Consortiwm Prifysgol Caerdydd yn ennill grant newydd ar gyfer archwilio mannau dysgu cymdeithasol ar gampysau prifysgolion
19 Ionawr 2024
Bydd Dr Hiral Patel yn rhannu Grant y Fforwm Dylunio Prifysgolion ochr yn ochr â’i chydweithiwr o Brifysgol Caerdydd, Dr Katherine Quinn (Gwyddorau Cymdeithasol) ac arbenigwr o fyd diwydiant, Fiona Duggan (FID Space), ar ôl gwneud cais gyda’u cynnig ymchwil cydweithredol trawiadol ar wella profiad myfyrwyr drwy ddylunio mannau dysgu cymdeithasol ar y campws yn well.
Bydd cam nesaf y prosiect ymchwil, "Gofod a Lleoliadau ar y Campws: yr Effaith ar Ganlyniadau Myfyrwyr” yn symud ymlaen fel ffrwd ymchwil arloesol newydd agychwynnwyd ac a ariennir gan y Fforwm Dylunio Prifysgolion, AUDE a Willmott Dixon.
Mae dysgu yn broses gymdeithasol. Mae darparu amgylcheddau mynediad agored, anffurfiol i gefnogi’r broses hon yn dod yn elfen gynyddol bwysig o’r profiad campws – yn enwedig mewn amgylchedd lle mae gweithio o bell ac ar eich pen eich hun yn fwyfwy cyffredin, lle gall rhyngweithio rhwng myfyrwyr fod yn llai diriaethol ac ymdrochol. Mae’r amgylcheddau hyn yn cynnig amrywiaeth o leoliadau lle gall unigolion a grwpiau ddod at ei gilydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu amrywiol, ceisio cefnogaeth a chysur gan gyfoedion, a mwynhau’r profiad o ymlacio a chreu cysylltiadau.
Bydd y grŵp ymchwil yn archwilio pa fathau o fannau dysgu cymdeithasol sy'n cyfoethogi profiadau dysgu myfyrwyr, y ffactorau sy'n dylanwadu ar ddyluniad mannau dysgu cymdeithasol, a sut i’w rheoli a’u defnyddio. Bydd y tîm yn datblygu teipoleg mannau dysgu cymdeithasol i nodi’r gwahanol fathau o fannau sydd eu hangen, ac yn cynnwys canllaw prosesau ar gyfer dylunio a rheoli mannau.
Dywedodd Dr Hiral Patel, “Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi cael y prosiect yma lle byddwn ni’n canolbwyntio ar fannau dysgu cymdeithasol ar gampysau prifysgolion. Dyma’r ardaloedd y tu allan i ystafelloedd dosbarth a darlithfeydd, lleoliadau mewn coridorau, mewn llyfrgelloedd, ac unrhyw leoedd sy’n rhan o’r broses ddysgu ar y cyd.” Roedd ei phrosiect blaenorol gyda’r Fforwm Dylunio Prifysgolion yn olrhain bylchau ymchwil y mae angen rhoi sylw iddynt er mwyn creu amgylcheddau dysgu gwell.
Dywedodd Cora Kwiatkowski, arweinydd y prosiect ymchwil ar gyfer y Fforwm, a Phennaeth Prifysgolion Stride Treglown, 'Rydw i wrth fy modd y bydd yr ymchwil bwysig yma yn ein helpu timau ystadau a dylunwyr i ddeall pa effaith y mae lleoliadau yn ei chael ar ymgysylltiad myfyrwyr a'u hymdeimlad o berthyn, er mwyn i ni allu creu'r amgylchedd gorau i wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn llwyddo.'
Bydd data’n cael eu casglu mewn lleoliadau ar-lein yn ogystal ag yn y lleoliadau dan sylw, a bydd data ethnograffig yn cael eu hailddefnyddio/ailystyried ar draws pedwar safle ymchwil empirig. Bydd ymchwilwyr yn herio sut roedd y gofodau hynny’n cael eu defnyddio, gan ystyried sut mae’r defnydd ohonynt yn newid ar draws y flwyddyn academaidd. Mae'r tîm yn bwriadu mynd i'r afael â'r cwestiynau hyn drwy fethodoleg ymchwil ansoddol, gan ddibynnu llawer ar syniadau ethnograffig i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o'r cyd-destun cyfoes y mae'r myfyrwyr yn dysgu ac yn gweithio ynddo.
