Ewch i’r prif gynnwys

CUREMeDE yn croesawu Hannah Trotman

19 Mehefin 2023

Mae CUREMeDE yn hapus iawn i groesawu cynorthwy-ydd ymchwil newydd i'r tîm. Mae Hannah Trotman yn ymuno â'r tîm am ychydig fisoedd fyn gynorthwy-ydd ymchwil. Bydd yn gweithio ochr yn ochr â Sophie Bartlett ar ystod o brosiectau sydd wedi’u hariannu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru, gan ganolbwyntio ar fferylliaeth. Meddai Hannah:

"Helo! Fy enw i yw Hannah Trotman, ac ar hyn o bryd rwy'n astudio ar gyfer gradd meistr mewn Seiciatreg yn Ysgol Meddygaeth Caerdydd! Drwy gydol fy ngradd israddedig mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, a fy MSc, rwyf wedi datblygu angerdd am ymchwil sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ym meysydd y gwyddorau meddygol a chymdeithasol.

Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i ymuno â thîm CUREMeDE yn gynorthwy-ydd ymchwil tymor byr. Bydda i’n helpu ar sawl prosiect sy'n canolbwyntio ar wella addysg iechyd yng Nghymru!"

Rhannu’r stori hon