Ewch i’r prif gynnwys

Gwobrau dathlu cynfyfyrwyr ysbrydoledig

30 Hydref 2023

30ish Award winners, Rashi and Harsh
Rashi Sanon Narang (BSc 2003) / Harsh Dahiya (MBA 2019)

Mae dau gynfyfyriwr o Ysgol Busnes Caerdydd wedi cael eu cydnabod yn ail Wobrau Cynfyfyrwyr (tua) 30. Maent hefyd wedi sefydlu cwmnïau llwyddiannus.

Roedd Harsh Dahiya (MBA 2019) a Rashi Sanon Narang (BSc 2003) ymhlith y rheiny a gydnabyddwyd yn y categori Entrepreneuriaeth yn y seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn adeilad sbarc arloesol y brifysgol ar 5 Hydref.

Llywydd ac Is-ganghellor newydd y brifysgol, yr Athro Wendy Larner, oedd cyflwynydd y seremoni, gyda Matt Barbet (BA 1997, PgDip 1999) wrth ei hochr.

Gan osgoi fformat rhestrau traddodiadol '30 o dan 30', bwriad y gwobrau hyn yw cydnabod y rheini sy'n ysgogi newidiadau, yr arloeswyr a'r sawl sy'n torri rheolau o blith cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd o dan neu dros 30 oed, ond sy'n teimlo eu bod (tua) 30 oed.

Dewch i gwrdd ag enillwyr ysbrydoledig ein hysgol:

Rashi Sanon Narang (BSc 2003)

Dechreuodd Rashi ‘Heads Up For Tails’, sef prif frand gofal anifeiliaid anwes India, yn 2008. Ar y pryd, roedd y farchnad gofal anifeiliaid anwes yn y wlad yn ddi-drefn, heb ddim darpariaeth o ansawdd. Ar ben y stigma israddoldeb oedd yn gysylltiedig ag e, doedd neb yn credu yn ei botensial. Cafodd ei gwrthod gan gannoedd o werthwyr, manwerthwyr a hyd yn oed ei ffrindiau a’i theulu. Ond roedd hi’n gwybod bod yna rieni eraill i anifeiliaid anwes, fel hi, yn chwilio am gynhyrchion o ansawdd, ac fe gadwodd hynny iddi fynd.

Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, mae gan HUFT 85 o siopau ledled India. Mae hi wedi adeiladu brand sydd wedi dod yn gyfystyr â gofal anifeiliaid anwes yn y wlad, ac wedi creu marchnad lle nad oedd un yn bodoli o’r blaen. Serch hynny, mae ei chyfraniad yn fwy na darparu dros 5,000 o gynhyrchion anifeiliaid anwes o ansawdd, a dros 50 o spas gyda thrinwyr anifeiliaid anwes hyfforddedig i bobl India. Mae Rashi, trwy lwyfan HUFT, wedi chwarae rôl allweddol yn grymuso rhieni anifeiliaid anwes gyda gwybodaeth sy’n eu galluogi i ddeall ac i ofalu am eu hanifeiliaid anwes yn well. Mae’r brand hefyd yn helpu miloedd o gŵn a chathod cymunedol drwy Sefydliad HUFT.

Harsh Dahiya (MBA 2019)

Harsh yw sylfaenydd Grŵp Harvesto, sef prif wneuthurwr offer labordy arbenigol a gwneuthurwr citiau profi pridd digidol mwyaf y byd, sy’n cael eu defnyddio mewn dros ddeugain o wledydd ledled y byd ar hyn o bryd.

Mae technoleg Harvesto o dan genhadaeth Cerdyn Iechyd Pridd Llywodraeth India, wedi bod o fudd i dros 200 miliwn o ffermwyr yn India. Mae Harsh wedi creu dros 1,500 o entrepreneuriaid gwledig yn India, gan gyflogi dros 500 o bobl bob blwyddyn.

Cafodd Harsh wobr ‘Entrepreneur y Flwyddyn’ gan Weinidog Anrhydeddus Undeb India Mr KJ Alphons yn 2019. Yn 2022, cafodd ei enwi ar restr ‘25 o’r Cyn-fyfyrwyr Gorau’ Sefydliadau Addysgol Manav Rachna, o dros 35,000 o gyn-fyfyrwyr. Yn 2017, cafodd ei waith yn Harvesto ei gydnabod gan Sefydliad Bill a Melinda Gates.

Mae Harvesto a gwaith Harsh Dahiya wedi cael ei wobrwyo a’i gydnabod sawl tro gan Brif Weinidog Anrhydeddus India, Arlywydd Anrhydeddus India, Llywodraeth India, Fforwm Economaidd y Byd, Niti Aayog, a Gweinyddiaeth Amaeth India.

Llongyfarchiadau i'r holl gyn-fyfyrwyr ysbrydoledig a gafodd gydnabyddiaeth yn rhestr Gwobrau Cynyfyrwyr (tua) 30  eleni.

Rhannu’r stori hon