Prosiect ymchwil rhyngwladol yn ceisio mynd i’r afael â thwymyn deng
27 Hydref 2023
Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi ymuno â'r Sefydliad Cyfrifiadura ym Mhrifysgol Campinas (UNICAMP) ym Mrasil i gynnal gwaith ymchwil i frwydro yn erbyn twymyn deng, sy’n her enbyd o ran iechyd y cyhoedd yng nghyfandiroedd America.
Mae'r prosiect cydweithio rhyngwladol yn cael ei arwain gan yr Athro Emrah Demir o Ysgol Busnes Caerdydd a'r Athro Cyswllt Fábio Luiz Usberti o UNICAMP. Mae tîm o ymchwilwyr a myfyrwyr yn ymuno â nhw.
Mae'r prosiect ymchwil yn gam mawr tuag at y frwydr yn erbyn twymyn deng, gan gynnig y potensial i ail-lunio strategaethau rheoli carwyr ym Mrasil a ledled America.
Wedi'i atgyfnerthu gan y cyllid ar gyfer mentrau ymchwil, mae'r ymdrech gydweithredol hon wedi chwarae rhan ganolog wrth feithrin amgylchedd lle gall academyddion o'r ddau sefydliad rannu gwybodaeth, cyfnewid mewnwelediadau a dechrau ar ymdrechion ymchwil arloesol ar y cyd.
Mae twymyn deng yn bryder mawr i iechyd y cyhoedd, gyda miliynau o achosion yn cael eu nodi bob blwyddyn, ac mae ei effaith ar systemau gofal iechyd ac agweddau economaidd-gymdeithasol yn arbennig o amlwg ym Mrasil.
Er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon yn effeithiol, mae'r cydweithrediad ymchwil yn datblygu dull arloesol a elwir yn Broblem Trefnu Cerbydau Bloc (BVRP). Nod y fethodoleg hon yw gwneud y gorau o lwybrau cerbydau ar gyfer chwistrellu blociau dinasoedd a dargedir, gan addo gwell effeithlonrwydd a dyrannu adnoddau.
Mae'r gwaith ymchwil yn harneisio pŵer ymchwil weithredol a gwyddoniaeth gyfrifiadurol i drawsnewid sut mae strategaethau rheoli carwyr yn cael eu cyflwyno. Trwy fapio llwybrau yn strategol yn seiliedig ar ffactorau risg deng, patrymau trosglwyddo a data amser real, mae'r dull hwn yn manteisio i’r eithaf ar effaith ymgyrchoedd chwistrellu pryfleiddiad wrth leihau costau ac effaith amgylcheddol.
Mae trafodaethau a seminarau bywiog rhwng y ddau sefydliad wedi cael eu cynnal, gan ddangos cynnydd ac effaith bosibl y dull BVRP o ran mynd i'r afael â thwymyn deng.
Dywedodd yr Athro Cyswllt Fábio Luiz Usberti, “Bob blwyddyn, mae awdurdodau iechyd Brasil yn cael trafferth gyda'r dasg o wneud penderfyniadau effeithiol ar gyfer logisteg rheoli deng. Prin yw’r adnoddau sydd ganddynt, ond mae angen cryf am systemau cefnogi penderfyniadau dibynadwy. Rwy'n hyderus y bydd ein prosiect cydweithredol yn cyflwyno syniadau a dulliau ffres i ateb rhai o'r heriau hyn. Rwyf hefyd yn optimistaidd iawn am yr effaith gadarnhaol y gall ein gwaith ymchwil ei chael ar gymdeithas.”
Cadwch lygad i gael diweddariadau pellach am y fenter ymchwil addawol hon, sy'n cael ei hysgogi gan ymroddiad yr Athro Demir, Dr Usberti, a'u myfyrwyr, a'i photensial i gael effaith barhaol ar iechyd y cyhoedd.
Mae ymchwilwyr sy'n rhan o'r prosiect yn cynnwys: Yr Athro Emrah Demir o Brifysgol Caerdydd, Dr. Fábio Luiz Usberti a Dr Celso Cavellucci o UNICAMP, Dr Laura Silva de Assis o CEFET/RJ, a Dr Rafael Kendy Arakaki. Cymerodd y myfyrwyr canlynol ran yn y gweithdy hefyd: Luis Henrique Pauleti Mendes (MSc), Pedro Olímpio (MSc), Deyvison Nogueira Rodrigues (MSc), Matheus Diógenes Andrade (MSc), Carlos Victor Dantas Araujo (MSc), Sarah Carneiro (BSc), a Lucas Pinheiro (BSc).