Pan fydd dylunio a chwarae gemau’n cwrdd â hanes Caerdydd
23 Hydref 2023
Defnyddio gemau fideo i ymdrin â hanes a threftadaeth Caerdydd a de-ddwyrain Cymru
Mae myfyrwyr Cyfrifiadureg a Hanes Prifysgol Caerdydd yn cyfuno eu sgiliau i helpu i ddal dychymyg cenedlaethau newydd mewn prosiectau cyffrous ar y cyd ledled y ddinas.
A hithau bellach yn y bedwaredd flwyddyn, rhaglen o weithgareddau a luniwyd i ymchwilio i’r ffordd y gall technoleg gemio wneud hanes a threftadaeth yn fwy deniadol i bobl ifanc yw Sesiynau Trafod Treftadaeth Caerdydd.
Gyda’i gilydd, mae myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd a’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg wedi bod yn dylunio prototeipiau ar gyfer gemau dan ysbrydoliaeth rhai o leoedd arbennig a threftadaeth y brifddinas.
Mae’r fenter ryngddisgyblaethol wedi digwydd o ganlyniad i ddiddordebau cyffredin dau academydd ag arbenigedd gwahanol iawn: Dr Esther Wright a Dr Daniel J. Finnegan.
“Er bod y ddau ohonom yn trin gemau fideo - yn enwedig y rheini sy'n ymdrin â'r gorffennol - o ffyrdd disgyblaethol gwahanol yn y Dyniaethau a STEM, rydyn ni’n awyddus iawn i ddeall gwerth posibl cyfryngau digidol a gemau i helpu pobl i ymwneud â hanes a threftadaeth gyffredin” meddai Dr Esther Wright, Darlithydd mewn Hanes Digidol.
Lluniwyd y gweithgareddau hefyd i helpu myfyrwyr o'r cefndiroedd disgyblaethol gwahanol hyn i ystyried ymgymryd â rolau datblygu gemau.
Dyma’r Uwch-ddarlithydd Cyfrifiadureg, Dr Daniel J. Finnegan yn esbonio:
“Mae'r profiad yn fuddiol i fyfyrwyr o'r ddau gefndir disgyblaethol: mae myfyrwyr hanes yn cael profiad ymarferol o ddefnyddio meddalwedd dylunio gemau, ac mae myfyrwyr cyfrifiadureg yn elwa ar ddeall rywfaint ar ymarferoldeb ymchwil hanesyddol a chefndirol, ac mae hyn yn hollbwysig wrth ysgrifennu naratif gêm.”
Mae Sesiynau Trafod Treftadaeth Caerdydd yn cydweithio â phrosiectau ymchwil ac ymgysylltu presennol Prifysgol Caerdydd, yn ogystal â sefydliadau ac elusennau treftadaeth allanol.
Yn y bartneriaeth ddiweddaraf gyda Cadw, treuliodd dau dîm o fyfyrwyr ddau ddiwrnod yng Nghastell Coch yn ymgolli mewn mwy na 700 mlynedd o hanes.
Rhoddodd y Darllenydd Hanes a Hanes CymruDr Marion Löffler arweiniad arbenigol i’r myfyrwyr ar gyd-destun Castell Coch yn hanes ehangach Cymru:
'Cafodd Castell Coch ei adeiladu’n rhan o gadwyn o gestyll milwrol Normanaidd a ehangwyd gan Gilbert “gwalltgoch” de Clare, ei ddifetha ar ddiwedd yr Oesoedd Canol, a’i ailddarganfod pan oedd y dyheadau rhamantaidd am oesoedd symlach wedi datblygu yn sgil y Chwyldro Diwydiannol. Penderfynodd trydydd Ardalydd Bute wario arian ei dad a’i dad-cu ar ei weledigaeth, sef ail-greu byd canoloesol a oedd yn cynnwys adeiladu o’r newydd, rhoi tu mewn moethus iddo a’i amgylchynu â gwinllan weithiol, cyn rhedeg allan o arian a throsglwyddo’r cyfan i Gorfforaeth Caerdydd. '
Ychwanega Prif Geidwad Cadw Castell Coch a Chastell Caerffili, Cori-Lee Blackman (Archaeoleg a Hanes yr Henfyd, BA 2008):
“A minnau wedi bod yn gweithio yn y sector Treftadaeth ers hir, rwy'n awyddus i agor drysau treftadaeth i’r math o ymwelwyr nad ydyn ni fel arfer yn eu gweld ar y safle. Peth hynod ddiddorol hefyd yw gweld y ffyrdd gwahanol mae’r myfyrwyr wedi ymdrin â’r heneb ac wedi cyfleu’r gorffennol yng ngemau’r myfyrwyr.”
Mewn cwta ychydig o wythnosau, cynlluniodd y timau’r mathau o hanesion roedden nhw eisiau eu cyfleu, y gynulleidfa yr oedden nhw’n dychmygu ar gyfer eu gemau a'r profiad roedden nhw eisiau i chwaraewyr ei gael o’u defnyddio. Ar ôl gweithdy dwys i ddatblygu gemau, gan weithio gydag offer dylunio gemau a meddalwedd megis GB Studio, datblygodd y myfyrwyr brototeipiau’r gemau: Gallwch chi chwarae Breaking Bute a Pixel Quest ar Itch.io.
Dechreuodd Sesiynau Trafod Treftadaeth Caerdydd mewn ysgol haf o bell yn 2021, mewn partneriaeth â Phrosiect Treftadaeth CAER. Bu’r myfyrwyr, dan ysbrydoliaeth darganfyddiadau archaeolegol sy’n dangos aneddiadau sy’n dyddio nôl mwy na 6,000 o flynyddoedd ac a ddaeth i’r golwg ar safle bryngaer gudd Caerau a Threlái, yn cydweithio o bell ar gather.town i greu gemau a oedd yn cynnwys ystod o arteffactau.
Yn ystod y blynyddoedd ers hynny, mae myfyrwyr wedi ymdrin â hanes Ysbyty Brenhinol Caerdydd mewn cydweithrediad ag Elusen Celfyddydau er Iechyd a Lles Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a hanes stori Grangetown a’i Phafiliwn Grange newydd, diolch i brosiect Porth Cymunedol y Brifysgol.
Eleni, ehangodd Sesiynau Trafod Treftadaeth Caerdydd y cyfranogiad hyd yn oed ymhellach i fyfyrwyr yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, gan elwa ar gefnogaeth cronfa Meithrin Cymunedau Sbarduno Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol yn y Brifysgol a'r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.
Mae Salsabilla Sakinah, sy’n cymryd rhan mewn yn y Sesiynau Trafod Treftadaeth, yn astudio am PhD yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant. Dyma’r hyn a ddywedodd:
“Rwy’n ddiolchgar iawn o gael y cyfle i gymryd rhan yn Sesiynau Trafod Treftadaeth Caerdydd eleni. A minnau’n rhywun heb unrhyw brofiad blaenorol o godio, dysgodd y gweithdy rai sgiliau technegol syml o ran meddalwedd a hyder i greu gêm, yn ogystal â sgiliau trosglwyddadwy eraill megis cyfathrebu a gwaith tîm. Des i i ddeall treftadaeth yng nghyd-destun gemau mewn ffyrdd newydd, ac mae hyn yn ddefnyddiol iawn ar gyfer fy ngwaith i a fy mhrosiect ymchwil presennol.”