Dod â lwc dda i 2023
22 Chwefror 2023
Mae Tsieina yn un o lawer o wledydd ar draws y byd sy'n defnyddio'r calendr lleuadol, system sy'n seiliedig ar gyfnodau'r lleuad.
Mae hyn yn golygu, wrth i 'flwyddyn newydd y lleuad' ddisgyn ar yr ail lleuad newydd ar ôl heuldro'r gaeaf, mae'r dyddiad yn newid bob blwyddyn. Yn 2023, disgynnodd y digwyddiad a elwir hefyd yn y 'Flwyddyn Newydd Tsieineaidd' ar 22 Ionawr, a nododd tiwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd y diwrnod arbennig hwn a'r Ŵyl Wanwyn nesaf gyda chymunedau lleol, myfyrwyr ac ysgolion ledled Cymru.
Cymuned
Gwnaeth y tiwtor Mandarin Wei Tang waith rhagorol yn gweithio ar y cyd â Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd a Chanolfan y Ddraig Goch ar gyfer eu Dathliadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd. Cynhaliwyd y digwyddiad cyntaf yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd ar 21 Ionawr ac roedd dros fil o aelodau'r cyhoedd yn bresennol. Roedd yn cynnwys gweithgareddau a pherfformiadau ar gyfer bob oedran gan gynnwys cerddoriaeth, Tai Chi, sesiynau blasu iaith a gwneud masgiau.
Bu ein tiwtoriaid hefyd yn gweithio gyda Chanolfan y Ddraig Goch yng Nghaerdydd, gan nodi'r diwrnod unigryw hwn yn y calendr Tsieineaidd gyda chymysgedd o ddathliadau gan gynnwys caligraffi, torri papur, gwneud llusernau ac adrodd straeon. Cafodd cannoedd o gyfranogwyr gyfle hefyd i fwynhau adloniant gan gynnwys Dawns Llew a cherddoriaeth pipa.
Prifysgol
Ar 1 Chwefror, cynhaliodd Sefydliad Confucius Caerdydd, Bywyd Preswyl ac Ieithoedd i Bawb ddigwyddiad ar y cyd i ddathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd. Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr nodedig Prifysgol Caerdydd ac roedd dros 250 o fyfyrwyr yn bresennol. Yn ystod y dydd, roedd y cyfranogwyr yn gallu profi eu sgiliau caligraffi a dysgu rhai ymadroddion defnyddiol mewn Mandarin, i gyd wrth fwynhau bwyd am ddim a ddarparwyd gan Arlwyo'r Brifysgol. Gwnaethant lusernau papur hefyd i baratoi ar gyfer Gŵyl y Llusernau ar 5 Chwefror, sy'n nodi diwedd yr Ŵyl Wanwyn tair wythnos yn Tsieina.
Cynhaliwyd 'Cornel Tsieineaidd' hefyd ar 25 Ionawr ar gyfer tua 40 o gyfranogwyr yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Bu'r tiwtor Ling He yn trafod hanes yr Ŵyl Wanwyn, sut mae pobl Tsieineaidd yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, a'r ffyrdd y mae'r ŵyl wedi newid dros y blynyddoedd. Bu'r tiwtor Modi Zhu hefyd yn chwarae'r Pipa, offeryn cerdd Tsieineaidd traddodiadol, a chymerodd y cyfranogwyr ran mewn 'gweithgaredd dyfalu llusern' a gwneud addurniadau Blwyddyn Newydd Tsieineaidd arbennig i ddod â lwc dda.
Cynhelir y Gornel Tsieineaidd nesaf ar Wyliau a Bwyd ddydd Mercher, 22 Chwefror 18:30 - 20:00 yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr. Cofrestrwch ar Eventbrite.
Ysgolion
Mwynhaodd plant o bob cwr o Gymru Ŵyl Ar-lein Blwyddyn Newydd Tsieineaidd i ysgolion ar 20 Ionawr. Cafodd bron i 1200 o ddisgyblion o 22 o ysgolion cynradd ac uwchradd ddiwrnod o sesiynau rhyngweithiol byw ac adnoddau yn y dosbarth. Roedd y sesiynau'n cynnwys cyflwyniad i addurniadau blwyddyn newydd fel sgroliau, geiriau 'Fu' a thoriadau papur ffenestr; cyflwyniad cam wrth gam i wneud pryd bwyd Tsieineaidd glasurol, wedi'i ffrydio'n fyw o un o geginau'r tiwtor; a stori draig Loong, creadur chwedlonol ym mytholeg Tsieineaidd.
Cafodd ysgolion nad oeddent yn gallu mynychu'r sesiynau hefyd y cyfle i gymryd rhan. I weld y sesiynau a recordiwyd ewch i'r dudalen hon.
Bu tiwtoriaid hefyd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau a 'Dyddiau Tsieina' mewn ysgolion. Roedd y rhain yn cynnwys gemau chopsticks yn Ysgol Uwchradd St Cyres ym Mhenarth; cyflwyniad i linach Shang, gan gynnwys caligraffi ac arysgrifau asgwrn oracl yn Ysgol Gynradd Caedraw ym Merthyr Tudful; a digwyddiad sydd ar y gweill yn Ysgol Gynradd Gatholig Holy Family yng Nghaerdydd a fydd yn canolbwyntio'n arbennig ar sut mae pobl Hong Kong yn dathlu'r adeg arbennig hon o'r flwyddyn.