Ewch i’r prif gynnwys

Targedu llid er mwyn mynd i’r afael â COVID hir

14 Chwefror 2024

Stock image of coronavirus

Mae gorweithio'r system imiwnedd sy'n arwain at gylchrediad proteinau llidiol o amgylch y corff yn cyfrannu at ddatblygiad COVID hir, a byddai modd eu targedu i ddarparu triniaethau i gleifion, yn ôl ymchwil newydd.

Mae ymchwil gan Brifysgol Caerdydd wedi datgelu marcwyr biolegol a allai gael eu targedu drwy ailbwrpasu meddyginiaeth i drin COVID hir.

Yn rhan o’r ymchwil, cafodd samplau plasma a gafwyd o garfan fawr o unigolion iach wedi COVID-19 a chleifion â COVID hir nad oedd wedi mynd i’r ysbyty eu dadansoddi’n helaeth. Yn ôl yr ymchwil, roedd y system ategol - system sy'n chwarae rhan hanfodol o'r system imiwnedd, sy'n cynnwys grŵp o broteinau sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella swyddogaeth gwrthgyrff a chelloedd imiwn - yn cael ei gorweithio’n aml yn y bobl hynny â COVID hir.

“Mae pandemig COVID-19 wedi gadael gwaddol fyd-eang o afiechyd, ac yn ôl yr amcangyfrif, mae COVID hir yn effeithio ar hyd at 1.9 miliwn o bobl yn y DU. Gall COVID hir bara am fisoedd neu flynyddoedd ar ôl yr heintio cyntaf. Mae'n gysylltiedig â symptomau amrywiol gan gynnwys meddwl pŵl, poen yn y frest, diffyg anadl, blinder, a phroblemau gyda’r synhwyrau. Mae achosion y clefyd hwn yn parhau i fod yn anhysbys i raddau helaeth, ac mae tystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yn awgrymu bod llid cronig yn chwarae rôl bwysig."
Yr Athro Paul Morgan Professor

“Yn rhan o’r ymchwil hwn, rydyn ni'n dangos gorweithio’r system ategol mewn achosion o COVID hir. Mae dadreoleiddio’r system ategol yn nodwedd gyffredin o glefydau llidiol acíwt a chronig ac yn un o’r prif bethau sy’n ysgogi llid. Felly, byddai modd i ni ddefnyddio’r wybodaeth hon nid yn unig i ddeall ymhellach achosion o COVID hir, ond hefyd i ddatblygu triniaethau effeithiol.”

Ar hyn o bryd, does dim profion i wneud diagnosis o COVID hir, ond mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu y gallai marcwyr biolegol ar gyfer y system ategol a gaiff eu mesur mewn samplau gwaed hwyluso diagnosis ffurfiol o COVID hir.

Mae triniaethau effeithiol ar gyfer COVID hir hefyd yn ddiffygiol, gyda dulliau triniaeth cyfredol yn gyfyngedig i leddfu symptomau ac adsefydlu. Mae'r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd eu canfyddiadau'n sail i brofi therapïau wedi'u targedu i atal y system ategol ac adfer iechyd.

Ychwanegodd Dr Zelek, Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Ar hyn o bryd, does dim un driniaeth na meddyginiaeth effeithiol ar gyfer COVID hir, heblaw am driniaethau cyfyngedig sy’n darparu rhywfaint o ryddhad o symptomau. Mae ein hymchwil yn awgrymu y gallai targedu gorweithio’r system ategol ddarparu triniaeth effeithiol i rai unigolion â COVID hir."

“Mae’r ymchwil hwn yn gyffrous oherwydd mae meddyginiaethau sy’n targedu’r marcwyr biolegol rydyn ni wedi’u nodi, ac sy’n lleihau gweithgarwch y system ategol eisoes yn cael eu defnyddio ym maes meddygaeth glinigol i drin clefydau eraill. Felly, trwy weithio gyda gweithgynhyrchwyr cyffuriau i ailddefnyddio’r meddyginiaethau hyn, efallai bydd modd i ni ddarparu triniaethau effeithiol ar gyfer COVID hir.”
Dr Wioleta Zelek Research Associate

Mae'r ymchwilwyr yn gobeithio y bydd modd rhoi treialon cyffuriau cychwynnol ar waith yn y dyfodol agos i brofi'r meddyginiaethau hyn ar gleifion sydd â COVID hir, sydd wedi’u dewis yn seiliedig ar y marcwyr gwaed y maen nhw wedi'u nodi.

Cafodd yr ymchwil, ‘Complement dysregulation is a prevalent and therapeutically amenable feature of long COVID’, ei arwain gan yr Athro Paul Morgan, yr Athro David Price, Dr Helen Davies a Dr Wioleta Zelek, a’i gyhoeddi yn Med, cyfnodolyn meddygol blaenllaw sy’n cael ei gyhoeddi gan Cell Press.

Rhannu’r stori hon