Ewch i’r prif gynnwys

Dau weminar DPP rhad ac am ddim yn rhan o’r Wythnos Dysgu yn y Gwaith

6 Ebrill 2023

Learning at Work Week 2023 banner

Rydym wrth ein bodd ein bod yn gweithio mewn partneriaeth ag Wythnos Dysgu yn y Gwaith i gynnal dau weminar am ddim. Ymunwch â ni am sesiynau ar grefft adrodd straeon yn y gweithle, a phwysigrwydd yr economi greadigol i fusnesau ledled y DU.

Mae Wythnos Dysgu yn y Gwaith yn ddigwyddiad blynyddol unigryw. Nod y digwyddiad, sy'n cael ei arwain yn genedlaethol gan yr Ymgyrch dros Ddysgu a chyflogwyr yn eu sefydliadau, yw rhoi sylw ar bwysigrwydd a manteision dysgu a datblygu parhaus.

Mae’r tîm sy’n gyfrifol am ein Hysgolion Gwanwyn/Haf Rhithwir llwyddiannus wedi gweithio gydag academyddion o Ysgol Busnes Caerdydd a Chaerdydd Creadigol i gyflwyno dau weminar rhad ac am ddim i chi:

Creadigrwydd yn Creu Cyfleoedd Creadigrwydd yn Creu Cyfleoedd: twf a datblygiad economi greadigol y DU a pham mae’n bwysig i bob busnes

Sara Pepper Creative Cardiff

Yr Athro Sara Pepper | Caerdydd Creadigol/Clwstwr

Mae dros 2.5 miliwn o swyddi yn economi greadigol y DU. Mae'r gweithlu sylweddol hwn yn cwmpasu nifer o ddiwydiannau sydd â phobl greadigol - o ddylunwyr i beirianwyr meddalwedd, swyddogion marchnata gweithredol i ffotograffwyr - yn rhan o sefydliadau ar draws pob sector.

Bydd y sesiwn hon yn ystyried twf a datblygiad economi greadigol y DU yn y degawd diwethaf a pham mae’n bwysig i bob busnes, ac i gymdeithas.

Dydd Mercher 17 Mai

10:00 - 11:00

Cofrestrwch nawr

Dyfodol adrodd straeon yn y gweithle

The Future of Storytelling

Yr Thro Sarah Hurlow | Addysg Weithredol | Ysgol Busnes Caerdydd

Mae straeon ym mhobman - mewn ffilmiau, rhaglenni teledu, y newyddion, hysbysebion, clecs, nofelau ac amser gwely i blant. Maen nhw'n ein tynnu i mewn i daith yn ddeallusol, yn emosiynol ac yn ffisiolegol. Ac mae hyn yn golygu bod ganddyn nhw rôl bwerus i'w chwarae yn y gweithle.

Gellir defnyddio straeon i gyfleu negeseuon mawr am strategaeth, brandio neu newid yn ogystal â negeseuon o ddydd i ddydd am berfformiad, lles a gwelliant.

Bydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar ddefnyddio straeon i'ch helpu i wneud synnwyr i eraill yn ogystal â rhoi'r gallu i randdeiliaid - cwsmeriaid, cleifion, gweithwyr, dinasyddion - adrodd eu straeon er mwyn adeiladu cymuned a'n helpu i weld a gwneud pethau'n wahanol.

Bydd y sesiwn yn edrych ar rai o elfennau allweddol stori dda ac yn cynnig awgrymiadau cyflym ar gyfer bod yn storïwr da.

Dydd Iau 18 Mai

10:00 - 11:00

Cofrestrwch nawr

Sianel YouTube

A wyddoch chi? Mae gennym ystod enfawr o gynnwys DPP rhad ac am ddim ar ein sianel YouTube, gan gynnwys sesiynau ar feysydd mor amrywiol ag arweinyddiaeth, y diwydiant cerbydau trydan, oncoleg gymunedol a gofal lliniarol, ac arloesi ym maes gofal cymdeithasol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am gyfleoedd DPP ar gyfer eich sefydliad, mae croeso i chi gysylltu â'n tîm cyfeillgar am sgwrs anffurfiol:

Yr Uned Datblygu Proffesiynol Parhaus

Rhannu’r stori hon

Y diweddaraf o’n digwyddiadau a gwybodaeth am ein cyfleoedd datblygu proffesiynol.