Ewch i’r prif gynnwys

Gyda’n gilydd yn gryfach: gwerthoedd a gweledigaethau pêl-droed Cymru

13 Ionawr 2023

Image of a football with the Welsh dragon printed on it. The football is on the pitch in a stadium.

Rhoi Cymru ar fap y byd ochr yn ochr â gwerthoedd a gweledigaeth pêl-droed Cymru oedd y pwnc a drafodwyd yn y Sesiwn Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd diweddaraf ar 8 Tachwedd 2022.

Cyn-gapten menywod Cymru, yr Athro Laura McAllister, oedd yn cynnal y sgwrs gyda Noel Mooney, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru (FAW) ychydig cyn i Gwpan y Byd Dynion FIFA 2022 ddechrau. Mae Laura yn Athro mewn Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dechreuodd Laura drwy ofyn i Noel, “beth mae bachgen o Limerick yn ei wneud yng Nghymru?” Gyda’i gilydd, buont yn trafod y daith a’i harweiniodd at ei rôl bresennol gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Esboniodd Noel fod busnes pêl-droed wedi bod o ddiddordeb iddo erioed a rhannodd sut y dechreuodd ei gymdeithas bêl-droed ei hun yn 12 oed yn y pentref lle cafodd ei fagu yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Dywedodd Noel: “Roedd gen i’r cariad mawr yma at bêl-droed ei hun ond hefyd sut i weinyddu, sut i dyfu’r gamp, sut i farchnata’r gamp. Hyd yn oed pan es i ymlaen i fod yn chwaraewr, roedd gen i ddiddordeb mawr mewn torfeydd a busnes y gamp, adeiladu stadia ac ymgysylltu â’r gymuned.”

Mae cefndir Noel yn cynnwys gweithio i Gymdeithas Bêl-droed Iwerddon. Treuliodd 10 mlynedd yn arwain datblygiad strategol ar gyfer UEFA, gan ddelio â chlybiau mwyaf y byd.

Pan ddechreuodd yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru 15 mis yn ôl, esboniodd Noel fod angen dybryd i greu map ffordd ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Gweithredodd yr hyn y mae’n ei alw’n “rheolaeth newid gweddol gyflym” ac o fewn deufis, fe lansion nhw strategaeth newydd gyda’r blaenoriaethau a ganlyn i wneud y canlynol:

  • gyrru perfformiad uchel
  • bod yn sefydliad cynaliadwy ar gyfer y dyfodol
  • ysgogi cyfranogiad
  • adeiladu gweithlu gwych
  • adeiladu cyfleusterau ysbrydoledig ac addas at y diben
  • rhoi Cymru ar lwyfan y byd

Mae gwerthoedd yn allweddol i Noel: “Nid yw’n ymwneud â phêl-droed yn unig, ond yr hyn y gall pêl-droed ei wneud i gymunedau. Mae gennym ni’r cyfle hwn nawr i fyw ein gwerthoedd ar lwyfan y byd.” Esboniodd, “mae’n teimlo fel bod gennym ni gyfle i adeiladu ar rywbeth sy’n ymwneud nid yn unig â phêl-droed, ond yn rhan o esblygiad diwylliannol y wlad.”

Wrth siarad am sut y gallant yrru’r gêm yn ei blaen, dywedodd: “mae angen inni barhau i ddatblygu ein strwythurau llywodraethu.” Ychwanegodd, “rydym angen bwrdd ac mae angen cyngor sy’n adlewyrchu Cymru fodern.” Mae eisiau cydraddoldeb rhwng y rhywiau “nid oherwydd ei fod yn ticio blwch ond oherwydd ein bod yn gwneud penderfyniadau gwell”. Ac mae’r un peth yn wir am “bobl sy’n dod o wahanol ddosbarthiadau, gwahanol rannau o’r byd.”

Eu camau nesaf fydd edrych ar y rhannau y mae angen iddynt eu hehangu, defnyddio ymchwil a data, gweithio gyda phrifysgolion a defnyddio'r wlad gyfan i adeiladu partneriaethau i roi'r fantais iddynt. Bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd yn adeiladu ar ei hymwneud cynyddol â materion cyhoeddus.

Eglurodd Noel ei fod am arwain Cymdeithas Bêl-droed Cymru drwy'r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau, a dywedodd mai eu nod yw bod o safon fyd-eang ar y cae ac oddi ar y cae.

Gwylio recordiad llawn o'r digwyddiad.

Mae Cyfres Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.

Rhannu’r stori hon