Ewch i’r prif gynnwys

Papur newydd yn ymchwilio i drywydd iselder mewn plant

6 Chwefror 2024

Ymhlith plant y mae un o’u rhieni yn dioddef o iselder, maent yn wynebu risg gynyddol o ddatblygu iselder eu hunain. Mewn papur ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan y Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, ymdrinnir â’r gwaith o ddeall yr effaith y mae iselder ymhlith rhieni yn ei chael ar berson ifanc.

Mae trywydd iselder wedi cael ei astudio o fewn y boblogaeth gyffredinol, ond hyd yma, ni chafwyd hyn ei ystyried o safbwynt plant y mae eu rhieni yn dioddef o iselder.  

Dyma a ddywedodd Bryony Weavers, un o’r ymchwilwyr a weithiodd ar y papur: "Dilynon ni 337 o blant y mae eu rhieni’n dioddef o iselder, a hynny o adeg eu plentyndod hyd at eu tyfiant yn oedolion, er mwyn ceisio deall yn well sut mae eu risg o ddatblygu iselder yn newid dros dreigl amser."

"Gan ddefnyddio dull ystadegol penodol, sef dadansoddi twf dosbarth cudd, aethon ni ati i fodelu iselder mewn unigolion tebyg, rhwng 9 a 28 oed. Gwnaethon ni ystyried yn fanwl y ffactorau a oedd yn gysylltiedig ag iselder, ynghyd â defnyddio adroddiadau disgrifiadol o symptomau’r anhwylder er mwyn cael dealltwriaeth fwy manwl o’r cryfderau a’r anawsterau y mae unigolion o’r fath yn eu hwynebu."

Dangosodd y rhan fwyaf o’r bobl ifanc yn y sampl (75%) rai mân-anawsterau drwy gydol eu plentyndod a’u glaslencyndod, gyda symptomau o iselder yn datblygu’n hwyrach yn eu hugeiniau. Ar y cyfan, roedd yr unigolion hyn yn dueddol o grybwyll mân-symptomau o iselder ac ambell anhawster wrth fyw eu bywydau o ddydd i ddydd.

Yn ôl 25% o’r unigolion yn y sampl, dechreuodd iselder yn gymharol gynnar iddyn nhw (tua 12 ½ oed). Yn ôl y bobl ifanc dan sylw, gwnaethon nhw ddioddef iselder difrifol a pharhaus, gyda chyfradd uchel ohonynt yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl ers plentyndod, yn ogystal â dioddef ystod o anawsterau eraill, gan gynnwys problemau iechyd corfforol a meddyliol, ac anawsterau difrifol wrth fyw eu bywydau dyddiol.

Ychwanegodd Bryony: "Y canfyddiad pwysicaf yn yr ymchwil hon yw’r amrywiant a welir ar draws y ddau ddosbarth, a hynny yn nhermau dechrau’r iselder a’i ddifrifoldeb, ynghyd â’r adroddiadau disgrifiadol a gasglwyd gan yr unigolion. Mae'r astudiaeth hon hefyd yn tynnu sylw at y cyfnod hir o fregusrwydd a welir mewn plant sy’n uchel eu risg, lle y gallant ddatblygu iselder sy’n effeithio ar eu bywydau, a hynny ar ôl profi ychydig o anawsterau drwy gydol eu plentyndod a’u glaslencyndod.

"Mae'r astudiaeth hon yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymyriadau cynnar mewn achos plant risg uchel, yn enwedig y rhai sydd ag iselder yn dod i’r amlwg yn gynnar." 
Bryony Weavers Research Assistant, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Fel y casglodd Bryony: "Edrychaf ymlaen yn fawr at ganlyn arni â'r gwaith hwn â chydweithwyr yn y Ganolfan Wolfson, wrth i ni gychwyn ar astudiaeth glinigol newydd fydd yn edrych ar ffactorau a allai atal iselder rhag dechrau’n gynnar mewn unigolion sy’n uchel eu risg. Ar hyn o bryd, mae'r Athro Frances Rice, Dr Vicky Powell a Dr Olga Eyre yn cynnal treial clinigol gyda’r nod o ymchwilio i hyn."

Mae’r papur, Characterising depression trajectories in young people with high familial risk of depression, wedi’i gyhoeddi yn y Journal of Affective Disorders, ac mae ar gael i'w weld ar-lein yn Science Direct.

Ar hyn o bryd, mae’r Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn cynnal treial clinigol sy'n ymchwilio i ba ffactorau a fedrai atal iselder rhag dechrau’n gynnar mewn unigolion sy’n uchel eu risg. Mae'r astudiaeth Sgiliau ar gyfer Lles Pobl Ifanc (SWELL) yn chwilio am rieni sydd wedi profi iselder ac sydd â phlentyn rhwng 13-17 a 17 oed.  

Rhagor o wybodaeth am bwy sy'n gymwys a sut i gymryd rhan.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn chwilio am bobl ifanc sydd wedi profi iselder yn y gorffennol, neu sydd â symptomau ysgafn ar hyn o bryd ac sy'n byw gyda rhiant sydd wedi cael diagnosis o iselder i gymryd rhan yn astudiaeth Sgiliau ar gyfer WelLbeing Pobl Ifanc.