r Cynghrair GW4 yn dod ag ymchwilwyr at ei gilydd i fynd i'r afael â phedair blaenoriaeth strategol allweddol, sef "Seiber a Digidol, Sero-net Cynaliadwy, Cymunedau Creadigol ac Iechyd a Lles". Y nod yw meithrin economïau sy’n flaengar, cynhwysol ac sy'n seiliedig ar wybodaeth.

Yn ystod y misoedd nesaf, dilynwch yr Athro X a'r rhai sydd hefyd yn cymryd rhan yn Crwsibl wrth iddynt geisio arloesi atebion rhyngddisgyblaethol a gwneud cynnydd yn y frwydr yn erbyn anghydraddoldebau iechyd. Gallwch wneud hyn trwy dudalennau LinkedIn, Twitter ac Instagram GW4, yn ogystal â thrwy wefan GW4.

Rhannu’r stori hon