Ewch i’r prif gynnwys

Croeso i Aurora

6 Gorffennaf 2023

Mae CUREMeDE yn falch iawn o groesawu aelod newydd i'w tîm ehangach.

Mae Aurora Goodwin yn ymuno â ni yn ymchwilydd sy'n gweithio ar brosiect addysg feddygol dan arweiniad Julie Browne yn yr Ysgol Meddygaeth a Chyfarwyddwr CUREDEMEDE Alison Bullock yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Dyma a ddywed Aurora:

“Sut mae! Aurora Goodwin ydw i. Yn ddiweddar, cwblheuais i fy PhD ym maes Ymchwil ar Iaith a Chyfathrebu, lle y bues i’n canolbwyntio ar berfformiadau hunaniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Cyn hynny, bues i’n ymwneud rywfaint â byd addysg feddygol pan helpais i i oruchwylio traethawd hir IBSc, felly rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â CUREMeDE yn Gydymaith Ymchwil i ddatblygu’r berthynas iaith, cyfathrebu a gofal iechyd.

Rhannu’r stori hon