Ewch i’r prif gynnwys

Dirprwy Ganghellor newydd

24 Ionawr 2024

A head and shoulders photograph of Jason Mohammad in a graduation cap and gown

Mae'r cyflwynydd teledu a radio Jason Mohammad yn ymgymryd â rôl seremonïol y Dirprwy Ganghellor.

Swyddogion Anrhydeddus y Brifysgol yw'r Dirprwy Gangellorion ac mae’r rôl yn ddi-dâl. Eiriolwyr a llysgenhadon dros y Brifysgol ydyn nhw, gan helpu i godi ein proffil a hyrwyddo ein buddiannau yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae ganddyn nhw rolau seremonïol yn ystod y seremonïau graddio.

Jason Mohammad (PGDip 1997, Hon 2014) yw un o'r newyddiadurwyr mwyaf adnabyddus ac un o’r cyflwynwyr mwyaf poblogaidd yn y byd darlledu a digwyddiadau. Graddiodd yntau ym Mhrifysgol Caerdydd gan dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd yn 2014.

Dyma a ddywedodd Pat Younge, Cadeirydd y Cyngor: "Rwy'n falch iawn y bydd Jason yn ymuno â Phrifysgol Caerdydd yn Ddirprwy Ganghellor. Yn gyn-fyfyriwr o Gaerdydd, mae bellach yn un o'r darlledwyr uchaf ei barch yng Nghymru ac ar gyfryngau Prydain.

"Dyma frodor o Gaerdydd i’r carn sy’n ymfalchïo yn ei wreiddiau dosbarth gweithiol yn Nhrelái ac yn caru ei dinas enedigol, yn enwedig yn sgil sefydlu Academi Jason Mohammad yng ngholeg Caerdydd a'r Fro. Mae'n ychwanegiad gwych at ein tîm o Ddirprwy Gangellorion ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef."

Dechreuodd ei yrfa yn BBC Cymru yn ddarllenydd newyddion cyn symud i chwaraeon yn fyw ar y teledu a’r radio. Mae'n fwyaf adnabyddus am weithio ar y sgoriau pêl-droed byw ar BBC One, sef Final Score a'r brif sioe bêl-droed Match of the DayMOTD2. Mae ei waith arall yn cynnwys y canlynol:

  • Good Morning Sunday ar BBC Radio 2
  • rhai o gynnyrch teledu mwyaf y BBC gan gynnwys y Gemau Olympaidd, Gemau'r Gymanwlad, rowndiau terfynol Cwpan yr FA, rowndiau terfynol Cwpan y Byd a'r Chwe Gwlad
  • cyd-gyflwyno Crimewatch ar BBC One
  • ei sioe ei hun ar BBC Radio Wales

Mae Jason yn siaradwr Cymraeg rhugl, gan ymddangos yn rheolaidd ar S4C a BBC Radio Cymru.

Yn ddiweddar mae Jason wedi creu ei academi cyfryngau ei hun, gan ysbrydoli pobl ifanc sydd eisiau gweithio yn y diwydiannau creadigol. Mae hefyd yn wneuthurwr ffilmiau brwd, gan wneud rhaglenni dogfen teledu am ei ffydd ym Mecca, ei fagwraeth yng Nghaerdydd a phensaernïaeth hanesyddol yn yr Aifft.

Y gwaith y mae fwyaf balch ohono - bod yn dad i dri o blant ac mae’n byw yng Nghaerdydd.

Swyddogion Anrhydeddus

Bydd Jason yn ymuno â'n Dirprwy Gangellorion eraill – y Parchedig Ganon Gareth J Powell a Heather Stevens CBE - wrth gynrychioli'r Brifysgol. Dewch i wybod rhagor am y Dirprwy Gangellorion a’r Swyddogion Anrhydeddus eraill.

Rhannu’r stori hon