Ewch i’r prif gynnwys

'Profiad sy'n cadarnhau gyrfa': Fy wythnos yn y MRC CNGG

25 Gorffennaf 2022

A large group of young people smiling at the camera standing in a line outside a cardiff university building
Attendees of the Summer School in Brain Disorders Research 2022

Bob blwyddyn, mae Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Genomeg a Geneteg Niwroseiciatrig (MRC CNGG) a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) ym Mhrifysgol Caerdydd yn trefnu ysgol haf mewn Ymchwil Anhwylderau'r Ymennydd i ddarparu sylfaen ar y pwnc ac ysbrydoli ymchwilwyr y dyfodol. Mae Jennifer Luu, myfyriwr meddygol ac un o fynychwyr yr Ysgol Haf eleni, yn ysgrifennu am ei phrofiadau.

Pe bai gen i haint ar yr ysgyfaint yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys, gallai'r meddyg ddadansoddi fy sbwtwm a dewis gwrthfiotig effeithiol i dargedu'r achos.

“Pam na allem ni wneud yr un peth ar gyfer claf ag iselder?”, gofynnodd yr Athro Jeremy Hall, i gloi darlith olaf yr Ysgol Haf, a oedd yn bedwar diwrnod o hyd.

Saethodd fy llaw i fyny gan ‘mod i mewn hwyliau pedantig, a dywedais nad oedd yr enghraifft hon yn gymharol gan fod iselder fel arfer yn cael ei drin gan y meddyg teulu, er ‘mod i’n deall ei bwynt yn llwyr fod datblygiadau mewn niwroseiciatreg wedi bod yn araf.

Gwenodd a chroesawodd y ddadl, gan annog gweddill y gynulleidfa, sef 2/3 o’r gofod neuadd ddarlithio yn adeilad modern Hadyn Ellis a chriw o wynebau Zoom tawel, i ymuno.

Tynnodd yr Athro Hall sylw at gyfyngiadau presennol modelau ymchwil cynrychioliadol, a sut na allwn ddatblygu triniaeth effeithiol heb gysylltu'r dotiau rhwng y gwahaniaethau yn ein niwrogemeg a'r effaith ar ein hymennydd sy'n arwain at glefydau.

Parhaodd â gwên ar ei wyneb am yr ymenyddiau bach yr oedd ei dimau wedi canolbwyntio arnynt fel rhan o’i ymdrechion tuag at ddatrys y pos modelau ymchwil. Cofiais yn ôl i’m haddysg biocemeg wrth iddo sôn am y datblygiadau diweddaraf mewn gwahaniaethu celloedd nerfol a meithrin celloedd yr ymennydd.

Roedd hi’n ddarlith dda.

Ni wnaeth yr ysgol haf siomi - cyflwynwyd amrywiaeth o sgyrsiau ar ymchwil mewn seiciatreg, niwroleg a’r niwrowyddorau.

Efallai fy mod wedi colli gwaith labordy neu fwynhau'r sgwrsio ar bwyntiau penodol y ddarlith fanwl flaenorol, a oedd yn llawn dop, oherwydd roedd teithio o amgylch labordai ymchwil niferus y Cyngor Ymchwil Feddygol mor hwyl.

Gwelais beiriannau MRI tesla 7 anferth â galluedd eglur iawn dwys, sy'n dal i fod yn brin yn y DU; wedi'u cyferbynnu â pheiriannau tesla 0.7 symudol a oedd wrthi’n cael eu datblygu.

Allwch chi ddychmygu manteision amseroedd aros byrrach i sganio claf mewn gofal brys?

Attendees touring the imaging facilities at CURIC

Gwnaeth dealltwriaeth gynyddol o ffactorau genetig prin mewn sgitsoffrenia, epilepsi ac anhwylderau symud a ddangoswyd yng ngwaith ymchwil siaradwyr a oedd yn cyflwyno yn yr ysgol haf esgor ar y ddadl foesegol ddiddiwedd ynghylch profion genetig.

Heriodd Dr Michael Arribas-Ayllon safbwyntiau ar rolau'r ymchwilydd, y cwnselydd genetig a hyd yn oed y rhiant/rhieni sy’n ceisio ac yn dehongli canlyniadau risg genetig.

Yr hyn wnaeth y gweithgaredd hwn mor wych oedd amrywiaeth cefndiroedd y mynychwyr, yn estyn o ymchwil gyhoeddus a phreifat i raddau clinigwyr o bob cwr o'r byd. Roedd yn fewnwelediad i safbwyntiau a ffurfiwyd drwy uno canolfannau gwybodaeth fel meini prawf sgrinio Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) a sut mae'r rhain yn wahanol i rolau a chyfrifoldebau ymchwilwyr iau yn Ewrop.

Gadewais â chysylltiadau gwych ar gyfer yr addysg rydw i’n ei threfnu ar gyfer myfyrwyr meddygol - roedd y brecwast a'r cinio a oedd ar gael bob dydd yn bendant yn helpu gyda'r rhwydweithio!

Roedd yn brofiad twymgalon i fod gyda llawer o bobl eraill oedd â’r un faint o ddiddordeb yn y sgyrsiau â mi. Cyflwynodd Dr Kimberly Kendall araith ofalgar ar ei phrofiadau a chynigiodd sesiwn holi ac ateb ar raglenni lleol ac ymarferoldeb gyrfaoedd ymchwil mewn meddygaeth.

Fel darpar ymchwilydd, cadarnhaodd yr ysgol haf fod hyn yn rhywbeth yr hoffwn fod yn rhan ohono yn y dyfodol. Ces i gyfle i fod yn ffan Doctor Who go iawn hyd yn oed ac ymweld â Bae Caerdydd!

Ysgol Haf 2023

Bydd ein hysgol haf nesaf yn cael ei chynnal ddechrau mis Gorffennaf 2023. Bydd y dyddiadau  a'r manylion ar sut i wneud cais yn cael eu cwblhau yn ddiweddarach eleni. Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, cadwch lygad ar dudalen Ysgol Haf y Cyngor Ymchwil Feddygol ddechrau mis Chwefror i wneud cais.

Rhannu’r stori hon