Ewch i’r prif gynnwys

Lleihau'r risg o farw o ddiabetes math 2

5 Mai 2016

diabetes

Yn ôl gwaith ymchwil y Brifysgol, mae pobl sy'n dioddef o ddiabetes math 2, a gaiff eu trin gydag inswlin ynghyd â metfformin, yn llai tebygol o farw a chael problemau difrifol â'r galon, o'u cymharu â phobl a gaiff eu trin gydag inswlin yn unig.

O dan arweiniad yr Athro Craig Currie yn Ysgol Meddygaeth y Brifysgol, roedd yr ymchwil ôl-weithredol yn edrych ar bobl a oedd yn dioddef o ddiabetes math 2, a gafodd eu trin gydag inswlin, ar y cyd â metfformin, neu heb fetfformin, o'r flwyddyn 2000 ymlaen.

Dewiswyd 12,020 o bobl o ffynhonnell data meddygon teulu, a bu'r tîm ymchwil yn eu holrhain am dair blynedd a hanner ar gyfartaledd, o'r adeg rhoddwyd inswlin iddynt ar bresgripsiwn am y tro cyntaf.

Pan y'i ddefnyddir ar y cyd ag inswlin, canfu'r ymchwilwyr y gallai metfformin leihau marwolaethau a thrawiadau ar y galon. Canfuwyd hefyd nad oedd unrhyw wahaniaeth yn y risg o ganser rhwng pobl a gaiff eu trin gydag inswlin fel therapi unigol, neu mewn cyfuniad â metfformin.

Dywedodd yr Athro Currie: "Ers 1991, mae dros chwe gwaith yn fwy o inswlin wedi cael ei ddefnyddio i drin diabetes math 2 yn y DU. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae metfformin wedi'i ddefnyddio ynghyd ag inswlin.

"O'r blaen, dangosodd ein gwaith bod dos inswlin cynyddol yn gysylltiedig â marwolaethau, canser a thrawiadau ar y galon. Mae astudiaethau parod hefyd wedi dangos y gall metfformin leihau'r risgiau sy'n gysylltiedig ag inswlin.

"Roedd y gwaith ymchwil hwn yn ystyried dos inswlin, ynghyd ag effaith cyfuno inswlin â metfformin. Canfu bod gostyngiad sylweddol yn nifer y marwolaethau a phroblemau â'r galon pan ddefnyddiwyd y cyffur rhad a chyffredin hwn ar y cyd ag inswlin.

Craig J Curie, Professor of Applied Pharmacoepidemiology, Cardiff University School of Medicine

Mae oddeutu 3.9 miliwn o bobl yn byw gyda diabetes yn y DU, a dros 90% o'r rheini yr effeithir arnynt yn dioddef o ddiabetes math 2.

"Er bod y gwaith ymchwil hwn yn dangos beth allai fod yn bosibl yn sgîl defnyddio'r triniaethau hyn gyda'i gilydd, mae angen astudiaethau pellach i ganfod risgiau a manteision inswlin wrth drin diabetes math 2 a'r manteision posibl sy'n gysylltiedig â defnyddio metfformin ar y cyd ag inswlin," ychwanegodd yr Athro Currie.

Cyhoeddwyd y papur Association between insulin monotherapy versus insulin plus metformin and the risk of all-cause mortality and other serious outcomes: a retrospective cohort study yn y cyfnodolyn PLOS ONE.

Rhannu’r stori hon