Ewch i’r prif gynnwys

Pupils in Cardiff blast off to a brighter future

21 Gorffennaf 2023

Space Academy Cardiff 2023

Mae disgyblion ysgolion uwchradd o bob rhan o Gaerdydd wedi gweithio gyda'i gilydd i archwilio'r heriau a wynebir yn ystod cenhadaeth dychmygol i'r blaned Mawrth i ddatblygu anheddiad newydd sy'n gallu cynnal bywyd dynol.

Mae Academi Ofod 2023 yn rhaglen addysg wythnos o hyd i helpu pobl ifanc 13 a 14 oed i ddysgu mwy am ymdrechion byd-eang ar gyfer teithio ofod a gwladychu Mawrth. Crëwyd y cynllun ar gyfer plant o ysgolion uwchradd ar draws y ddinas, ac yn enwedig y rhai mewn grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, i'w hysbrydoli gyda gyrfaoedd STEM yn y diwydiant gofod – sector twf o fewn y ddinas a'r rhanbarth.

Gweithiodd chwe ysgol uwchradd gyda'i gilydd i i ymgysylltu â chyfres o gyrchoedd i heriau'r blaned Mawrth. Roedd digwyddiadau tîm yn gofyn i ddisgyblion weithio gyda'i gilydd i gynhyrchu cynigion ar gyfer adeiladu canolfan i gartrefu trefedigaeth ddynol. Gweithiodd y disgyblion yn greadigol i gynhyrchu dyluniad ar gyfer lansiad roced a roboteg Lego i archwilio'r tir a'r bywyd ar y blaned gan ddefnyddio'r dystiolaeth ymchwil ddiweddaraf.

Space Academy Cardiff workshop

Rhoddwyd cyfle i ddisgyblion weithio gydag ymchwilwyr blaenllaw o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd a'r Ysgol Peirianneg, ochr yn ochr â chyflogwyr lleol blaenllaw o'r sector awyrofod gan gynnwys Space Forge a Small Spark Space Systems, ac amrywiaeth o arbenigwyr allanol eraill.

Dywedodd yr Athro Paul Roche sy'n arwain y prosiect ar ran Prifysgol Caerdydd: "Cynigiodd Academi Ofod Caerdydd gyfle unigryw i ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o wyddoniaeth a thechnoleg sy'n gysylltiedig ag archwilio'r gofod. Am y tro cyntaf, profodd nifer yr ystod eang o gyfleoedd addysg uwch sy'n bodoli yn y brifysgol, yn ogystal â rhai o'r cyfleoedd cyflogaeth arloesol o fewn yr ardal leol".

Drwy gymryd rhan yn y profiadau dysgu amrywiol, roeddent yn gallu cymhwyso ac ehangu eu gwybodaeth am wyddoniaeth a thechnoleg yn ogystal â sgiliau annatod eraill sy'n ffurfio pileri'r cwricwlwm newydd yng Nghymru.

Space Academy Cardiff

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae Academi Ofod Caerdydd yn helpu i godi dyheadau ac ysbrydoli mwy o blant ysgol yng Nghaerdydd i ystyried ymgymryd â phynciau STEM ac agor eu llygaid i gyfleoedd gyrfa yn y diwydiant gofod yn y dyfodol. Enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth, mae digwyddiadau fel y rhain yn gweithio i arfogi pobl ifanc â'r wybodaeth a'r sgiliau cywir sydd eu hangen arnynt i lwyddo. Cawsant brofiadau, gwybodaeth a chyngor ar y rhagolygon gyrfa cyffrous sydd gan Gaerdydd i'w cynnig, sydd yn ei dro yn helpu cyflogwyr i gael mynediad at genhedlaeth o bobl ifanc sy'n wybodus, yn frwdfrydig ac yn gyffrous i weithio yng Nghaerdydd, gan helpu i dyfu sectorau yn ranbarthy y ddinas".

Yn dilyn y rhaglen wythnos o weithdai diddorol, dilynwyd arddangosiad arbennig o gyflawniadau'r disgyblion a seremoni raddio o Academi Ofod Caerdydd 2023 ar ddydd Gwener 7 Gorffennaf yn CultVR, canolfan celfyddydau digidol arloesol yn Grangetown.

Rhannu’r stori hon