Sbotolau ar: Cyflwyniad i Ddermosgopi
2 Hydref 2023
Croeso i'r cyntaf yn ein cyfres o gyfweliadau â phobl sy'n ymwneud â rhai o’r cyrsiau DPP blaenllaw a geir yn y Brifysgol. Byddwn yn siarad â chyn-gyfranogwyr, yn ogystal â chleientiaid sydd wedi comisiynu rhaglenni pwrpasol yn y gorffennol, gan archwilio'r effaith y gall hyfforddiant datblygiad proffesiynol ei chael ar nodau busnes a dilyniant gyrfa’r unigolyn.
Ymunwch â ni wrth i ni archwilio sut y gall DPP sy’n seiliedig ar ymchwil academaidd ac sydd wedi’i gyflwyno gan arbenigwyr, gynyddu sgiliau, galluoedd a gwybodaeth ymarferol. Mae ein cyfweliadau'n arddangos ehangder y cyfleoedd datblygiad proffesiynol sydd yn y Brifysgol, o gyrsiau meddygol byr i astudio ar gyfer cymhwyster ôl-raddedig ym maes gwyddor data.
Yng nghyfweliad cyntaf y gyfres, buom yn siarad â Dr Pippa Bowes, sydd wedi cwblhau'r Diploma Ôl-raddedig ym maes Dermatoleg Ymarferol a’r cwrs DPP Cyflwyniad i Ddermosgopeg, yn y Brifysgol. Fe esboniodd Pippa pam y dewisodd y cwrs DPP a sut mae wedi effeithio ar ei hymarfer proffesiynol.
Pam wnaethoch chi ddewis astudio’r cwrs Cyflwyniad i Ddermosgopi?
Roeddwn i hanner ffordd trwy’r cwrs Diploma mewn Dermatoleg pan glywais am y cwrs Cyflwyniad i Ddermosgopi. Penderfynais gofrestru ar y cwrs oherwydd fy mod eisiau ychwanegu at fy niploma gyda sgiliau Dermosgopi, ond nid oeddwn yn gwybod lle i ddechrau.
Roeddwn i eisiau cwrs strwythuredig oedd yn cynnwys popeth o’r hanfodion i wybodaeth fwy arbenigol. Roeddwn i eisiau teimlo’n hyderus y gallwn asesu mannau geni a briwiau cleifion yn ddiogel ar sail ddyddiol yn fy ngweithle fy hun. Teimlwn y byddai’r cwrs hwn yn bodloni’r angen hwnnw, ac fe wnaeth yn bendant.
Sut oedd y broses archebu lle?
Roedd y broses archebu yn rhwydd iawn. Roedd yn debyg i’r cyrsiau Diploma a Meistr, yn cael ei gyrchu trwy gyfarwyddiadau ar-lein hawdd i’w dilyn ac roedd yna gymorth gweinyddol gwych ar gael trwy e-bost os oedd angen.
Pa ran o’r cwrs gafodd effaith arnoch chi?
Fe wnes i fwynhau’r cwrs yn fawr iawn, gan fy mod yn teimlo ei fod wedi’i strwythuro’n dda ar gyfer dechreuwyr heb wybodaeth flaenorol, yn ogystal â bod yn addas ar gyfer rhai oedd eisiau adnewyddu eu sgiliau.
Dechreuodd y cwrs gyda sut mae dermosgopi’n gweithio, pam ei fod yn bwysig a hanfodion dehongli mannau geni a briwiau, cyn symud ymlaen i’r agweddau manylach ac achosion mwy dyrys.
Roedd yn gwrs ar-lein, rhan-amser, a oedd yn bwysig i mi gan fy mod yn gallu astudio’n hyblyg o gwmpas fy ymrwymiadau gwaith.
Sut mae cwblhau’r cwrs wedi bod o fudd i’ch ymarfer?
Rwyf nawr yn defnyddio dermosgopi bob dydd yn fy ymarfer. Rwy’n helpu i gynnal clinigau dermosgopi lleol lle mae cleifion yn cael eu hatgyfeirio am asesiad os oes ganddynt fan geni neu friw sy’n peri pryder. Dechreuodd y cyfan gyda’r cwrs hwn. Mae wir wedi newid y ffordd rwy’n ymarfer.
Yn bersonol, roeddwn yn teimlo bod yr arholiad ar ddiwedd y cwrs yn galonogol iawn. Ar ôl i mi basio, roeddwn yn gwybod fy mod wedi dysgu sut i asesu mannau geni a briwiau’n ddiogel gyda dermatosgop. Bydd hyn yn fy helpu i wella gofal cleifion, i wneud diagnosis o ganser y croen yn gynt ac yn helpu i osgoi llawdriniaeth neu fiopsïau croen diangen.
May am hyn
Rydym yn falch o gyhoeddi bod y ddau gwrs dermosgopeg y mae’r Ysgol Meddygaeth yn eu cynnal wedi cael eu hachredu gan Gymdeithas Dermatolegwyr Prydain.
Ymhlith datblygiadau eraill yn 2023 mae fersiwn blasu pwrpasol o’r cwrs Cyflwyniad i Ddermosgopeg ar gyfer bwrdd iechyd lleol, ac mae wedi'i deilwra i'w hanghenion penodol.
Cysylltu â ni
Os oes gennych ddiddordeb mewn fersiwn bwrpasol o'r naill neu'r llall o'r rhaglenni hyn, neu os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw un o'r cyrsiau DPP sydd ar gael yn y Brifysgol, cysylltwch â Charlotte Stephenson yn yr Uned DPP: