Ewch i’r prif gynnwys

Gwobr ddwbl i hanesydd cyfreithiol ffeministaidd

22 Awst 2023

Sharon Thompson, sydd i'w gweld yng nghanol y llun, gyda Sinead Maloney a Roberta Bassi, rheolwr cyffredinol a chyhoeddwr yn Bloomsbury
Sharon Thompson, sydd i'w gweld yng nghanol y llun, gyda Sinead Maloney a Roberta Bassi, rheolwr cyffredinol a chyhoeddwr yn Bloomsbury

Mae academydd o Gaerdydd wedi ennill dwy wobr fawr ym myd y llyfrau am ei gwaith sy’n tynnu sylw at fudiad pwyso o ganol yr ugeinfed ganrif a frwydrodd am bartneriaeth gyfartal mewn priodas.

Enillodd llyfr Dr Sharon Thompson, Quiet Revolutionaries wobr Theori a Hanes Cymdeithasol-Gyfreithiol SLSA ym mis Ebrill. Ddeufis yn ddiweddarach ym mis Mehefin, enillodd ail wobr SLS Peter Birks am Ysgoloriaeth Gyfreithiol Eithriadol.

Mae llyfr Dr Thompson yn adrodd hanes y Married Women’s Association, mudiad pwyso a sefydlwyd gan swffragetiaid ar drothwy'r Ail Ryfel Byd i fynd i'r afael â hawliau cyfreithiol gwragedd tŷ. Mae'n trin a thrafod cyfraith teulu o safbwynt hanes cyfreithiol ffeministaidd ac mae'n cynnwys rhagair gan gyn-Arlywydd y Goruchaf Lys, yr Arglwyddes Hale. Mae adolygwyr wedi galw Quiet Revolutionaries yn 'fodel o hanes cyfreithiol ffeministaidd', gan ei fod yn ymwneud â chwestiynau hanesyddol am arian a phŵer mewn priodas, wrth fynd i'r afael â materion yr ydym yn dal i'w hwynebu heddiw.

Wrth siarad am ei chyflawniad, dywedodd Dr Thompson, "Mae'n anrhydedd cael cydnabyddiaeth mor hael i fy llyfr gan yr SLSA a SLS. Rwy'n hynod ddiolchgar i fy nghydweithwyr yng Nghaerdydd am eu cefnogaeth a'u hysbrydoliaeth wrth ysgrifennu'r llyfr hwn, yn enwedig yr Athro Russell Sandberg. Hoffwn hefyd gydnabod casgliad wedi’i olyguyr Athrawon Erika Rackley a Rosemary Auchmuty, Women's Legal Landmarks - prosiect sy'n tanlinellu arwyddocâd a photensial trawsnewidiol hanes cyfreithiol ffeministaidd ac a baratôdd y ffordd ar gyfer Quiet Revolutionaries."

I ddysgu rhagor am hanes cudd y Married Women’s Association, mae llyfr Dr Thompson ar gael trwy Bloomsbury. Gallwch hefyd wrando ar y podlediad Quiet Revolutionaries ar y rhan fwyaf o’r prif blatfformau ar gyfer podlediadau, neu fe allwch ymweld â gwefan y Married Women's Association.

Rhannu’r stori hon