Ewch i’r prif gynnwys

Yr Athro a'r Patriarch

9 Chwefror 2024

Yr Athro Norman Doe, Ei Holl-Sancteiddrwydd Bartholomew, Patriarch Eciwmenaidd Caergystennin a'r Grand Ecclesiarch Aetios.
Yr Athro Norman Doe, Ei Holl-Sancteiddrwydd Bartholomew, Patriarch Eciwmenaidd Caergystennin a'r Grand Ecclesiarch Aetios.

Teithiodd Athro o Gaerdydd i Istanbul ym mis Rhagfyr i gwrdd ag arweinydd ysbrydol Eglwys Uniongred y Dwyrain sydd â thros 220 miliwn o ddilynwyr o ledled y byd.

Gwnaeth yr Athro Norman Doe o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth gyflwyno ei lyfr Legal Thought and Eastern Orthodox Christianity: The Addresses of Ecumenical Patriarch Bartholomew I (Routledge, 2023), i Ei Holl Sancteiddrwydd Bartholomew, Patriarch Eciwmenaidd Caergystennin. Cafodd y llyfr, sydd â rhagair a ysgrifennwyd gan Katerina Sakellaropoulou, Llywydd Gwlad Groeg, ei gydolygu gan yr Athro Doe a’r Tra Pharchedig Grand Ecclesiarch Aetios er mwyn nodi hanner canmlwyddiant ers i Ei Holl Sancteiddrwydd ddod yn esgob.

Am gyfnod o ddwy ganrif ar bymtheg, mae Istanbul wedi bod yn gartref cysegredig i'r Patriarchaeth Eciwmenaidd a leolir yn y Phanar. Fe wnaeth y Patriarch Bartholomew wahodd yr Athro Doe, ynghyd â’r Grand Ecclesiarch Aetios (sef Cyfarwyddwr y Swyddfa Breifat Patriarchaidd, sydd ar hyn o bryd yn astudio doethuriaeth ym maes cyfraith ganon ym Mhrifysgol Caerdydd) i gynulleidfa breifat yn y Phanar. Hefyd yn bresennol yn y digwyddiad roedd Mark Hill KC (cyn Gadeirydd Cymdeithas y Gyfraith Eglwysig) a’r Esgob Christopher Hill (Llywydd y Gymdeithas), a bu i’r ddau ohonynt gyfrannu at y casgliad golygedig o draethodau.

Yn gynharach, mewn gwasanaeth eglwysig, estynnodd y Patriarch ei ddiolch i'r Athro Doe a'r Grand Ecclesiarch Aetios am eu gwaith ym mhresenoldeb aelodau’r Synod Sanctaidd a Chysegredig y Patriarchaeth Eciwmenaidd. Yn ystod y digwyddiad, cyflwynodd yr Athro Doe hefyd lythyr o ddymuniadau da i’r Patriarch oddi wrth Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John (a wnaeth raddio yn y gyfraith o Brifysgol Caerdydd).

Sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r Patriarch wedi diolch i’r Athro Doe yn gyhoeddus am awgrymu ysgrifennu a drafftio’r Datganiad o Egwyddorion Cyfraith Gristnogol (2016) a gafodd ei lansio mewn gweithdy a gynhaliwyd yn ystod yr 11eg Cynulliad Cyngor Eglwysi’r Byd yn Karlsruhe, yr Almaen, ym mis Medi 2022, ac sy’n seiliedig ar lyfr gan yr Athro Doe, sef Christian Law: Contemporary Principles (Cambridge, 2013).

Dyma a ddywedodd yr Athro Doe: “Braint o’r mwyaf oedd medru cydolygu’r llyfr hwn gyda’r Grand Ecclesiarch Aetios, sy’n trafod cyfraniadau amhrisiadwy’r Patriarch Eciwmenaidd, a gafodd ei hyfforddi’n gyfreithiwr canonaidd, i ddatblygiad meddwl cyfreithiol ar ystod o bynciau pwysig ac amserol, gan gynnwys y gyfraith ganon, integreiddio o ran crefydd yn Ewrop, hawliau dynol, rhyddid crefyddol, a'r amgylchedd. Roedd yn bleser mawr i fod yng nghwmni Aetios a’i Holl Sancteiddrwydd Bartholomew ar achlysur mor hanesyddol, arwyddocaol, cofiadwy a hapus”.

Rhannu’r stori hon