"Nod ein tîm ymchwil amlddisgyblaethol yw datblygu fframwaith cysyniadol o deipolegau mannau dysgu cymdeithasol yn ogystal â chanllawiau ymarferol ar ddylunio a rheoli'r mannau hynny" nododd Dr Patel. "Rydyn ni’n gobeithio y bydd y prosiect yma yn cyfrannu at drafodaeth fanwl o leoliadau o’r fath sydd 'rhwng' lleoliadau eraill ar y campws, sy'n hanfodol ar gyfer cymuned ddysgu ffyniannus."
Mae consortiwm y Fforwm Datblygu Prifysgolion, AUDE a Willmott Dixon o’r farn y gall y fenter ymchwil hon ei gwneud yn bosibl gweddnewid y profiad campws y mae prifysgolion yn ei gynnig i fyfyrwyr (a staff) yng nghanol argyfwng hinsawdd, argyfwng costau byw, a’r heriau sylfaenol dyfnach sy’n wynebu’r sector addysg uwch.
Effaith hirdymor yr astudiaeth fydd galluogi ymchwil a thrafodaethau pellach ar werth mannau dysgu cymdeithasol o ran creu amgylchedd academaidd bywiog, gan hybu rhagoriaeth yn yr amgylchedd academaidd a hefyd hwyluso’r amgylcheddau dysgu amrywiol, cynhwysol a chefnogol y mae Prifysgol Caerdydd a’r sector addysg uwch ehangach am i'w holl fyfyrwyr gael profiad ohonynt.
Dywedodd Jane Harrison-White, Cyfarwyddwr Gweithredol AUDE: 'Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cael cynnig mor gryf gan dîm Caerdydd ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau mewn partneriaeth â’r Fforwm Dylunio Prifysgolion a Willmott Dixon i'n helpu i wella ein dealltwriaeth o anghenion myfyrwyr ar y campws. Mewn blwyddyn lle rydyn ni’n parhau i ganolbwyntio cymaint o’n hymdrechion ar garbon sero net, a lle rydyn ni wedi wynebu’r risg o’n gwaith yn cael ei danseilio o ganlyniad i RAAC, mae’n bwysig cofio bod creu mannau gwych sy’n ein helpu ni i ddenu a chadw myfyrwyr a staff fel ei gilydd yn elfen hanfodol o lwyddo fel timau ystadau."
Llwyddodd y tîm hwn i argyhoeddi'r grŵp llywio yn arbennig drwy eu dull ymarferol, eu dealltwriaeth lawn o’r mater, a thrwy gynnig gwelliannau i’r cwestiwn ymchwil, yr amserlen (12 mis) a'r gyllideb. Yr allbwn ymchwil fydd y "Canllaw ar gyfer Dylunio a Rheoli Mannau Dysgu Cymdeithasol ar gyfer Campysau Prifysgolion".
Nid dyma’r tro cyntaf i Dr Hiral Patel weithio ar brosiectau sy'n ceisio meithrin cymunedau bywiog a hwyluso rhyngweithio cadarnhaol â'r amgylchedd adeiledig. Mae Dr Patel yn ddarlithydd Pensaernïaeth yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ac yn Gyfarwyddwr Ymgysylltu, gan oruchwylio prosiectau fel Llunio Fy Stryd a Llunio Fy Ysgol, rhaglen flynyddol mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd lle mae plant ysgolion lleol yn dylunio eu cymdogaethau delfrydol er mwyn datblygu eu gallu i feddwl am bensaernïaeth a’u sgiliau dylunio, ac i gyflawni nodau’r cwricwlwm, ymhlith ymdrechion allgymorth cymunedol eang.