Ewch i’r prif gynnwys

Cipolwg ar y Pipa 琵琶

11 Gorffennaf 2023

Cardiff Confucius Institute tutor Modi playing the Pipa, a traditional Chinese instrument
Tutor Modi playing Pipa, a traditional Chinese instrument

Mae Intern Athrofa Confucius Caerdydd Tia Liu yn cyfweld â’n cerddor preswyl a’r tiwtor Modi Zhu am ei thaith drwy gerddoriaeth draddodiadol Tsieineaidd.

Helo Modi diolch am siarad â mi am eich profiadau cerddorol. Allwch chi ddweud wrthym beth yw'r Pipa?

Mae’r pipa (pípá 琵琶) yn offeryn Tsieineaidd traddodiadol sydd â hanes 2,000 o flynyddoedd o hyd. Yn draddodiadol roedd 5 neu 6 tant iddo, ond y dyddiau hyn dim ond 4 tant sydd iddo fe, sy'n ei wneud yn fwy cyfleus i'w chwarae. Mae corff yr offeryn fel gellyg, ac fe'i delir yn unionsyth. Mae'r pipa yn perthyn i'r teulu liwt ac weithiau cyfeirir ato fel y 'Liwt Tsieineaidd'.

Pam wnaethoch chi ddysgu'r pipa?  

Mi ddysgais i’r piano i ddechrau. Ar ôl chwarae am amser hir awgrymodd fy rhieni i mi drio offeryn traddodiadol. Mae rhai o'r prif offerynnau Tsieineaidd traddodiadol yn cynnwys y guzheng a'r pipa. Mae’r guzheng yn offeryn mawr a thrwm iawn, ac mae’n anodd ei gludo, felly, roedd y pipa yn opsiwn mwy cyfleus.

Beth ydych chi'n ei hoffi am y pipa?

Rwy’n hoffi hanes y pipa a’i sŵn unigryw. Mae gan y pipa sain esmwyth iawn. Wrth chwarae cerddoriaeth draddodiadol Tsieineaidd, mae'r rhythm yn feddal iawn. Pan oeddwn i’n ifanc, roedd dysgu offeryn yn beth anodd iawn, ond ar ôl fy mhrofiad gyda’r piano, roedd y pipa yn llawer haws, ac fe wnes i fwynhau chwarae.

Pam ydych chi'n meddwl ei bod hi'n bwysig dysgu offerynnau traddodiadol?

Er mwyn deall gwlad, yn gyntaf mae angen i chi wybod rhywfaint o’r iaith, ond trwy chwarae offeryn traddodiadol gallwch ddeall sŵn ac emosiynau’r wlad. Bydd yr offeryn a cherddoriaeth draddodiadol yn adrodd stori i chi am y wlad neu ddiwylliant ac yn eich helpu i gysylltu â’r bobl. Pan oeddwn yn Guyana, roeddwn yn chwarae'r pipa yn eu steil lleol o gerddoriaeth, sy'n galonogol. Roedd y gerddoriaeth fel pont rhwng ein diwylliannau ac wedi ein helpu i fynegi cyfeillgarwch.

Tra'n gweithio yn Sefydliad Confucius Caerdydd, chwaraeodd Modi y pipa ar gyfer ein digwyddiadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd a Chanolfan Red Dragon:

Sylweddolais fod y digwyddiad nid yn unig ar gyfer rhannu ein diwylliant gyda thramorwyr, ond hefyd ar gyfer pobl Tsieineaidd sy'n byw yma a oedd am gysylltu â'u diwylliant a'u mamwlad. Roedd chwarae’r pipa yn fy ngalluogi i hefyd gysylltu â’r bobl Tsieineaidd a’u hatgoffa o gartref.

I unrhyw un sydd â diddordeb yn niwylliant China, dwi’n argymell dysgu’r pipa, yn enwedig os gallwch chi chwarae’r gitâr oherwydd maen nhw’n debyg iawn, felly bydd yn haws i chi ddysgu.

Rhestr o ganeuon y pipa

青花瓷 -"Porslen Glas a Gwyn"

春江花月夜 - "Afon Gwanwyn a Nos Lleuad"

发如雪 - "Gwallt fel Eira"

Rhannu’r stori hon