Ewch i’r prif gynnwys

Newid hinsawdd ac Affrica

16 Awst 2023

Cynrychioli Prifysgol Caerdydd yn y gynhadledd ryngwladol gyntaf ar y dyniaethau amgylcheddol yn Affrica

Mae academydd o faes y Dyniaethau ym Mhrifysgol Caerdydd wedi mynd i ddwy gynhadledd ryngwladol bwysig yn Nigeria, a hynny’n rhan o fentrau newydd y Deon Gweithgarwch Rhyngwladol newydd dros Affrica.

Wrth i faes addysg uwch yn Affrica ffynnu, nod rôl newydd y Deon Gweithgarwch Rhyngwladol dros Affrica yw cynnig arweiniad academaidd pwrpasol i bartneriaethau a mentrau’r Brifysgol yn Affrica, gan gynnwys creu cyfleoedd newydd i ehangu proffil, cyrhaeddiad ac effaith yn y rhanbarth.

Mae uwch ddarlithydd ym maes Llenyddiaeth Saesneg, Dr David Shackleton, wedi rhannu ei ymchwil ddiweddaraf mewn dwy gynhadledd sicrhau newid newydd: ‘Rethinking Decoloniality’ ym Mhrifysgol Lagos, a ‘Making and Unmaking Africa: Global Developments and Environmental Humanities’ ym Mhrifysgol Talaith Osun.

Yr Athro John Agbonifo o Brifysgol Talaith Osun yw un o sefydlwyr Rhwydwaith y Dyniaethau Amgylcheddol yn Affrica a chyfarwyddwr y Sefydliad Materion Byd-eang a Datblygu Cynaliadwy. Dywedodd:

‘Mae’r gynhadledd ryngwladol gyntaf ar y dyniaethau amgylcheddol yn Affrica o bwys oherwydd ei bod yn rhoi cyfle i ysgolheigion, ymgyrchwyr a llunwyr polisïau yn Affrica ddod at ei gilydd i drafod yr heriau amgylcheddol sy’n wynebu’r cyfandir. Mae hefyd yn rhoi cyfle iddynt ymchwilio i’r wybodaeth a’r offer y mae’r dyniaethau amgylcheddol yn eu cynnig ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau hynny. Mae’n llwyfan unigryw y gall pob un ohonom ei ddefnyddio i gyfrannu at y gwaith o sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i’r cyfandir.’

Dywedodd yr Athro Ambreena Manji, Deon Gweithgarwch Rhyngwladol dros Affrica, Prifysgol Caerdydd:

‘Rydym yn gwneud ymchwil o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae'r cyfle i dynnu sylw at y gwaith hwn yn amhrisiadwy. A minnau’n Ddeon Gweithgarwch Rhyngwladol cyntaf y Brifysgol dros Affrica, rwyf wrth fy modd fy mod wedi helpu cydweithiwr i gymryd rhan mewn dwy gynhadledd Affricanaidd gofiadwy yn Nigeria. Rwy’n edrych ymlaen at weld y cydweithio academaidd hirdymor a fydd yn dilyn i Dr Shackleton, yn ogystal â gweld ymwneud deallusol y Brifysgol ag ysgolheictod yn Affrica’n dyfnhau.’

Bu Dr Shackleton, a sefydlodd y grŵp ymchwil Diwylliannau Amgylcheddol Caerdydd sy'n ceisio annog ymchwilwyr, ymgyrchwyr a’r cyhoedd i drafod yr argyfwng amgylcheddol, yn trafod ynni, gwaith echdynnu adnoddau, cynaliadwyedd a gweithredaeth gyda llunwyr polisïau ac ysgolheigion ar y daith.

Rhannodd hefyd ei ymchwil ei hun mewn dau bapur: ‘Solar Fiction: Nnedi Okorafor’s Noor, Renewable Energy, and Neo-Colonialism in Nigeria’, a ‘Planetary Fiction: Imbolo Mbue’s How Beautiful We Were, Oil and Environmental Activism’.

Mae’r daith ymchwil yn adlewyrchu’r cynnydd yn yr ymchwil a diddordebau addysgu ar draws y Brifysgol ym maes y dyniaethau amgylcheddol. Yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, mae'r ymchwil hon yn ategu nodau Diwylliannau Amgylcheddol Caerdydd ac yn cynnig persbectif cymharol i’r prosiect Dyniaethau Ynni Cymru.

Mae Dr David Shackleton, sydd â diddordeb arbennig mewn sut mae llenyddiaeth yn ymwneud – neu’n methu ag ymwneud – â’r argyfwng amgylcheddol presennol, yn arwain y cymuned ymchwil Rhethreg ac Arferion Adferiad Gwyrdd mewn Dinasoedd. Ef hefyd yw awdur British Modernism and the Anthropocene: Experiments with Time a Visions of the Future: Afrofuturism, Risk, and the Environment. Mae ei fodiwl newydd, Mwyn-hewch Hyn! Llenyddiaeth y Byd, Ynni a’r Amgylchedd wedi’i lywio gan ei waith diweddar yn Nigeria.

Rhannu’r stori hon