Ewch i’r prif gynnwys

Diweddariad gan Shannon Costello

14 Ebrill 2023

Mae Shannon Costello, myfyrwraig PhD yn Uned Caerdydd ar gyfer Ymchwil ac Arfarnu mewn Addysg Feddygol a Deintyddol (CUREMeDE), bellach hanner ffordd drwy ei chyfnod casglu data. Mae wedi bod ar safleoedd ysbytai’n arsylwi sut mae’r staff yn defnyddio meddalwedd CareFlow Vitals ar ddyfeisiau iPad i gofnodi arwyddion o bwys. Mae’r rhai sy’n rhan o’r astudiaeth wedi bod yn groesawgar iawn a dangos diddordeb yn ystod y gwaith arsylwi ac mewn cyfweliadau. Hoffai Shannon ddiolch hefyd i bawb sydd wedi cymryd rhan hyd yma a llywio’r canlyniadau rhagarweiniol.

Mae ymchwil Shannon yn canolbwyntio ar dechnoleg symudol sy’n cynnwys meddalwedd a ddefnyddir i gofnodi arwyddion o bwys cleifion yng Nghymru. Ei nod yw deall sut mae'r dechnoleg hon yn effeithio ar benderfyniadau clinigwyr, sut mae’r tîm amlddisgyblaethol yn cydweithio, a sut y cafodd defnyddwyr eu paratoi ar gyfer gweithredu’r offeryn digidol hwn. Mae hefyd yn disgwyl gallu adrodd ar fanteision y dyfeisiau, ynghyd ag unrhyw broblemau y gall clinigwyr fod wedi eu hwynebu.

Gyda phedwar mis ar ôl yn y cyfnod hwn, mae Shannon yn edrych ymlaen at barhau i gasglu data, recriwtio rhagor o unigolion i gymryd rhan, ac yn y pen draw, ysgrifennu ei thesis.

Rhannu’r stori hon